Agenda item

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I'R CYNGHORYDD GARETH JOHN, YR AELOD CABINET DROS ADFYWIO, HAMDDEN, DIWYLLIANT A THWRISTIAETH

“Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn derbyn £38.6m dros y 3 blynedd nesaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi rhanbarthol lefel uchel wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A allai'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi gwybod i ni am y canlynol:

1. Y broses ar gyfer cytuno pa brosiectau lleol fydd yn mynd ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ar draws Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau a gymeradwyir.

3. A oes mesurau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu llyncu gan y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r mesurau diogelu hyn.

4. Pa mor barod yw prosiectau arfaethedig y mae'n amlwg y bydd angen iddynt fwrw iddi’n syth er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o wariant a’r canlyniadau gorau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1.

5. Pa un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod prosiectau a gymeradwyir yn annhebygol o ddechrau tan ddiwedd 2022 ar y cynharaf.” 

 

Cofnodion:

 “Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn cael £38.6 miliwn dros y 3 blynedd nesaf trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol lefel uchel wedi cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A oes modd i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi cyngor ynghylch y canlynol?

1. Y broses ar gyfer cytuno ynghylch pa brosiectau lleol fydd yn symud ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau cymeradwy.

3. P'un a oes trefniadau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu cynnwys yn y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r trefniadau diogelu hyn.

4. Sefyllfa prosiectau arfaethedig o ran bod yn barod, ac yn amlwg bydd angen iddynt fwrw iddi ar unwaith er mwyn manteisio'n llawn ar y gwariant a'r canlyniadau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1. 5. P'un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod y prosiectau a gymeradwywyd yn annhebygol o ddechrau tan o leiaf ddiwedd 2022.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Gareth John - yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:-

“Diolch am y cwestiwn a hefyd am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor ac i'r cyhoedd ehangach ynghylch y sefyllfa bresennol o ran cynlluniau Sir Gaerfyrddin i gael y budd mwyaf posibl o'r manteision a'r cyfleoedd a roddwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r Cynghorydd Palfreman wedi bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod ein sesiynau briffio un ag un rheolaidd, a bydd hyn yn parhau i ddigwydd. Gan obeithio bod y Cynghorydd Palfreman yn teimlo bod y rhain yn fuddiol ac yn gynhyrchiol iawn. Yng Nghymru bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei darparu trwy 4 rhanbarth a bydd y llywodraeth leol yn gyfrifol am ddatblygu cynllun buddsoddi strategol rhanbarthol lefel uchel ac yna'i gyflawni. Felly, o ran y cwestiwn:  

 

1. Er y cytunwyd y bydd Cyngor Abertawe yn gwasanaethu fel yr Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer gweinyddu'r dyraniad o £138 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer y rhanbarth, gwneir penderfyniadau ar lefel leol, gyda phob Awdurdod Lleol yn cadw at eu trefniadau a'u protocolau cyfansoddiadol eu hunain. Cadarnhawyd mai dyraniad Sir Gaerfyrddin yw £38.6 miliwn, sy'n cynnwys £32 miliwn o gyllid craidd a £6.6 miliwn ar gyfer y rhaglen sgiliau Multiply. Mae disgwyl i gynigion prosiect gael eu cymryd i Bartneriaethau Adfywio lleol (sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector) ym mhob Awdurdod Lleol i'w cymeradwyo cyn cael cymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Bartneriaeth hon eisoes wedi'i sefydlu ac wedi cwrdd ddwywaith, ac mae'n cynnwys rhanddeiliaid lleol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Cytunwyd i sefydlu 3 is-gr?p thematig sy'n canolbwyntio ar gymunedau a lle, gan gefnogi busnes a phobl a sgiliau. I ddechrau, bydd Is-Grwpiau'r Bartneriaeth Ranbarthol yn ystyried pob prosiect, ac yna'r Bartneriaeth Ranbarthol, cyn i Gabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin roi ystyriaeth iddynt a'u cymeradwyo. Ers cyflwyno'r cynllun mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'r tîm rhanbarthol i ddatblygu proses, gweithdrefn a model cyflawni cyson ar gyfer yr arian. Yn y bôn, mae'r modelau darparu amlinellol a gytunwyd ym Mhartneriaeth Adfywio Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener diwethaf yr un fath drwy'r rhanbarth cyfan, ac yn wir, yn ôl fel yr wyf i'n ei deall hi, y rhai sy'n cael eu datblygu yn y 3 rhanbarth arall yng Nghymru. Rydym yn rhagweld ei bod hi'n debygol y bydd y ffordd y bydd prosiectau'n cael eu gwahodd i wneud cais yn gyfuniad o gynlluniau grantiau a galwadau am geisiadau sy'n agored i bawb. Bydd y broses yn cael ei chytuno ar y lefel ranbarthol i sicrhau lefel uchel o gymunedolrwydd a hefyd, yn bwysicach, cysondeb wrth weithredu'r datganiad yn y cynllun buddsoddi rhanbarthol.

2. Mae  Cynllun Buddsoddi Lleol Sir Gaerfyrddin sy'n manylu ar anghenion a blaenoriaethau'r Sir wedi cael ei ddatblygu, sy'n cyfrannu at y cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ehangach. Cafodd hyn ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Cabinet ar 25 Gorffennaf 2022. Bydd pob cais am arian yn cael ei asesu yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Buddsoddi Lleol Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod anghenion lleol yn cael eu cefnogi'n llawn.

3.Mae'r  Gronfa Ffyniant Gyffredin yn canolbwyntio'n helaeth ar flaenoriaethau lleol a bydd Sir Gaerfyrddin yn gyfrifol am y ffordd y caiff yr Gronfa Ffyniant Gyffredin ei darparu yn Sir Gaerfyrddin. Er y bydd Cyngor Abertawe yn gwasanaethu fel yr Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer gweinyddu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar lefel leol. Ymgynghorir â Phartneriaeth Adfywio Sir Gâr ynghylch pob cais am gyllid. Yn ogystal, yn rhan o'r broses ymgeisio ac asesu, bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos aliniad â'n Cynllun Buddsoddi Lleol.

4.Mae'r rhaglen gyfan wedi cael ei rhedeg o fewn amserlen anhygoel o dynn ac mae'n glod i'n swyddogion yma yn Sir Gaerfyrddin ac yn wir yn y tîm rhanbarthol eu bod hyd yn hyn wedi cyflawni'r gwaith o fewn yr amser penodedig. Rydym yn cydnabod bod angen bwrw ymlaen â materion cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi cymeradwyaeth ffurfiol ac rydym yn gobeithio y bydd y gymeradwyaeth yn cyrraedd rywbryd yn ystod mis Hydref. Mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd i sicrhau y bydd y Sir yn gallu creu cyfleoedd i gael cyllid trwy gyfres o gynlluniau grant a galwadau agored cyn gynted ag y ceir y gymeradwyaeth fel y gallwn sicrhau bod ein dyraniadau'n cael eu defnyddio'n llawn bob blwyddyn.

 

5.      Ac yn olaf y proffil gwariant. Ydy, mae eich sylw o ran dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 yn gywir ac mae proffiliau gwariant Sir Gaerfyrddin fel a ganlyn:

 

2022/23 - £3.8m o elfen graidd y Gronfa Ffyniant Gyffredin a £2m ar gyfer Multiply;

2023/2024 - £7.7m o elfen graidd y Gronfa Ffyniant Gyffredin a £2.3m ar gyfer Multiply;

2024/25 - £20.3m o elfen graidd y Gronfa Ffyniant Gyffredin a £2.3m ar gyfer Multiply.

 

Gosodwyd y rhain gan Lywodraeth y DU a chydnabuwyd eu bod yn hwyr yn dechrau ac felly adlewyrchir hyn gan y dyraniad cyllid cymedrol ym Mlwyddyn 1. Gobeithiaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn”.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Martyn Palfreman:-

“O ystyried bod Sir Gaerfyrddin yn mynd i gael llawer o reolaeth dros ei thynged ei hun, yn yr achos hwn a fydd cyfleoedd i aelodau sy'n cael eu cynrychioli yn y siambr hon gael rhan weithredol yn y ddeialog o ran penderfynu pa flaenoriaethau neu ba brosiectau posibl a fydd yn mynd ymlaen mewn gwirionedd, er enghraifft, drwy'r Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio, ac rwy'n credu y byddai hynny'n cyd-fynd yn fawr â'r ymrwymiad a roddodd yr Arweinydd ar ddechrau'r cyfarfod heddiw o ran dull rhagweithiol o ddatblygu a gweithredu polisi?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Gareth John - yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:-

“Gallaf eich sicrhau chi mai'r ateb yw 'bydd'. Y peth allweddol rydym yn aros amdano ar hyn o bryd yw'r gymeradwyaeth ac rydym yn rhagweld y byddwn yn ei chael rywbryd ym mis Hydref. Ar ôl hynny mae'n fater o wahodd y ceisiadau ac yna mae angen craffu ar y ceisiadau wrth iddynt gael eu cyflwyno. Fel yr amlinellais yn gynharach bydd y broses o ran dadansoddi a chraffu ar y ceisiadau a wneir yn cael eu gwneud drwy'r broses rwyf wedi'i hamlinellu, sef Partneriaeth Adfywio Sir Gaerfyrddin, sy'n hollbwysig, a'r grwpiau rhanddeiliaid. Bydd 3 is-gr?p a byddant yn adrodd i'r Bartneriaeth lawn, bydd y Bartneriaeth yn gwneud argymhellion i'r Cabinet a bydd y Cabinet yn gwneud y penderfyniadau terfynol. Wedi dweud hynny mae rôl bwysig hefyd o fewn y pwyllgorau craffu a dyna lle bydd cyfle i'r aelodau graffu. Byddwn hefyd yn dweud bod ein holl gyfarfodydd hyd yn hyn wedi bod ar sail ymgynghorol, sydd wedi cynnwys yr holl gynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys cynrychiolwyr Senedd y DU yn lleol a'r Senedd. Unwaith y byddwn yn cael y gymeradwyaeth, byddwn wedyn yn y cam gwneud penderfyniadau ac ni fydd y gwleidyddion yn cael eu gwahodd. Dim ond y prif randdeiliaid fydd yn penderfynu ac yn gwneud argymhellion a bydd ein swyddogion a ninnau, fel awdurdod, yn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r polisïau sydd eisoes wedi'u nodi yn ein strategaeth fuddsoddi leol.”