Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Cofnodion:

·     Ar ran y Cyngor, estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu'r cyn-gynghorydd Dilwyn Williams yn dilyn ei farwolaeth, a rhoddodd wybod i aelodau'r Cyngor am drefniadau'r angladd.

 

·     Ar ran y Cyngor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r cyn-gynghorydd Peter Cooper, yn dilyn marwolaeth ei wraig, Jennifer.

·     Dywedodd y Cadeirydd iddo fod mewn cynhyrchiad o Grease yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin yng nghwmni Maer y Dref.  Roedd wedi mwynhau'r sioe'n arw.

 

·       Ddydd Gwener, 25 Chwefror, 2022 bu'r Cadeirydd mewn digwyddiad Cawl a Chân elusennol a drefnwyd gan Gyngor Gwledig Llanelli.  Hwn oedd digwyddiad codi arian diwethaf Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, a chafodd ei gynnal yn EJ's yn Llanelli.

 

·       Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai'n ymweld yfory (3 Mawrth) â Mrs Keir ar ei phen-blwydd yn 110 oed. Roedd Mrs Keir yn byw yn Awel Tywi, Llandeilo ar hyn o bryd.  Byddai llu o'r cyfarchion cynhesaf yn cael eu hestyn i Mrs Keir ar ei phen-blwydd.

 

·       Bu i'r Cadeirydd wahodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ken Lloyd, i wneud ei gyhoeddiadau i'r Cyngor.  Dywedodd yr Is-gadeirydd wrth y Cyngor ei fod ef a'i wraig, ar 20 Chwefror 2022, wedi mynd i Wasanaeth Dinesig Cyngor Dinas Abertawe ar ran y Cadeirydd, ac mai pleser oedd gallu mynychu digwyddiad yn y cnawd a oedd wedi cael ei ohirio ym mis Mai 2021.

 

·   Cyhoeddodd y Cynghorydd Handel Davies, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei fod ef fel Maer Llanymddyfri wedi cael y pleser o groesawu a llongyfarch Mathew Page yn ôl i Lanymddyfri yn dilyn ei gampau a roddodd le iddo yn Llyfr Record Byd Guinness, yr un cyntaf o Lanymddyfri i wneud hynny. Dros chwe diwrnod roedd Mr Page wedi beicio dros fil cilometr (625 milltir) yn ymweld â chwe deg saith o gestyll ar draws de Cymru a'r gororau. Byddai'r sylw yn y cyfryngau yn codi proffil Llanymddyfri ac yn enwedig Clwb Beicio Llanymddyfri, a oedd ond wedi ailgychwyn yn y flwyddyn ddiwethaf dan arweiniad Mathew. Byddai'r dref yn elwa ar y sylw hwn ac roedd bwriad ganddi i ennill enw da fel cyrchfan cyfeillgar i feicwyr.

 

·       Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am ymdrechion trigolion a busnesau Sir Gaerfyrddin mewn ymateb i'r ymosodiad diweddar gan Rwsia ar Wcráin. Dros y dyddiau diwethaf, roedd ysbryd diwyro pobl Wcráin wrth amddiffyn eu hannibyniaeth, eu democratiaeth, a'u gwlad wedi bod yn amlwg ar y newyddion, ac ni ddylai'r lluniau torcalonnus o bobl ddiniwed wedi'u hanafu mewn ymosodiadau ac yn ffoi gan gario popeth posibl yn bethau ddylai fod yn digwydd yn y byd modern.

 

Ers dechrau'r gwrthdaro, roedd grwpiau wedi ymgynnull ledled Cymru i ddangos eu hundod â phobl Wcráin ac roedd yr undod hwnnw wedi bod yn glir ar draws Sir Gâr dros y penwythnos. Roedd haelioni a chydsafiad pobl yn amlwg iawn wrth i bobl gasglu dillad, nwyddau ymolchi, a chyflenwadau meddygol i gefnogi ffoaduriaid oedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi.  Roedd cwmnïau cludo a chyflenwi lleol yn cefnogi'r ymdrechion drwy gynnig dosbarthu'r rhoddion.

 

I gloi dywedodd yr Arweinydd byddai Cyngor Sir Caerfyrddin, fel sir noddfa falch a oedd eisoes wedi darparu cartrefi a diogelwch i bobl oedd yn ffoi rhag y rhyfel yn Syria ac Affganistan, yn barod unwaith eto i chwarae ei ran pe bai angen yn ôl Llywodraethau y DU a Chymru. Tan hynny byddem yn meddwl am ac yn gweddïo dros bobl Wcráin a thrigolion Sir Gaerfyrddin yr oedd y gwrthdaro yn effeithio arnynt.