Agenda item

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Hoffwn wybod gan Arweinydd y Cyngor pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i roi Neuadd y Gweithwyr, y Garnant mewn cyflwr diogel cyn y gaeaf a datrys y dolur llygaid mwyaf yn Nyffryn Aman. Yn ogystal dyma'r risg tân fwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n berygl i bob un o'r preswylwyr lleol.”

Cofnodion:

“Hoffwn wybod gan Arweinydd y Cyngor pa gamau a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau bod Neuadd y Gweithwyr, y Garnant mewn cyflwr diogel cyn y gaeaf ac i ddatrys y broblem o ran yr adeilad gwaethaf yr olwg yn Nyffryn Aman. Yn ogystal, dyma'r risg tân mwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n beryg i'r holl drigolion lleol.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

“Mi es i drwy'r Garnant ddydd Sul – mae'r adeilad yn salw ac rydw i'n derbyn hynny. Ond yn anffodus rydym yn gweld hyn yn rhy aml ledled meysydd glo De Cymru – mae'r hen neuaddau gweithwyr, y sefydliadau, a'r ardaloedd sydd wedi bod yn ganolog i'r gymuned dros ddegawdau bellach yn mynd â'u pennau iddynt. Ond nid yw hyn yn wir bob amser, ac rydym wedi gweld enghreifftiau da yma yn Sir Gaerfyrddin lle mae grwpiau cymunedol ac unigolion wedi ymgymryd â'r sefydliadau hyn ac maent yn ffynnu. Ond yn anffodus nid yw hynny'n wir yn y Garnant. Fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, gwerthwyd yr eiddo i berchennog newydd ym mis Rhagfyr 2021. Rwy'n ymwybodol bod cais yn aros i'w drafod gyda'r Gofrestrfa Tir, y mae swyddogion yn credu sy'n ymwneud â'r safle hwn, a chyn gynted ag y bydd y trafodiad wedi'i gofrestru gyda swyddfa'r Gofrestrfa Tir, bydd swyddogion yn y cyngor yn gallu nodi ac ymgysylltu â'r perchnogion newydd ynghylch yr adeilad. O ran yr agweddau diogelwch a godwyd, mae swyddogion Rheoli Adeiladu o adran gynllunio'r Cyngor wedi mynd i'r eiddo ar sawl achlysur i asesu cadernid strwythurol y wal ar y safle. Cynhaliwyd yr archwiliad diwethaf ar 19 Mai 2022 a daeth y swyddogion i'r casgliad nad oeddynt yn ystyried bod y wal yn beryglus ar hyn o bryd yn unol ag adrannau 77 a 78 o Ddeddf Adeiladu 1984. Er hynny, bydd swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa dros y 12 mis nesaf. Fel y bydd yr aelod yn ymwybodol, ac fel y bydd unrhyw aelod o'r Pwyllgor Cynllunio yn ymwybodol, gofynnwyd am ganiatâd cynllunio ac fe'i cymeradwywyd ychydig flynyddoedd yn ôl i gael cartref gofal ar y safle ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gynnal trafodaethau gyda'r perchnogion newydd unwaith y byddant yn hysbys. Mae'n hollbwysig ein bod yn gwybod beth yw eu cynlluniau ar gyfer y safle. Ond yn amlwg mae nifer o eiddo adfeiliedig. Mae gen i rai yn fy ward fy hun ac rwy'n si?r bod gan aelodau o bob rhan o'r siambr eiddo tebyg, sydd yn eiddo preifat. Nawr os oes angen trafodaeth ynghylch strategaeth y Cyngor o ran hynny, mae hynny'n drafodaeth wahanol ond byddwn yn gobeithio y byddai aelodau'n ymatal rhag dod ag enghreifftiau unigol i'r siambr. Ond rwy'n credu bod egwyddor y mater sy'n cael ei godi yn rhywbeth y mae angen i ni roi sylw iddo a byddwn yn fwy na pharod i gael y drafodaeth honno gydag aelodau o bob rhan o'r siambr. Ond o ran yr enghraifft benodol hon yn y Garnant, Gynghorydd Madge, mae'r swyddogion wedi cynnal asesiad diogelwch ac yn bwriadu ymgysylltu â'r perchnogion newydd.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Kevin Madge:-

“Os gallwn ddarganfod pwy yw'r perchennog newydd, a fyddai modd i ni gyflwyno hysbysiad iddynt er mwyn sicrhau bod y to'n ddiogel?”   

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

 “Mae'r problemau diogelwch yn gwbl hollbwysig ac rwy'n gwybod bod swyddogion y cyngor yn awyddus i ymwneud â'r mater ac i sicrhau diogelwch y gymuned, ac maent wedi gwneud hynny dros y blynyddoedd. Mae'r ganolfan wedi bod yn wag ers dros ddegawd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae swyddogion wedi ymweld â'r adeilad dros 30 achlysur ac maent yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau ei diogelwch. Mae cwestiwn ehangach am adfywiad economaidd Dyffryn Aman ac fel Cabinet rydym wedi amlinellu ein cenhadaeth i weld ffyniant economaidd ledled y sir ac mae hynny hefyd yn cynnwys Dyffryn Aman a Rhydaman fel tref. Credaf mai un o'r pethau allweddol i mi yw ein bod yn amlwg wedi gwneud llawer – buddsoddwyd yng ngweithdai Glanaman, buddsoddwyd yn rhannau eraill o'r dyffryn, rydym yn gyflogwr mawr fel cyngor, mae gennym ddepo Glanaman, mae gennym y ganolfan ddydd, felly fel Cyngor rydym yn gyflogwr mawr yn yr ardal ynghyd â'r ysgolion, ond rwy'n derbyn yn llwyr fod rhagor sydd angen ei wneud. Yn bersonol, un o'r pethau allweddol yw cysylltiadau trafnidiaeth. Os ydym yn mynd i fynd i'r afael â datblygu economaidd yn Nyffryn Aman, mae gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth ofnadwy ac affwysol yn ardal Dyffryn Aman yn hanfodol. Sut y gallwn ddisgwyl denu busnes a mewnfuddsoddiad gyda'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd? Rhan o hyn fydd ailagor rheilffordd Dyffryn Aman. Fel cyngor, trawsbleidiol, rydym wedi bod yn cefnogi hynny ers rhai blynyddoedd ac mae angen i ni weld cynnydd. Un o'r cyfarfodydd a gefais dros yr haf oedd drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol sy'n dod â Chastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro at ei gilydd ac yn rhan o hynny mae trafodaeth allweddol ynghylch Metro Bae Abertawe. A bod yn gwbl onest credaf ein bod ar ein colled ar hyn o bryd o ran y cynlluniau ar gyfer Metro Bae Abertawe – mae Sir Gaerfyrddin yn cael y nesaf peth at ddim amdano felly mae trafodaethau y mae angen eu cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru ynghylch ein lle ni yn y sefyllfa honno. Os ydym yn llwyddo i wneud hynny, credaf yn gadarn y byddwn yn gweld buddsoddiad a datblygiad economaidd yn Rhydaman, ond bydd hi'n her hebddo.”