Agenda item

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2022/23

Cofnodion:

[NODER:

1.     Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, M. Charles, D.M. Cundy, T.A.J. Davies, E. Dole, D.C. Evans, J.S. Edmunds, R. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, P.M. Hughes, G. John, H.I. Jones, R. James, K. Madge a B.A.L. Roberts wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant y cyfarfod;

2.     Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Pobl a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn codi ynghylch yr adroddiad a swyddogion a oedd yn hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod.

3.     Gan fod yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Pobl yr adroddiad ar ei ran)

Ar ran yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Pobl yr adroddiad a amlinellai bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo bennu polisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion.

Roedd Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi cyfrannu at lunio'r Datganiad Polisi Tâl ac roedd ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir.

Dywedwyd wrth y Cyngor fod gwybodaeth yn dal i gael ei diweddaru yn rhai o'r atodiadau, er enghraifft, y codiadau cyflog diweddar a byddai'r rheini'n cael eu diweddaru cyn cyhoeddi'r Datganiadau.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Polisi Cyflogau am 2022/23 yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

Dogfennau ategol: