Agenda item

CYLLIDEBAU YSGOLION

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 8.1 o'r cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2021, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cyllideb ysgolion a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn Sir Gaerfyrddin.  Darparwyd ffigurau cymharol hefyd ar gyfer 2018/19, 2019/20 a 2020/21.  Cydnabu'r Pwyllgor fod arian grant ychwanegol sylweddol wedi'i ddarparu i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, a oedd wedi arwain at effaith gadarnhaol ar nifer o gyllidebau ysgol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol sydd i ddod.

 

Ymdriniwyd â'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

·       Holodd yr Aelodau am effaith cyllid grant, o'i gymharu â'r cymorth gan yr Awdurdod Lleol, i fynd i'r afael â'r sefyllfa gyllidebol o ran diffygion mewn ysgolion.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod yr arian grant a ddarparwyd ers 2020 wedi galluogi ysgolion i sefydlogi eu cyllidebau, ond cydnabuwyd efallai na fyddai'r cymorth ar gael yn yr hirdymor.  Darparwyd crynodeb i'r Aelodau o'r amrywiaeth o gymorth parhaus a gynigir i ysgolion, a oedd yn cynnwys gwell dadansoddi a chraffu ar gyllidebau ysgolion a thrafodaethau rheolaidd gyda Phenaethiaid, Rheolwyr Busnes a Llywodraethwyr Ysgol mewn perthynas ag atebolrwydd ariannol.  At hynny, adroddwyd bod mentrau codi ymwybyddiaeth llwyddiannus a ysgogwyd gan y Swyddog Adran 151 wedi arwain at ddirprwyo monitro cyllidebau i Swyddogion Gwella Ysgolion, gyda disgwyliadau clir bod meysydd sy'n peri pryder yn cael eu hadrodd i'r Awdurdod mewn modd amserol.

 

·       Mynegwyd pryderon ynghylch amrywioldeb balansau ysgolion a'r sefyllfa gyllidebol ar draws ysgolion a gofynnwyd a oedd mesurau ymyrryd arbennig ar gael i'r Awdurdod, os oedd angen.   Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sicrwydd i'r Pwyllgor fod pob ysgol bellach, o ganlyniad i'r cymorth a ddarperir gan yr Awdurdod, yn fwy ymwybodol o ofynion cynllunio'r gyllideb a gwariant. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw ysgolion mewn mesurau arbennig ar hyn o bryd a bod Estyn yn gweithio gyda'r Awdurdod fel rhan o'r Rhaglen Arolygu Ysgolion.

 

·       Cyfeiriwyd at y fformiwla ariannu gyffredinol ar gyfer ysgolion a oedd wedi'i hadolygu i fynd i'r afael â'r gwasgfeydd a nodwyd gan ysgolion, yn enwedig y rheiny mewn ardaloedd gwledig lle roedd llai o ddisgyblion. Diolchodd y Pwyllgor i'r Awdurdod am y cymorth ychwanegol a ddarparwyd, yr oedd yr ysgolion yn ddiolchgar amdano. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod y trefniadau a roddwyd ar waith i gynorthwyo ysgolion yn defnyddio llawer o adnoddau.  Yn hyn o beth, hysbyswyd y Pwyllgor fod y Rhaglen Moderneiddio Addysg (MYA) yn faes ffocws i'r Awdurdod ac y byddai'n cael ei ystyried ymhellach yn ystod hydref 2022.

 

·       Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, cytunwyd y dylid cynnal adolygiad ymhen 6 mis, gydag adroddiad diweddaru i'w gyflwyno i'w ystyried gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1.1

Nodi'r sefyllfa bresennol o ran cyllidebau ysgol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.

 

5.1.2

 

Adolygu'r sefyllfa o ran cyllidebau ysgol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ymhen chwe mis, a chyflwyno adroddiad diweddaru i'w ystyried gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant.

 

Dogfennau ategol: