Agenda item

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2022/23 I 2024/25

Cofnodion:

[SYLWER:

1.    Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cynghorwyr, os oeddent wedi datgan buddiant cynharach, nad oedd angen iddynt ddatgan y buddiant hwnnw eto bryd hynny gan fod yr adroddiad yn ymwneud â Chyllideb Refeniw gyffredinol y Cyngor, ac y gallent aros yn y cyfarfod oni bai bod y drafodaeth yn troi'n uniongyrchol ac yn benodol at fater y buddiant.

2.    Roedd y Cynghorwyr C. Campbell, J.A. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, L.D. Evans, S.J.G. Gilasbey, P.M. Hughes, B.W. Jones, B.A.L. Roberts, T. Higgins, A. Vaughan Owen a R. James wedi datgan buddiant yn gynharach fod aelodau o'u teulu yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod.

3.    Ailadroddodd y Cynghorydd K. Madge ei ddatganiad cynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 5), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, ar ran y Cabinet, pryd y bu'n manylu ar gefndir y cynigion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb. Roedd manylion llawn y setliad dros dro wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, ond roedd y pennawd ar sail Cymru gyfan, roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol 9.4% yn fwy na setliad 2021/22, a dyraniad Sir Gaerfyrddin oedd 9.2% (£311.597m).

 

Esboniwyd bod proses gyllideb Llywodraeth Cymru llawer hwyrach na'r arfer, a dim ond y diwrnod cynt (1 Mawrth) roedd ffigurau'r setliad terfynol wedi cael eu cyhoeddi. Gallai'r Aelodau'n weld y crynodeb diweddaraf o'r gyllideb a oedd wedi'i ddiweddaru gyda ffigurau setliad terfynol Llywodraeth Cymru ac wedi'i gyhoeddi fel ychwanegiad at yr agenda fel 'Tabl 1 wedi'i ddiweddaru'.  Adroddwyd bod ffigurau'r setliad terfynol yn darparu cynnydd o £5,905 ar gyfer Sir Gaerfyrddin a oedd o ganlyniad i addasiad technegol i'r fformiwla, a chynigiwyd bod y swm yn cael ei ychwanegu at y gronfa wrth gefn a oedd eisoes wedi'i neilltuo ar gyfer COVID. 

 

Nodwyd bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn yr adroddiad, fel rhan o'r drefn arferol gan fod gwybodaeth gliriach ar gael bellach, gyda chyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu rhyw £16.2m at y gyllideb.


Dywedwyd bod y gyllideb yn cadw'r cyflog tybiedig o 4% o lwfans am 2022/23 ar gyfer y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn ogystal â staff addysgu, ac mai dyma'r dilysiad mwyaf arwyddocaol o hyd yn y tybiaethau. Fodd bynnag roedd yn unol â disgwyliadau cyffredinol Awdurdodau ac yn cydnabod bod chwyddiant yn cynyddu'n llawer uwch na 5%.

Dywedwyd bod cynigion y gyllideb wreiddiol, yr ymgynghorwyd arnynt drwy gydol mis Ionawr 2022, yn rhagdybio dilysu gwasgfeydd a gadarnhawyd o ran cyflogau a chwyddiant i ysgolion, ac fel hynny oedd hi o hyd o ran y cynigion terfynol. At hynny nid oedd dim arbedion wedi'u dyrannu i'r cyllidebau a ddirprwyir i ysgolion am 2022/23, gan alluogi penaethiaid a holl staff yr ysgolion i ganolbwyntio ar helpu dysgwyr Sir Gaerfyrddin i fynd yn ôl ar y trywydd iawn ar ôl 2 flynedd o darfu enfawr.

Dywedwyd bod newidiadau i rai o'r rhagdybiaethau allweddol megis cynnydd mewn prisiau ynni, ac roedd rhyddhau cyfraniad cyfalaf datblygu economaidd y llynedd yn rhoi cyfle i wneud rhai newidiadau ac amlygwyd y canlynol:

 

·       50k o gyllid ychwanegol i ariannu capasiti ychwanegol yn yr adain hawliau tramwy cyhoeddus

·       190k o gyllid ychwanegol ar gyfer costau prydau ysgol,  yn dilyn hysbysiad diweddar o gynnydd mewn prisiau cyflenwyr.

Dywedwyd bod yr addasiadau canlynol wedi cael eu hargymell gan y Cabinet a’u bod yn ystyried canlyniad y broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth gan y cyhoedd a chynghorwyr:

·       dileu'r gostyngiad arfaethedig o £15k i grantiau'r 3ydd sector,

·       dileu'r gostyngiad staffio o £95k i TGCh,

·       atal y cynlluniau i gyflwyno taliadau mewn rhagor o feysydd parcio

Dywedwyd, gyda’r newidiadau hynny, fod digon o arian ar gael i gapio'r cynnydd yn y dreth gyngor i 2.5% ar gyfer 2022/23.  Dywedodd fod ymateb y cyhoedd wedi dangos yn glir fod y mwyafrif o blaid y cynnydd isaf posibl, ac wrth gydnabod bod costau byw yn codi'n gyflym, roedd yn bwysig gwneud cymaint ag oedd yn rhesymol bosibl i gefnogi trigolion Sir Gaerfyrddin. At hynny cafodd ei ddweud bod pennu cynnydd mor isel â 2.5% i'r Dreth Gyngor yn gryn gamp, o ystyried y risgiau niferus a'r pwysau ariannol o fewn y gyllideb, gan gynnwys y gydnabyddiaeth bod chwyddiant yn rhedeg ymhell dros 5%.


Dywedwyd pe bai cynigion y gyllideb yn cael eu mabwysiadu, byddai'n caniatáu i'r Cyngor bennu cyllideb deg a chytbwys a oedd nid yn unig yn ymateb i'r prif bryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad, ond a oedd hefyd yn cydnabod pwysau sylweddol chwyddiant a risgiau ariannol unrhyw ymateb i Covid-19 yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

5.1.1

Bod Strategaeth y Gyllideb, gan gynnwys Tabl 1 wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2022/23, yn cael ei chymeradwyo;

 

5.1.2

Bod Treth Gyngor Band D am 2022/23 i’w gosod ar £1,396.04 (cynnydd o 2.50% ar gyfer 2022-23);

 

5.1.3

Dileu cynigion arbedion penodol fel y nodir ym mharagraff 3.2.5 o'r adroddiad ac a nodir uchod;

 

5.1.4

Bod y newidiadau i'r gyllideb fel y'u crynhoir ym mharagraff 4.1.4 o'r adroddiad gan ystyried yr ystod o ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori a'r pwysau ychwanegol fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo;

 

5.1.5

Bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig amodol yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ariannol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod;

 

5.1.6

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newid sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022.

 

Dogfennau ategol: