Cofnodion:
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
Eglurodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion, yn dilyn etholiadau diweddar y Cyngor Sir, fod yr holl Gynghorwyr Sir a oedd newydd eu hethol wedi cael eu gwahodd i enwebu'r Cyrff Llywodraethu yr oeddent yn dymuno cynrychioli'r awdurdod lleol arnynt. Mae'n bolisi sirol y gall yr holl gynghorwyr sir ar ôl cael eu hethol bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddant yn eistedd a bydd eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros lywodraethwyr awdurdod lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gall Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgolion lle nad oes lle gwag ar hyn o bryd. Os bydd swydd llywodraethwr wedi'i ordanysgrifio, gall y Cyngor nodi pa Lywodraethwr ALl sy'n gorfod rhoi'r gorau i'r swydd.
Eglurodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion i'r Aelod Cabinet fod un lle gwag ychwanegol wedi codi ar gyfer ysgol gynradd Penrhos ers cyhoeddi dogfennau'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu o 1 Medi 2022 ymlaen oni nodwyd fel arall:-
Ysgol Gynradd |
Penodiadau |
Beca (2 le gwag – 1 enwebiad) |
Y Cynghorydd Dorian Phillips
|
Bigyn (1 lle gwag – 2 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Terry Davies
Y Cynghorydd Suzy Curry (i gymryd lle J. Edmunds)
|
Cefneithin (2 le gwag – 1 enwebiad)
|
Miss S. Griffiths
|
Glanyfferi (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Lewis Davies
|
Y Ffwrnes (0 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Martyn Palfreman (i gymryd lle S. Phillips) |
Talacharn (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Parch C. Butler
|
Llandybïe (2 le gwag – 1 enwebiad)
|
Mr S. Isaac |
Llangadog (1 lle gwag – 1 enwebiad) |
Y Cynghorydd Andrew Davies
|
Llanllwni (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Mr A. Evans
|
Llanmilo (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Mrs B. Bowen
|
Llanybydder (0 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Denise Owen (i gymryd lle Mr K. Patel)
|
Llys Hywel (2 le gwag – 1 enwebiad)
|
Ms M. James
|
Maes y Morfa (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Sean Rees
|
Mynyddygarreg (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Lewis Davies
|
Parcyrhun (2 le gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Peter Cooper
|
Pen-bre (0 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Michael Thomas (i gymryd lle J. Jones) |
Penrhos (2 le gwag – 2 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Sean Lucas Rees
Y Cynghorydd Terry Davies
|
Pont-iets (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Mrs E. Cullen
|
Saron (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Peter Cooper
|
Dyffryn y Swistir (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Mr M. Christopher |
Trimsaran (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Ms M Arthur |
Y Bedol (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Emyr Rees
|
Y Felin (2 le wag (un ar hyn o bryd ac un o 29 Ionawr 2023) - 2 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Nysia Evans
Mrs M. Billington (penodiad o 29.01.23)
|
Ysgol Uwchradd |
Penodiadau |
Bro Dinefwr (2 le gwag – 1 enwebiad)
|
Mr G. Kilby
|
Bro Myrddin (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Meinir James
|
Bryngwyn – Glan-y-Môr (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Michael Thomas
|
Ysgol Dyffryn Aman (1 lle gwag o 29.11.22 - 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Karen Davies (penodiad o 29.11.22)
|
Maes y Gwendraeth (3 le gwag – 1 enwebiad)
|
Y Cynghorydd Hefin Jones
|
Ysgol Arbennig |
Y Penodiad |
Heol Goffa (1 lle gwag – 1 enwebiad)
|
Mr P. Newell
|
Dogfennau ategol: