Agenda item

ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 2 - 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEDI 2021

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Medi 2021 a gyflwynwyd gan yr Aelodau Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o dan eu portffolio a chylch gwaith y Pwyllgorau.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.

 

Cyflwynwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol yn ymwneud â'r camau sy'n gysylltiedig â phortffolio'r Amgylchedd:-

 

·       Wrth gyfeirio at dudalen 7 yr adroddiad, mynegwyd sylwadau o ganmoliaeth i'r timau glanhau am eu hymateb cyflym i alwadau i gael gwared ar wastraff ychwanegol mewn mannau banc poteli. Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod y timau'n rhagweithiol iawn a dywedodd, gan fod y mater hwn yn dod o dan bortffolio diogelu'r cyhoedd, y byddai'n sicrhau bod canmoliaeth y Pwyllgor yn cael ei hanfon at y timau perthnasol.

 

·       Cyfeiriwyd at y cam gweithredu PAM/030 -  Canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio .  Mewn perthynas â'r tarfu sylweddol ar y trefniadau didoli, trin a gwaredu gwastraff arferol o ganlyniad i dân yng nghyfleuster adennill deunyddiau CWM yn Nantycaws, gofynnwyd a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyriol o dargedau? Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd mai'r gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyriol o'r sefyllfa ac esboniodd fod mesurau wedi'u rhoi ar waith i helpu i gyrraedd y targedau tra bod yr heriau o ran didoli'r gwastraff yn parhau.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod gan Lywodraeth Cymru y wybodaeth lawn am y sefyllfa. Yn ogystal, roedd monitro'r sefyllfa'n agos yn flaenoriaeth, yn enwedig yn ystod y pandemig.


 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch catalogio a dosbarthiad tyllau yn y ffordd ledled y Sir, dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn nodi'r hierarchaeth o ran atgyweirio'r priffyrdd yn ôl dosbarthiad ffordd. Eglurodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ymhellach y byddai gwaith atgyweirio tyllau yn y ffordd yn cael ei flaenoriaethu drwy ystyried y ddau faen prawf 'categoreiddio angen'; 1) natur y ffordd lle mae'r twll wedi ymddangos a 2) difrifoldeb y twll yn y ffordd.  Yn seiliedig ar y meini prawf, pe bai twll yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ei atgyweirio ar unwaith, byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn 24 awr. Fodd bynnag, ni fyddai twll yn y ffordd y barnwyd nad oedd yn ddifrifol ac a oedd wedi'i leoli ar ffordd categori defnydd isel yn cael ei ddosbarthu ar gyfer ymyrraeth ac felly byddai'n parhau. Ategodd y Cyfarwyddwr sylwadau'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ynghylch y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sy'n ystyried amodau'r briffordd yn ei chyfanrwydd.

 

·       Cyfeiriwyd at y cam gweithredu a addawyd 'Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i gyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer datblygu Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau a Theithio Llesol i wella llwybrau cerdded i annog dulliau teithio mwy cynaliadwy i helpu i gyflawni'r amcan datgarboneiddio – cam gweithredu rhif 14964.  Er bod y camau gweithredu'n dangos eu bod ar y trywydd iawn, mynegwyd pryder mai dim ond un cyfle oedd i gyflwyno cais i sicrhau cyllid ar gyfer datblygu Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau mewn ardaloedd gwledig mewn blwyddyn. Mynegwyd pryder bod Sir Gaerfyrddin yn cynnwys ardal wledig enfawr ac na fyddai un cais y flwyddyn yn unig yn ddigon i ddarparu'r cyllid angenrheidiol ar gyfer llwybrau mwy diogel mewn modd amserol. Gofynnwyd a ellid gwella hyn? Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod ceisiadau'n seiliedig ar y grantiau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ac yn yr achos hwn, roedd yn un ardal drefol ac un ardal wledig y flwyddyn.  Cadarnhawyd y pryderon, wrth gadarnhau bod dros 300 o geisiadau wedi'u derbyn ar gyfer darparu llwybrau mwy diogel ar ôl hysbysebu a bodloni meini prawf. Nododd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, o ran yr adroddiad perfformiad, fod y camau gweithredu yn cyrraedd y targed yn ôl y gyllideb sydd ar gael.

 

Mewn ymgais i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyfle i gael cyllid ar gyfer Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau, cynigwyd bod y Pwyllgor yn ysgrifennu llythyr at y Gweinidog priodol yn Llywodraeth Cymru i ofyn am gynyddu'r cyllid ar gyfer Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau a bod y meini prawf cymhwysedd yn cael eu hehangu i gefnogi datblygu mwy o brosiectau. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Ni chyflwynwyd unrhyw sylwadau/ymholiadau yn ymwneud â'r camau sy'n gysylltiedig â'r Portffolio Diogelu'r Cyhoedd.

 

Yn absenoldeb yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Gwledig, gwahoddodd y Cadeirydd sylwadau/ymholiadau gan Aelodau'r Pwyllgor yn ymwneud â'r camau sy'n gysylltiedig â'r portffolio Cymunedau a Materion Gwledig.  Ni chyflwynwyd unrhyw sylwadau/ymholiadau.


 

Cyflwynwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol yn ymwneud â'r camau sy'n gysylltiedig â'r Portffolio Gofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

·       Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 7. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra - Is-thema: D - Camddefnyddio Sylweddau ar dudalen 20 y pecyn agenda.  Gofynnwyd beth oedd ystyr 'Ymddygiad Peryglus' mewn perthynas â'r Amcan Llesiant hwn? Er mwyn sicrhau diffiniad cywir, cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd anfon y diffiniad o ymddygiad peryglus yng nghyd-destun camddefnyddio sylweddau at aelodau'r Pwyllgor drwy e-bost.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1  bod Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2021/2022 (1 Ebrill tan 30 Medi 2021) yn cael ei dderbyn;

 

4.2 bod y Pwyllgor yn ysgrifennu llythyr at y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd i ofyn am gynyddu'r cyllid ar gyfer Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau a bod y meini prawf cymhwysedd yn cael eu hehangu i gefnogi datblygu mwy o brosiectau.

 

Dogfennau ategol: