Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.
Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys am adolygu trwydded safle ar gyfer South Star, 2 Teras Brynallt, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 1NB. Gofynnwyd am adolygiad oherwydd bod gan yr Heddlu bryderon ynghylch diffyg rheolaeth ddifrifol yn y safle uchod ar ôl i gwynion ddod i lawr ac ar ôl ymweliad gan Heddlu Dyfed-Powys a Swyddog Cydymffurfaeth - Covid o Gyngor Sir Caerfyrddin.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – Copi o'r cais.
Atodiad B - Sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.
Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan y Safonau Masnach.
Atodiad D – Sylwadau a gyflwynwyd gan Iechyd yr Amgylchedd.
Rhoddodd Mr David Bizby, Cynrychiolydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, fanylion am y cais i'r Is-bwyllgor ar ran y Prif Gwnstabl.
Bu i gynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu wneud sylwadau ar lafar a chyfeiriodd at y sylwadau y manylwyd arnynt yn Atodiad B, a chafwyd sylwadau ar lafar hefyd gan y Safonau Masnach (gan gyfeirio at Atodiad C) ac Iechyd yr Amgylchedd (gan gyfeirio at Atodiad D).
Roedd Mr V Moholkar, Deiliad y Drwydded Safle, Ms Davies a Mr Morgan sy'n rheoli'r South Star o ddydd i ddydd hefyd yn bresennol.
Rhoddwyd cyfle i bawb ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau ac i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y cynrychiolwyr.
Yna PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Yn ystod y sesiwn preifat, ar ôl i'r Is-bwyllgor ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid ymdrin â'r cais fel a ganlyn;
2.1 Bod yr 13 o amodau trwydded y gofynnwyd amdanynt gan yr Heddlu yn y cais am adolygiad yn cael eu hychwanegu at y drwydded ac eithrio bod amod 9 yn cael ei newid er mwyn bod yn berthnasol ar ôl 9pm yn unig;
2.2 Bod Deiliad y Drwydded Safle yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd darparu'r wybodaeth gyswllt ddiweddaraf i'r Awdurdod Trwyddedu ar gyfer Deiliad y Drwydded Safle a Goruchwylydd Dynodedig y Safle bob amser.
Y Rhesymau
Wrth benderfynu ar y cais, gwnaeth yr Is-bwyllgor y canfyddiadau canlynol;
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol ac yn benodol wedi canfod bod y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Heddlu mewn perthynas â'r digwyddiad ar 11 Medi 2021 yn gredadwy ac yn gymhellol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon ar y dystiolaeth a roddwyd ger ei fron fod y safle wedi cael ei weithredu mewn modd nad oedd yn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn ac atal niwsans cyhoeddus. Nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai'n bosibl hyrwyddo'r amcanion hynny'n ddigonol heb ychwanegu amodau ychwanegol at y drwydded.
Hefyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr heddlu wedi gofyn amdanynt, ac a gefnogwyd gan yr awdurdodau cyfrifol eraill, yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu hynny ac yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd yn y cais.
Dogfennau ategol: