Agenda item

ADOLYGIAD CENEDLAETHOL: TALIADAU UNIONGYRCHOL AR GYFER GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Archwilio Cymru ar yr Adolygiad Cenedlaethol o Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

Roedd yr adroddiad cenedlaethol yn ystyried sut roedd Taliadau Uniongyrchol yn helpu pobl i fyw yn annibynnol. Roedd y Taliadau Uniongyrchol yn ddewis amgen i gymorth neu ofal a drefnwyd gan awdurdod lleol a gallai helpu i ddiwallu anghenion yr unigolyn neu'r gofalwr. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn ystyried sut yr oedd Awdurdodau Lleol yn rheoli ac yn annog pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol ac a oedd y gwasanaethau yn cynnig gwerth am arian.

 

Dywedwyd, er bod yr adroddiad yn asesu'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol, nid oedd yn mynd i'r afael ag unrhyw un o'r diffygion. Fodd bynnag, roedd ymgyrch polisi cenedlaethol ar waith i gynyddu taliadau uniongyrchol, ond roedd yr adroddiad yn methu â chydnabod nad taliadau uniongyrchol oedd yr opsiwn cywir ym mhob achos bob amser.

 

Roedd yr adolygiad wedi nodi 10 argymhelliad oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd sylw i'r ymholiadau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad, fel a ganlyn:

 

·       Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor ei bod yn galonogol bod yr adroddiad yn gadarnhaol, ar y cyfan, a bod yr agweddau a godwyd yn unol â'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru.

 

·       Cyfeiriwyd at baragraff a nodwyd ar dudalen 5 yr adroddiad - 'Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi cymorth i bobl reoli eu Taliad Uniongyrchol a’u cyfrifoldebau cyflogaeth'. Gofynnwyd sut yr ymdriniwyd â hyn? Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod tîm y gwasanaeth cymorth mewnol yn rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion i reoli eu taliad uniongyrchol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â pholisi'r Cyngor o ran hawlio taliadau oedd wedi cronni yn ôl, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod proses gymharol gymhleth ar hyn o bryd o ran adolygu sefyllfa cyfrifon unigol, ond roedd atebion technolegol yn cael eu hystyried i helpu i reoli cyfrifon unigol megis cardiau wedi'u rhagdalu.

 

·       Mynegwyd pryder nad oedd crynodeb gweithredol yr adroddiad wedi cynnwys unrhyw oblygiadau cost/ariannol neu staffio nac wedi tynnu sylw at y materion hynny. Wrth gydnabod, o ystyried natur yr adroddiad, bod goblygiadau o ran materion ariannol a staffio, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig nad oedd unrhyw oblygiadau staffio nac ariannol newydd i dynnu sylw atynt gan fod y seilwaith staffio eisoes ar waith a bod y cyllidebau eisoes wedi'u dyrannu. Er mwyn bodloni'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad, byddai staff a chyllidebau presennol yn cael eu defnyddio a'u sianelu yn unol â hynny.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yn gofyn a fyddai'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig nad oedd yn ofynnol iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu o safbwynt llywodraethu.

 

·       O ran y Taliadau Uniongyrchol, wrth gydnabod bod dyraniad ar gyfer 'time for care', gwnaed sylw bod dyraniad digonol ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â rhoi taliadau uniongyrchol i unigolion. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod tîm y gwasanaeth cymorth mewnol yn cynnwys cost y gyflogres. Mae'r berthynas gyflogi yn cael ei chynnwys yn y gyfradd ac yn cael ei rheoli'n unigol. Yn ogystal, mae Sir Gaerfyrddin yn mabwysiadu strwythur talu hyblyg. Er bod cyfraddau penodol ar gyfer rhai agweddau ar ofal mae cyfraddau eraill yn cael eu pennu gan anghenion a threfniadau unigolyn o ran ei ofal a'i gymorth.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch adrodd ar gynnydd yr argymhellion yn yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y byddai'r Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol sy'n cynnwys pob adolygiad archwilio allanol, gan gynnwys yr adolygiad hwn, i'w ystyried ym mis Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

3.2.1     nodi canfyddiadau ac argymhellion adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru;

 

3.2.2     cymeradwyo ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin i argymhellion yr adroddiad cenedlaethol sy'n berthnasol i'r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: