Cofnodion:
(NODER: Ailadroddodd y Cynghorwyr S.J.G Gilasbey ac A. Davies ddatganiadau a wnaed yn gynharach ar yr eitem hon)
Bu i'r Aelod Cabinet dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Cabinet, Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 i 2026/2027 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriad a gyflawnwyd. Roedd y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.
Byddai'r rhaglen newydd yn gweld buddsoddiad o £275m dros bum mlynedd. Byddai'r rhaglen yn cael ei chefnogi gan gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r cyngor ei hun.
Nodwyd bod y rhaglen gyfalaf fanwl dros dro yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ar 2 Chwefror 2022 at ddibenion ymgynghori. Yn dilyn codi pryderon ynghylch diffyg arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer priffyrdd, roedd y rhaglen wedi'i diwygio i gynnwys ymrwymiadau pellach yn y maes hwn. Cafodd rhan o'r cofnod perthnasol o'r cyfarfod ei hatodi i'r adroddiad fel Atodiad B er gwybodaeth.
Dywedwyd bod y rhaglen yn cynnwys dau brosiect trawsnewidiol newydd. Y cyntaf yw hwb gwerth £19.6m yng nghanol Tref Caerfyrddin a'r ail yw buddsoddiad gwerth £19m i gwblhau Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Fel rhan o'r prosiect, byddai £366k ar gael i uwchraddio'r ddarpariaeth parcio. At hynny, byddai cyllid ychwanegol o £16m ar gael ar gyfer Parth 1 datblygiad Pentre Awel yn Llanelli, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect i £87m.
Dywedwyd wrth y Cyngor, yn ogystal â'r uchod, fod cefnogaeth barhaus i'r canlynol:
· £2.5m ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
· £250k i wella Diogelwch ar y Ffyrdd
· £600k ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd yn barhaus
· £400k ar gyfer Goleuadau Cyhoeddus
· £3m ar gyfer Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn ystad eiddo.
Byddai creu dyfarniad blynyddol newydd o £250k a fyddai'n dechrau yn 2022/23 ar gyfer seilwaith draenio priffyrdd yn helpu i wneud y rhwydwaith priffyrdd yn fwy gwydn i dywydd yn y dyfodol ac yn lleihau'r perygl o lifogydd. Gwelwyd hefyd y bwriad i barhau â'r dyraniad blynyddol o £66k i Hawliau Tramwy a Chilffyrdd yn 2026/27.
Dywedwyd y byddai buddsoddiadau pellach yn cael eu gwneud ar draws y rhaglen:
· Byddai'r adran addysg yn gweld bod cyllid ar gael i gwblhau'r cilfannau bysiau newydd yn Ysgol Dyffryn Taf, a dyfarniad blynyddol o £500k yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwaith addysg cyffredinol.
· Byddai'r adran Cymunedau'n cael Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gyda chynnydd mewn buddsoddiad o £500k i £2.5m y flwyddyn yn 2025/26, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad dros y 5 mlynedd i £10.5m. O fewn y portffolio hamdden cynigiwyd cynnydd o £1m mewn cyllid i uwchraddio'r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman gan ddwyn cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y prosiect i £2m.
· O ran adran yr Amgylchedd, cynlluniwyd £150k ar gyfer 2022/23 a 2023/24 i roi arian cyfatebol ar gyfer gwaith rheoli llifogydd a lliniaru llifogydd. Bydd £4.7m ar gyfer cerbydau sbwriel ac ailgylchu newydd, ynghyd â £1m ychwanegol o gronfeydd wrth gefn, sef cyfraniad arian cyfatebol yr Awdurdod at ein Strategaeth Wastraff a fyddai'n cyflwyno cynllun didoli wrth ymyl y ffordd ar gyfer casgliadau ailgylchu.
Er mwyn lliniaru effaith y diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd, dywedwyd wrth y Cyngor fod y rhaglen yn cynnwys £2.4m o arian newydd a ariannwyd o gronfeydd wrth gefn y cyngor. Byddai hyn yn ychwanegol at y £600k yn y rhaglen dreigl flynyddol. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y £1.3m o gyllid cyfalaf cyffredinol adneuol oedd ar gael i'r Awdurdod yn hwyr yn y flwyddyn ariannol gyfredol 2021-22 hefyd wedi'i glustnodi ar gyfer gwelliannau i'r priffyrdd. Gyda'i gilydd, hwn oedd y buddsoddiad unigol mwyaf o £4.3m mewn seilwaith priffyrdd lleol gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rhagwelwyd y bydd £1.34m o gyllid gan Lywodraeth Cymru o 2023/24 ymlaen yn ariannu prosiectau datgarboneiddio ac felly roedd wedi'i gynnwys yn y rhaglen. Fodd bynnag, o gofio na fyddai'r cyllid hwn ar gael tan ail flwyddyn y rhaglen, cynigiwyd darparu £500k o gronfeydd wrth gefn y cyngor yn 2022/23 i roi hwb i fesurau datgarboneiddio ar draws yr ystâd adeiledig.
Byddai £2.7m a ddyrannwyd ar gyfer Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) ar draws y rhaglen yn cael ei gynnal, gan gynnwys cyllid blynyddol o £200k i gefnogi prosiectau trawsnewidiol digidol ar draws gwasanaethau'r cyngor.
Dywedwyd bod yr arian Cyngor Sir oedd ar gael ar gyfer y rhaglen hon yn £141m ar hyn o bryd a'i fod yn cynnwys benthyca, wedi'i gynnal a thymor byr heb ei gynnal, cronfeydd wrth gefn, cyllid preifat a chyllid refeniw uniongyrchol. Byddai grantiau cyfalaf a chyfraniadau o £134m yn dod o gyrff arian grant allanol.
Fel rhan o setliad eleni, darparodd Llywodraeth Cymru ffigurau dangosol o ran cyllid cyfalaf cyffredinol hyd at 2024/25, a oedd yn cael ei adleisio yn y rhaglen. Roedd y cyllid ar gyfer blynyddoedd pedwar a phump y rhaglen yn seiliedig ar lefel dybiedig o gymorth sy'n cyfateb i'r hyn a dderbyniwyd yn 2024/25 wrth symud ymlaen. Nodwyd bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 £1.8m yn llai na'r hyn a dderbyniwyd yn 2021/22 a oedd yn annisgwyl. O ystyried y buddsoddiadau sylweddol ym mlynyddoedd 1 a 2 y rhaglen a'r setliad cyfalaf is gan Lywodraeth Cymru, cynigiwyd defnyddio benthyca heb gymorth, tymor byr, i atal yr hyn a fyddai fel arall yn ddiffyg cyllid ar ddechrau'r rhaglen. Byddai hyn yn cael ei ad-dalu ym mlynyddoedd 3, 4 a 5 y rhaglen.
Roedd Atodiad A i'r adroddiad yn manylu ar y rhaglen lawn, a ariannwyd yn llawn am y pum mlynedd.
Nodwyd bod dogfen Strategaeth Gyfalaf y Cyngor wedi'i hatodi yn Atodiad C, fel oedd yn ofynnol gan y côd cyllid cyfalaf darbodus. Mae'r ddogfen hon yn manylu ar y cyd-destun tymor hir o ran y penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo, a'r effaith ar gyflawni ar ganlyniadau blaenoriaethol.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
5.2.1 |
Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'i chyllid, fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, gyda 2022/23 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2023/24 i 2026/27 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;
|
5.2.2 |
Bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir;
|
5.2.3 |
Bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei chymeradwyo;
|
5.2.4 |
Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022. |
Am 12.40pm gohiriwyd cyfarfod y Cyngor i gael seibiant a chafodd ei ailgynnull am 12.45pm.
Dogfennau ategol: