Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE STATION YARD, HEOL YR ORSAF, BRYNAMAN, RHYDAMAN, SA18 1SH.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais gan Ms Margaret Studt am drwydded safle ar gyfer Station Yard, Heol yr Orsaf, Brynaman, Rhydaman, SA18 1SH fel a ganlyn:-

 

Cais i Ganiatáu:

·         Cyflenwi Alcohol - Dydd Llun i ddydd Sul 12:00–23:00, Nos Galan 09:00-01:00.

·         Oriau Agor - Dydd Llun i ddydd Sul 09:00–23:00, Nos Galon 09:00-01:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol

Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd gwybodaeth atodol gan Mr Aled Morgan (Iechyd yr Amgylchedd) hefyd wedi cael ei dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod. Roedd hyn yn cynnwys e-bost yn manylu ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr amodau y gofynnwyd amdanynt gan Iechyd yr Amgylchedd.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd fod un g?yn wedi dod i law mewn perthynas â'r safle dan sylw yn y cais ym mis Ionawr 2022 am ddigwyddiad dros y Nadolig ym mis Rhagfyr 2021.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny fod ynghlwm wrth y drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor y cytunwyd ar sylwadau gan Heddlu Dyfed Powys (Atodiad C) ac felly nad oedd cynrychiolydd yr Heddlu yn bresennol. 

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fel yr oeddynt yn Atodiad D.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny fod ynghlwm wrth y drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Yna, bu'r Is-bwyllgor yn ystyried y datganiadau ysgrifenedig a hefyd y sylw ar lafar gan y preswylydd lleol, Mr Pavey, yn gwrthwynebu'r cais ac yn cyfeirio at y sylwadau ysgrifenedig yn Atodiad E. Roedd y gwrthwynebiadau yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Tarfu ar heddwch, gan gynnwys problemau s?n a pharcio a achosodd anhrefn,

·         Diffyg ymgynghori â phreswylwyr lleol mewn perthynas â digwyddiadau,

·         Nifer y safleoedd trwyddedig eisoes gerllaw a'r angen am alcohol mewn digwyddiadau wedi'u hanelu'n bennaf at blant.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r tyst ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Yna, rhoddwyd cyfle i gynrychiolydd yr Ymgeisydd gyflwyno sylwadau ar ran yr ymgeisydd, ac, yn benodol:

 

·         Y buddsoddiad a wnaed i adfer y safle,

·         Yr awydd i gynnal digwyddiadau elusennol a hefyd digwyddiadau ad-hoc eraill,

·         Y cynnydd posibl mewn refeniw drwy gael trwydded alcohol,

·         Nodwyd sut y gellid gwella trefniadau parcio a rheoli traffig ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol,  

·         Cadarnhaodd fod yr Ymgeisydd wedi cytuno â chynigion Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd o ran yr amserlen ar gyfer llunio cynlluniau rheoli digwyddiadau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i gynrychiolydd yr ymgeisydd am ei sylwadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr holl amodau yr oedd yr awdurdodau cyfrifol wedi gofyn amdanynt ac y cytunwyd arnynt gan yr ymgeisydd.

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  1. Ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth gan yr heddlu o droseddau ac anhrefn ar y safle, nac yn gysylltiedig â'r safle,
  2. Ni fu unrhyw hanes o gamau gorfodi ar y safle, nac yn gysylltiedig â'r safle,
  3. Bu cwynion blaenorol mewn perthynas â'r safle yn dilyn hysbysiadau am ddigwyddiadau dros dro yn cael eu rhoi,
  4. Nid yw'r heddlu'n gwrthwynebu caniatáu'r cais, ond gofynnir i amodau gael eu hychwanegu at y drwydded. 
  5. Mae'r ymgeisydd wedi cytuno i'r amodau trwydded hynny,
  6. Nid yw Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn gwrthwynebu'r cais, ond maent yn gofyn i amodau gael eu hychwanegu at y drwydded,
  7. Mae'r ymgeisydd yn cytuno i'r amodau hynny,
  8. Derbyniwyd gwrthwynebiadau gan 2 breswylydd lleol yn codi materion yn ymwneud â throseddau ac anhrefn a niwsans cyhoeddus mewn perthynas â defnydd o'r safle yn y gorffennol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol gan nodi'n benodol:

 

  1. Nad oedd yr un o'r 3 Awdurdod Cyfrifol wedi nodi y byddai'n briodol gwrthod y cais er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu,
  2. Roedd yn ymddangos bod pob un o'r 3 Awdurdod Cyfrifol yn awgrymu y byddai gosod amodau trwydded priodol yn ddigonol o ran hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai eu hystyried yn briodol.

 

Nid oedd materion ynghylch angen na'r ffynonellau alcohol eraill a oedd yn yr ardal yn ystyriaethau perthnasol.

 

Felly, derbyniodd yr Is-bwyllgor farn yr Awdurdodau Cyfrifol na fyddai caniatáu'r drwydded yn amodol ar yr amodau y cytunwyd arnynt yn tanseilio'r amcanion trwyddedu a bod yr amodau hynny'n briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd.

Dogfennau ategol: