A fyddech chi’n gallu rhoi diweddariad i mi gan gynnwys manylion y gwaith a wnaed, y canlyniadau a chamau nesaf y Panel Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Pobl Ddu, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol. Hefyd a fyddech yn gallu anfon copi e-bost ataf neu roi’r ddolen i’r adroddiad gorffenedig i mi.”
Cofnodion:
A fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi gan gynnwys manylion am y gwaith a wnaed, y canlyniadau a chamau nesaf Panel Gorchwyl a Gorffen - Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Hefyd a fyddech yn gallu anfon copi e-bost ataf neu roi’r ddolen i’r adroddiad gorffenedig i mi.”
Ateb gan y Cynghorydd Ann Davies - Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio
Diolch i chi am eich cwestiwn.
Fel yr ydym yn gwybod sefydlwyd y Panel Gorchwyl a Gorffen - Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ymateb i ddau Rybudd o Gynnig a ddaeth gerbron y Cyngor. Cwmpas gwaith cyfyngedig oedd gan y panel, ac mae rhywfaint ohono wedi'i gwblhau ac mae rhywfaint yn o broses o gael ei gwblhau.
O ran y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud, cafodd y Panel, y Gr?p Gorchwyl a Gorffen - Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ei gyfarfod diwethaf yn ystod Haf 2021, dros flwyddyn yn ôl ac, ar yr adeg honno, roedd y gr?p wedi cytuno ar gyfres o argymhellion ac roedd wrthi'n trefnu'r adroddiad drafft gyda'r bwriad o'i gyflwyno i'r Cabinet ar ddiwedd y flwyddyn honno.
Yn anffodus, roedd oedi am gyfnod byr a bu'n rhaid gohirio'r adroddiad tan ar ôl dechrau'r flwyddyn. Oherwydd dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol ym mis Mawrth, cadwyd yr adroddiad ac roedd gwaith y Panel i'w ystyried yn y tymor newydd hwn.
Fel mater o broses, mae pob gweinyddiaeth yn adolygu'r Panelau Ymgynghorol sydd ar gael iddynt ac fel rhan o'r adroddiad a ddaeth gerbron y Cabinet ym mis Gorffennaf eleni cytunwyd na fyddai'r Cabinet yn gofyn i'r Panel ailymgynnull ond, hoffai weld yr adroddiad a bydd yr adroddiad hwn yn destun y broses ddemocrataidd yn fuan iawn ac rwy'n hyderus iawn y byddaf yn ei gyflwyno i'r Cabinet hwn dros y mis neu ddau nesaf.
Dylwn dynnu sylw at y ffaith bod yr adroddiad interim gan y panel wedi dod gerbron y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 a chytunwyd ar yr argymhellion hynny yn yr adroddiad hwnnw a chawsant eu rhoi ar waith ychydig amser yn ôl. Felly, mae rhywfaint o'r gwaith wedi'i gwblhau eisoes.
O ran y canlyniadau, mae rhai o'r argymhellion o'r adroddiad wedi eu cynnwys yn Natganiad Gweledigaeth y weinyddiaeth hon, ac mae'r canlyniadau yn cyfeirio at recriwtio a chynrychiolaeth a pharhau â'r ymgyrch i sicrhau bod y sefydliad yn gynhwysol ac yn amrywiol. Mae rhai o'r argymhellion hefyd wedi cael eu cynnwys gyda newidiadau mewn polisi cenedlaethol.
Ar lefel genedlaethol, rydym wedi gweld adroddiad y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn y Cwricwlwm Newydd yn cael ei gyhoeddi sydd eisoes wedi achosi newidiadau i Hanes Pobl Dduon a ddysgir yng nghwricwlwm ysgolion.
Rydym hefyd wedi gweld 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn cael ei gyhoeddi sy'n nodi'r camau angenrheidiol dros y ddwy flynedd nesaf i gyflawni'r weledigaeth hirdymor o fod yn genedl wrth-hiliol. Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ac rydym yn cefnogi'r weledigaeth hon yn llwyr.
Fel y soniais, y cam nesaf yw cyhoeddi'r adroddiad terfynol hwn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno'r Cynllun i'r Cabinet dros y ddau fis nesaf.
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Tina Higgins
Mae'n braf clywed am y gwaith sydd wedi cael ei wneud a diolch i ti Ann am yr ateb y bore yma. Mae'n wych clywed beth sydd wedi ei gyflawni'n barod. Hoffwn ofyn a fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno o'r Cyngor llawn?
Ateb gan y Cynghorydd Ann Davies - Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio
Bydd, diolch Tina. Y broses yw y bydd yn dod gerbron y Cabinet ac yna'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. Felly, ni fydd yn mynd i'r Pwyllgor Craffu gan fod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi dod o'r Cabinet felly, yn syth i'r Cabinet ac yn syth i'r Cyngor llawn