Agenda item

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynllun Archwilio Mewnol 2022/23. Dywedwyd bod y gyfradd gwblhau hyd yma yn 28% yn erbyn y targed cwblhau o 30%. Adolygodd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chyflwyno'r rhaglen archwilio yn briodol.

 

Yna, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at yr Adroddiadau Argymhellion Blaenoriaeth 1 a oedd wedi'u cwblhau a oedd yn cynnwys adolygiadau a gwblhawyd lle'r oedd gan systemau un neu fwy o wendidau rheoli sylfaenol neu a oedd yn cynnwys adolygiadau yr oedd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol wedi cytuno y dylid eu rhoi gerbron y Pwyllgor. Ystyriodd y Pwyllgor yn briodol yr adolygiadau canlynol a gafodd eu hatodi i'r adroddiad fel Rhan Bi a Rhan Bii:

 

1. Prydau Ysgol - Anghenion arbennig o ran diet

2. Teithio a Chynhaliaeth

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Rhan Bii: Prydau Ysgol - Anghenion arbennig o ran diet

 

·   O ran alergenau bwyd, dywedwyd ei bod yn hanfodol bod ysgolion yn mabwysiadu arferion cyfathrebu da rhwng yr holl athrawon a'r gwasanaeth arlwyo a beth i'w wneud yn achos adwaith. Braf oedd nodi bod mesurau wedi'u rhoi ar waith.

 

·   Dywedwyd ei bod yn gadarnhaol nodi bod mesurau wedi'u rhoi ar waith i roi cyfrif am drosglwyddiadau canol tymor. O ran dilyniant disgyblion blwyddyn 6 o ysgolion cynradd i flwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd gofynnwyd a fyddai'n ofynnol i rieni ailgofnodi alergenau neu anghenion arbennig o ran deiet? Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg y gofynnir i rieni nodi unrhyw ofynion deietegol arbenigol ar y ffurflen gais fel rhan o geisiadau derbyn i'r ysgol o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Bydd y wybodaeth hon ar gael i staff yr ysgol uwchradd, yn ogystal bydd y staff yn cysylltu â'r rhiant i drafod y gofynion dietegol penodedig a beth i'w wneud os bydd adwaith.

 

Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol, eglurwyd, gan fod ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn gweithredu systemau gwahanol, bod cyfrifoldeb cychwynnol ar rieni i ddarparu gwybodaeth gyfredol a'r ysgol hefyd i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol.

 

·   Gofynnwyd a oedd unrhyw bolisïau ychwanegol ar waith i ddiogelu plant mewn gofal maeth? Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad oedd yn ymwybodol o unrhyw bolisïau ychwanegol sydd ar waith fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd y byddai'n codi'r pwynt hwn gyda'r gwasanaeth perthnasol ac y byddai'n rhoi unrhyw fesurau ychwanegol a nodwyd ar waith.

 

·   Wrth gydnabod arwyddocâd pobl sy'n dioddef o alergenau bwyd, gofynnwyd a oedd y mater hwn yn cael ei gynnwys yng nghofrestr risg yr adran addysg ar gyfer monitro? Nid oedd y Pennaeth Mynediad i Addysg yn gallu rhoi ateb pendant adeg y cyfarfod ond byddai'n gwirio ac yn cadarnhau a oedd yn cael ei gynnwys ar y gofrestr risg neu beidio. Ychwanegodd, pe na bai'n cael ei gynnwys, y byddai'n sicrhau y byddai'n cael ei ychwanegu.

 

·   Gofynnwyd a oedd polisi neu system ar waith i adrodd ar ddamweiniau a fu bron â digwydd a'u monitro. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad oedd yn ymwybodol o unrhyw fecanwaith adrodd penodol ar waith yn dilyn yr angen i ddefnyddio EpiPen, fodd bynnag, mae gan bob ysgol system adrodd gyffredinol ar waith o ran iechyd a diogelwch ac felly rhagwelwyd y byddai hyn yn cael ei gofnodi drwy'r system honno. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg y byddai'n holi ymhellach. Ychwanegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) mewn perthynas â chofnodi alergenau mewn ysgolion, er bod ysgolion yn cofnodi materion ar eu cronfeydd data lleol, eu bod hefyd yn cael eu bwydo i'r tîm iechyd a diogelwch corfforaethol. Rhoddwyd sicrwydd bod digwyddiadau a oedd yn codi yn cael eu hystyried ac yr ymatebir iddynt yn ganolog ac yn gorfforaethol o ran polisïau a chanllawiau yn ôl yr angen.

 

·   Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r gadwyn gyflenwi, dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod gan y cyflenwyr a ddefnyddir ddull cadarn o ran labelu ar gyfer cynhwysion y bwyd a gyflenwir.

 

·   Awgrymwyd y gellid trefnu sesiynau briffio i godi ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau bod staff Ysgol a Chyrff Llywodraethu Ysgolion yn cael gwybod am y gofynion a'r wybodaeth angenrheidiol. Croesawodd y Pennaeth Mynediad i Addysg yr adborth a chytunodd y byddai sesiynau briffio i benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion yn fuddiol i godi'r mater pwysig hwn.

 

Rhan Bii: Teithio a Chynhaliaeth

 

Yn ogystal â'r adroddiad, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) wrth y Pwyllgor fod y Polisi Teithio a Threuliau Cysylltiedig wedi newid o ganlyniad i gael ei ystyried gan y Tîm Rheoli Corfforaethol yn ddiweddar. Yn ogystal, er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei gyfathrebu'n glir i staff, byddai cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu ar y cyd â'r Tîm Cyfathrebu. Yn ogystal, roedd gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda'r tîm Trawsnewid i Wneud Cynnydd i ddatblygu dangosfwrdd gwariant arferol i alluogi cynnal dadansoddiad er mwyn llywio datblygiad polisïau'r dyfodol.

 

·     Gwnaed ymholiad ynghylch y polisi newydd a phryd y byddai'n dod i rym. Eglurodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) fod y polisi yn cael ei ystyried gan y Tîm Rheoli Corfforaethol ar hyn o bryd ac er bod ganddo ddigon o ddirprwyaeth i gymeradwyo'r polisi, y gobaith oedd y byddai'r polisi'n cael ei gymeradwyo yn fuan yn dilyn trafodaethau angenrheidiol gyda Phennaeth y Gyfraith a Gweinyddiaeth.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad cynnydd y Diweddariad ynghylch Cynllun Archwilio Mewnol 2022/23 ac adroddiadau argymhellion blaenoriaeth 1.

 

 

Dogfennau ategol: