Agenda item

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI REFENIW A CYFALAF A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2022/23

Cofnodion:

HYD Y CYFARFOD

Wrth roi ystyriaeth i'r eitem hon, tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron i dair awr. Felly:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

[NODER: Ailadroddodd y Cynghorwyr S.J.G. Gilasbey a H.A.L. Evans ddatganiadau a wnaed yn gynharach ar yr eitem hon a gadael y cyfarfod tra rhoddwyd ystyriaeth iddynt]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror 2022 [gweler Cofnod 7], wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2022/23 tan 2024/25 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2022/23 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2022, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, roedd £83m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 blynedd nesaf roedd disgwyl i £64m pellach gael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai.

 

Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £56m dros y 3 blynedd nesaf i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a £56m i gefnogi'r Rhaglen Datblygu Tai.

 

Atgoffwyd y Cyngor, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%.

 

Fodd bynnag, dywedwyd pe bai'r CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, fod y polisi a ddarparwyd i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai benderfynu ar y newid priodol i lefelau rhent i'w gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno yn unig.  Gan fod CPI yn 3.1% ym mis Medi 2021 roedd y cymal hwn wedi'i actifadu eleni ac roedd Gweinidog y Llywodraeth dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cyfarwyddo na ddylai'r cynnydd mwyaf yn yr amlen rent ar gyfer unrhyw awdurdod lleol fod yn fwy na 3.1%

 

At hynny, byddai'r polisi cyfredol hwn yn gymwys tan 2024/25 ac yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, cyfleusterau amwynder, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni.  Roedd hefyd yn nodi bod angen datgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, a fyddai'n fuddsoddiad mawr i awdurdodau lleol ac yn flaenoriaeth i'r Awdurdod hwn.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod gosod y rhent o fewn polisi presennol y Llywodraeth, yn cydnabod yr angen i osod y rhent ar lefel fforddiadwy i denantiaid, gan gyflawni'r dyheadau a cheisio sicrhau bod yr ymrwymiad blaenorol i denantiaid trwy weithredu'r polisi cysoni a sefydlu lefel decach o rent i'r holl denantiaid yn anodd iawn ei gyflawni.

 

Wrth ymateb i'r holl flaenoriaethau a chydbwyso'r cynllun busnes, byddai'r cynnydd o 2.9% ar gyfartaledd mewn rhent yn cynhyrchu rhent cyfartalog o £94.26 i denantiaid.

 

Fel rhan o'r amlen cynnydd cyffredinol mewn rhent, cynigiwyd bod yr Awdurdod yn parhau â'r cynnydd rhent a osodwyd ar uchafswm o £1 ar gyfer eiddo sy'n is na'r rhent targed. Bydd hyn yn cynhyrchu cynnydd o £2.66 yr wythnos mewn rhent tai cyfartalog, sy'n is na lefel cynnydd uchaf Llywodraeth Cymru a byddai'n arwain at lefel rhent a fyddai'n un o'r lefelau rhent isaf a bennwyd ar draws yr un ar ddeg o Awdurdodau yng Nghymru sy'n cadw stoc dai.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cynnig i'r Cyngor fod rhenti'r garejis yn cael eu cadw'n £9.00 yr wythnos heb unrhyw gynnydd, a bod y polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau yn parhau i gael ei weithredu, lle'r oedd y taliadau'n cael eu pennu i dalu am y gwasanaethau ychwanegol a ddarperir mewn lleoliadau penodol ac nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y rhent.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

5.3.1

Bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:-

a)    Bod cynnydd o 2.74% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)    Bod eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 2.74% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00

c)    Bod rhenti a oedd yn uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

d)   Bydd hyn yn arwain at gynnydd o 2.9% neu £2.66 yr wythnos o ran y rhent tai cyfartalog

Gan arwain felly at Gynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+, darparu adnoddau ar gyfer ein Cynllun Cyflawni Adfywio a Datblygu Tai, ac roedd yn cael ei gynnal gan y Tîm Strategol Adfywio a Thai.

5.3.2

Gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed;

 

 

5.3.3

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

 

 

5.3.4

Rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

 

 

5.3.5

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

 

5.3.6

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2023/24 a 2024/25), fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad;

 

 

5.3.7

Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2022/23, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2023/24 hyd 2024/25, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: