Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Cofnodion:

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II gan ddweud ei fod wedi estyn cydymdeimlad dwysaf y Sir i'r teulu Brenhinol ar ran yr aelodau, y staff a'r trigolion. Ychwanegodd ei fod hefyd wedi cael yr anrhydedd o gyhoeddi Proclamasiwn y Brenin newydd ar risiau Neuadd y Sir, Caerfyrddin;

 

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y cyn-Gynghorydd Sir Jan Williams yn ddiweddar, a fu'n cynrychioli Ward Lliedi ac a fu hefyd yn gyn-Faer CyngorTref Llanelli, ac estynnodd ei gydymdeimlad diffuant i'w theulu ar ran y Cyngor;

 

Ar hynny cynhaliodd yr Aelodau a'r Swyddogion ddwy funud o ddistawrwydd;

 

·       Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Gydymaith wedi cael y pleser o fynd i nifer o ddigwyddiadau dros y mis diwethaf gan gynnwys ffair Rheilffordd Model Llanelli ym Mharc Gwledig Pen-bre;

 

·       Cydymdeimlodd y Cynghorydd Ann Davies â theulu Maldwyn Harris a fu farw'n ddiweddar yn dilyn damwain drasig ar y fferm deuluol ym Mhen-y-banc, Llandeilo;

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Davies aelodau o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar eu llwyddiannau diweddar mewn nifer o gystadlaethau ar lefel genedlaethol yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys ennill y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Stafford ac ennill cwpan am y cynnydd mwyaf yn eu haelodaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Talodd y Cynghorydd Davies deyrnged i'r holl wirfoddolwyr hynny a helpodd i hyfforddi'r ffermwyr ifanc mewn gwahanol sgiliau a disgyblaethau, gan gynnwys y Cynghorydd Jean Lewis, a llongyfarchodd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar y gwaith rhagorol y mae'n ei wneud ar gyfer pobl ifanc;

 

·       Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd yr Arweinydd fod rhai o'r heriau, megis costau byw, yn parhau ac yn wir, wedi gwaethygu, yn dilyn penderfyniadau a wnaed yn Llundain, a hynny er gwaethaf y newidiadau diweddar gan y Llywodraeth, gan gynnwys Prif Weinidog newydd. Tybiodd y byddai'r penderfyniadau hynny'n cael effaith fawr, nid yn unig ar unigolion ond hefyd ar aelwydydd, ar fusnesau ac ar y sector cyhoeddus ledled y sir a hefyd ar y Cyngor Sir. Dywedodd fod swyddogion eisoes wedi dechrau ar y gwaith cynllunio, gan ystyried y gyllideb y flwyddyn nesaf, ac y byddai'r Cabinet yn ystyried adroddiad wythnos nesaf yn amlinellu'r heriau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu gan gynnwys chwyddiant, prisiau ynni a ffactorau eraill, ac roedd y Cyngor yn edrych ar fwlch o £22 miliwn yn ei gyllideb. Dywedodd yr Arweinydd fod angen i bawb gydweithio i ddeall y sefyllfa ac i ddod o hyd i atebion. Ychwanegodd fod hon yn her ar hyd a lled y wlad ac nid oedd yn unigryw i Sir Gaerfyrddin ac roedd y trafodaethau hynny rhwng CLlLC a Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau. Roedd arweinwyr ac aelodau'r Cabinet yng Nghymru yn poeni am yr effaith ar wasanaethau ledled Cymru ac os nad oedd arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru na San Steffan, roedd risg aruthrol i rai gwasanaethau y mae eu hangen ar drigolion. Roedd yr Arweinydd o'r farn fod dyletswydd foesol ar y Cyngor i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi trigolion a busnesau yn ystod y cyfnod hwn ac ychwanegodd fod hyn yn digwydd ac y byddai'r gefnogaeth yn parhau. Cyfeiriodd at y ffaith fod taliadau o tua £200 yn cael eu gwneud ers y dydd Llun blaenorol i'r aelwydydd hynny oedd yn gymwys yn rhan o'r taliad tanwydd gaeaf. Yn ogystal roedd y Cabinet i fod i ystyried adroddiad ar gostau byw - o dan gronfa'r Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw roedd £1.5 miliwn yn Sir Gaerfyrddin i'w ddefnyddio, a'r gobaith yw y bydd hyn yn rhoi cymorth ychwanegol i unigolion ac i'r sefydliadau hynny a oedd yn eu cefnogi. Atgoffwyd y Cyngor gan yr Arweinydd ynghylch y syniad o gefnogi'r unigolion hynny a oedd yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi a gofynnwyd i swyddogion ddechrau ar y gwaith o gynllunio a darparu'r gefnogaeth honno. Ychwanegodd fod gan y Cyngor Sir asedau hefyd megis llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, ac y gallai'r rheiny gael eu defnyddio dros fisoedd y gaeaf. Yn ogystal, roedd sefydliadau eraill megis cynghorau cymuned a sefydliadau yn y sector a oedd yn awyddus i fod yn rhan o'r agenda hwnnw. Tasg y Cyngor Sir felly, ym marn yr Arweinydd, oedd gwneud yn si?r fod asedau o'r fath yn cael eu defnyddio a'u cynnig, ond bod y Cyngor hefyd yn gweithio gyda'r sectorau eraill i sicrhau bod darpariaeth ledled y sir gyfan dros fisoedd y gaeaf. Nododd yr Arweinydd fod y Cyngor yn awyddus iawn i weithio gyda mudiadau ledled y sir, a chyda hynny mewn golwg roedd digwyddiad yn cael ei drefnu yn ystod y mis nesaf lle y byddai cyfle i aelodau a swyddogion y Cyngor a swyddogion o fudiadau eraill ddod at ei gilydd i sicrhau bod modd mynd i'r afael â'r heriau. Yn olaf, mynegodd farn na allai'r Cyngor wynebu'r her hon ar ei ben ei hun a byddai'n rhaid iddo gydweithio ar draws pob sector a chynllunio'r hyn y gellid ei wneud.