Agenda item

ADOLYGIAD O FLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020-2023

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd wedi'i atodi i Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Cyngor Sir Caerfyrddin 2020-23 i'w ystyried.  Amlinellodd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y cynnydd yr oedd y Cyngor yn ei wneud wrth gyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol gan gyfeirio at y Ddeddf.Mae'r Cynllun yn ymdrin â'r cyfnod rhwng Ionawr 2020 a Rhagfyr 2022.

 

Er mwyn cyflwyno tystiolaeth o'r ddyletswydd hon, o dan y Ddeddf Amgylchedd, roedd dyletswydd statudol ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i baratoi a chyflawni ei Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 sy'n cael ei rhoi arni gan y Ddeddf hon. Mae'r cynllun yn cwmpasu cyfnod o dair blynedd.  Yn ogystal, mae'n ofyniad statudol bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn adrodd ar ddarpariaeth ei Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd i Lywodraeth Cymru bob tair blynedd ac mae'r adroddiad nesaf i'w gyflwyno erbyn mis Rhagfyr 2022.

 

 

Nododd yr Aelodau fod dull Sir Gaerfyrddin o ddatblygu a chyflawni ei Flaen-gynllun wedi cynnwys ymgysylltu â swyddogion i edrych ar eu harferion gwaith, eu cynlluniau a'u prosiectau tra'n eu cynorthwyo i nodi cyfleoedd presennol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, ochr yn ochr â chyflawni eu rhwymedigaethau a'u hamcanion eraill.

 

Pwysleisiodd yr adroddiad fod y camau a nodwyd yn y Blaengynllun yn gysylltiedig ag Amcanion Llesiant y Cyngor a nodwyd dyddiadau targed ar gyfer cyflawni pob cam gweithredu a nodwyd y swyddi a oedd yn gyfrifol.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y golofn 'Erbyn Pryd neu Darged Diwedd y Flwyddyn'.  Codwyd sylw ynghylch yr adrodd anghyson o ran y targedau gweithredu.  Doedd gan rai ddim targedau, roedd gan eraill ddyddiadau yn y gorffennol ac roedd rhai'n parhau ar waith, codwyd y byddai eglurder pellach o ran targedau yn fuddiol wrth symud ymlaen.  Roedd Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol wrth egluro'r disgrifiad o'r targedau, yn cydnabod y byddai'n fuddiol i'r targedau fod yn fwy disgrifiadol er mwyn rhoi gwell eglurder a dealltwriaeth i'r darllenydd.  Yn ogystal, rhoddodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad ddiweddariad ar lafar ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag adran 3 o'r cynllun.

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y broses o roi coed newydd yn lle'r coed ynn sydd wedi'u gwaredu o ganlyniad i Glefyd Coed Ynn, eglurodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad fod plannu coed newydd yn rhan annatod o gynllun Clefyd Coed Ynn gan nodi bod 200+ o goed newydd wedi'u plannu dros y 2 aeaf diwethaf ger Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, a bydd rhagor o yn cael eu plannu dros y gaeaf hwn.  Yn ogystal, nodwyd bod 3 safle wedi'u nodi ar gyfer plannu'r gaeaf hwn o ran eiddo a oedd wedi cael ei osod yn flynyddol ar gyfer pori, gyda grantiau Creu Coetiroedd Glastir gan Lywodraeth Cymru.  Dywedwyd bod y grantiau hyn wedi cymryd 2 flynedd i'w cytuno ac yn hynny o beth roedd rhaglen o geisiadau grant ar waith yn dilyn nodi tir addas heb unrhyw werth bioamrywiaeth presennol ar gyfer plannu coed newydd.  Cafodd aelodau wybod bod ardaloedd newydd ar gyfer plannu yn cael eu ceisio ar draws y Sir o dan yr adolygiad tir strategol.

 

Gofynnwyd a oedd y coed newydd a blannwyd ar dir Awdurdod Lleol yn cael eu bwydo i dargedau presennol Llywodraeth Cymru o ran nifer yr erwau o fewn cyfnod amser penodol?  Yn ôl y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad cafodd gwaith plannu coed newydd ei ariannu gan Gynllun Creu Coetiroedd Glastir a fyddai wedyn yn cael ei gyfrif tuag at dargedau Llywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd y byddai strategaeth coed yn cael ei datblygu eleni a fyddai'n cynnwys sut mae'r Cyngor yn buddsoddi ac yn rheoli ei bortffolio coed ar draws y Sir.  Yn ogystal, eglurwyd, er mwyn rheoli asedau'r Cyngor, y byddai offeryn porth / rheoli yn cael ei ddatblygu i gynorthwyo gyda rheoli Clefyd Coedd Ynn ar dir y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch rhoi coed newydd yn lle'r coed ynn, dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad nad oedd coed ynn yn cael eu plannu gan nad oedd meithrinfeydd yn cynhyrchu'r rhywogaeth.  Roedd llawer o rywogaethau brodorol eraill yn cael eu plannu a oedd yn cynnwys Derw, Asbri, Aethnenni, Bedw a Cheirios Duon i enwi rhai er mwyn gwneud coetiroedd yn wydn i heriau i glefydau coed yn y dyfodol.

 

Esboniodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad fod swydd barhaol Swyddog Diogelwch Coed yn gysylltiedig ar lefel genedlaethol yng Nghymru o ran Clefyd Coed Ynn a adroddodd fod Sir Gaerfyrddin yn arweinydd i awdurdodau lleol Cymru o ran rheoli'r clefyd.

 

·       Gofynnwyd a oedd unrhyw gymorth ar gael ar gyfer prosiectau llai o fewn Cynghorau Tref a Chymuned?  Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad fod cysylltiadau ar waith drwy'r Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ac mae llawer o ffrydiau cyllido eraill ar gael i Gynghorau Tref a Chymuned i blannu coed, megis Coed Cadw.  Cadarnhawyd cysylltiadau agos ag Un Llais Cymru i ddarparu gwybodaeth a lle i gael mynediad at arian prosiect. Fodd bynnag, byddai'r tîm Cadwraeth a Bioamrywiaeth yn hapus i ymateb i geisiadau am gyngor a syniadau.

 

Yn ogystal, wrth ddweud ei bod yn ymddangos bod cefnogaeth gyfyngedig i Gynghorau Tref a Chymuned, gofynnwyd a oedd unrhyw le i roi cymorth i helpu i gynnal asedau yn y tymor hwy.  Y teimlad oedd bod Cynghorau Cymuned lleol yn ofalus wrth ymwneud â phrosiectau bach oherwydd goblygiadau posib i'r gyllideb yn y tymor hwy.  Cytunodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad, wrth gydnabod y pryder, nad oedd ateb ar hyn o bryd gan fod llawer o'r cyllid ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn dod o gyllidebau cyfalaf.  Cynghorwyd pwysleisio cadw costau cynnal a chadw yn y dyfodol mor isel â phosibl o gyfnod dylunio prosiect.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â nifer yr hectarau roedd y Cyngor wedi cynllunio ar gyfer y plannu coed newydd dan Gynllun Creu Coetiroedd Glastir, dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad mai'r bwriad oedd plannu tua 4.5 hectar gyda Chynllun Coetiroedd Glastir a 2.5 hectar pellach y flwyddyn nesaf, yn amodol ar dderbyn y cynigion. 

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cynnal a chadw coed drwy'r cyfnod o dyfu, eglurodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad fod Glastir yn darparu taliadau blynyddol i'r ardaloedd o dan y cynllun hwnnw. 

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor, i gasglu'r adborth a gafwyd gan y Panel Cynghori ar Newid Hinsawdd, swyddogion ac Aelodau mewn perthynas â'r camau sy'n gysylltiedig â Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Cyngor Sir Caerfyrddin a'i adrodd i'r Pwyllgor. Byddai'r dull rhagweithiol hwn yn helpu i lywio a llunio'r cynllun 3 blynedd nesaf.   Wrth groesawu'r dull hwn, cynigiwyd yn ffurfiol bod yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cyflwyno'r adborth perthnasol mewn perthynas â'r camau gweithredu o fewn Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Cyngor Sir Caerfyrddin i'r Pwyllgor.   Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1      bod  yr adolygiad o Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin 2020-2023 yn cael ei dderbyn a

 

7.2      nodi'r cynnydd y mae'r Cyngor yn ei wneud o ran cyflawni ei Flaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr 7.2 a mis Rhagfyr 2022 a bodloni ei rwymedigaeth gyfreithiol wrth gyfeirio at y Ddeddf.

 

7.3      bod yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn darparu'r adborth perthnasol mewn perthynas â'r camau gweithredu o fewn Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Cyngor Sir Caerfyrddin i'r Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ategol: