Cofnodion:
(NODER: Gan iddynt ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, nid oedd H.A.L. Evans ac S.J.G. Gilasbey yn bresennol wrth ystyried yr eitem hon nac wrth bleidleisio arni.
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror, 2022 (gweler cofnod 8) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2022-2025, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-
· Egluro gweledigaeth a manylion y Rhaglen Buddsoddiadau Tai dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau gwella stoc tai, y rhaglen adeiladu tai newydd, cynlluniau i ddod yn awdurdod carbon sero-net, a'r hyn y mae'n ei olygu i'r tenantiaid.
· Dangos bod yr incwm a gafwyd gan denantiaid a'r ffynonellau cyllid eraill yn darparu rhaglen gyfalaf o £120m dros y tair blynedd nesaf i:
o Gwella a chynnal a chadw'r stoc bresennol;
oCefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o dai newydd mewn cymunedau;
oCefnogi Egwyddorion Carbon Sero-net y Cyngor, gan greu cartrefi sy’n defnyddio ynni yn effeithlon, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy i denantiaid;
oHelpu i ysgogi twf ac adferiad economaidd yn dilyn pandemig Covid-19;
oHelpu i greu cymunedau cynaliadwy cryf - lleoedd lle mae pobl yn falch o allu eu galw'n gartref iddyn nhw.
· Cadarnhaodd y proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni'r rhaglen buddsoddiadau tai a thai Cyngor newydd dros y tair blynedd nesaf.
· Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2022/23, sy’n cyfateb i £6.2m.
Dywedwyd bod yr adroddiad wedi'i rannu i'r pum thema allweddol ganlynol gyda'r nod o symud pethau ymlaen am y tair blynedd nesaf:-
1. Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;
2. Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi a'r Cyffiniau;
3. Thema 3 - Darparu Rhagor o Dai
4. Thema 4 – Datgarboneiddio'r Stoc Dai
5. Thema 5 – Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael
I gloi, roedd y Cynllun yn cefnogi tenantiaid presennol y Cyngor, yn ogystal â darpar denantiaid, ac yn cydbwyso'r hyn oedd ei angen ar denantiaid nawr a'r hyn fyddai ei angen yn y dyfodol.
Cynigiwyd ac eiliwyd y gwelliant canlynol i'r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad:
'Cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer ein rhaglenni buddsoddi mewn tai dros y tair blynedd nesaf a chyflwyno rhaglen byngalos Cyngor ar draws wardiau'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin. Byddai hyn yn golygu bod tai 3 ystafell wely ar gael i deuluoedd ifanc. Yn ogystal, mae angen i ni glustnodi tir mewn wardiau ar gyfer byngalos newydd yn rhaglen buddsoddi mewn tai Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2022-27.
Amlinellodd y cynigydd y rhesymau dros y gwelliant hwn
Yn dilyn trafodaeth a phleidlais,
PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.
Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig gwreiddiol a
PHENDERFYNWYD mabwysiadu'r Cynnig a'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
5.4.1 |
Cadarnhau gweledigaeth y rhaglenni buddsoddi mewn tai dros y tair blynedd nesaf;
|
5.4.2 |
Cyflwyno Cynllun Busnes 2022/23 i Lywodraeth Cymru;
|
5.4.3 |
Nodi'r cyfraniad a wnaeth y Cynllun i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o gartrefi;
|
5.4.4 |
Nodi'r egwyddorion sydd wrth wraidd symud tuag at gartrefi carbon-net a datblygu Strategaeth Datgarboneiddio a Gwres Fforddiadwy i gefnogi hynny;
|
5.4.5 |
Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a'i hadfer yn dilyn pandemig Covid-19. |
Dogfennau ategol: