Agenda item

10.00 Y.B. - CAIS AM ADOLYGU DRWYDDED SAFLE POPLARS INN, 1 PONDSIDE, TRE-IOAN, CAERFYRDDIN SA31 3HU.

AR ÔL I EITEM 2 AR YR AGENDA DDOD I BEN, BYDD CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR YN CAEL EI OHIRIO TAN 2.00PM.  PAN FYDD EITEM 3 AR YR AGENDA YN CAEL EI HYSTYRIED

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais a dderbyniwyd gan Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin am adolygiad o'r Drwydded Safle ar gyfer y Poplars Inn, 1 Glan yr Afon, Tre Ioan, Caerfyrddin, ar ôl derbyn nifer o gwynion ynghylch gweithrediad y safle o ran s?n, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu ac anhrefn.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – Y cais gwreiddiol am adolygiad

Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

Atodiad C – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D – Sylwadau'r Gwasanaethau Cynllunio

Atodiad E - Sylwadau Safonau Masnach

Atodiad F – Sylwadau unigolion eraill.

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd y wybodaeth atodol ganlynol hefyd wedi'i dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod y diwrnod hwnnw:-

 

1.     Tystiolaeth Ategol gan y Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant

2.     Hysbysiad Gwella Safle

3.     Y drwydded safle bresennol

 

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant ei adroddiad i'r Pwyllgor ar weithrediad y safle (Atodiad A), ynghyd â'r adroddiad atodol a oedd yn catalogio gohebiaeth, cwynion, ac ati, mewn perthynas â hynny, a oedd wedi arwain at gyflwyno'r cais am adolygiad. Dywedodd wrth yr Is-bwyllgor, o ystyried yr adolygiad, ei fod o'r farn y byddai atodi amodau 1-6 yn ei sylwadau yn hybu amcanion trwyddedu Deddf Trwyddedu 2003 yn well, yn amodol ar ei ddiwygiad i amod 2.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig a nodir yn Atodiad B i'r adroddiad, a oedd yn rhoi gwybodaeth am y cais am adolygiad a'i ymateb iddo, gan gynnwys rhoi sylw i adrannau perthnasol y Canllawiau Statudol a Pholisi Trwyddedu Lleol y Cyngor. Dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu yn cefnogi'r cais am adolygiad a'r chwe amod, fel y'u diwygiwyd, a gynigiwyd gan y Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r Arweinydd Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad, ac amlinellodd hanes y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt/a gofnodwyd gan yr Heddlu ynghylch gweithrediad y Poplars Inn. O ystyried y ffeithiau, cefnogodd yr Heddlu y cais am adolygiad a'r chwe amod a awgrymwyd, fel y'u diwygiwyd, i'w hychwanegu at y Drwydded Safle, ond hefyd yn amodol ar ychwanegu'r ddau amod a awgrymwyd yn ei sylwadau at y drwydded, sy'n ymwneud â darpariaeth teledu cylch cyfyng a darparu alcohol a werthir i'w yfed mewn mannau allanol mewn gwydrau polycarbonad, plastig neu annrylliadwy.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad E i'r adroddiad, a oedd yn manylu ar y gwaith a wnaed gan ei swyddogion o ran cysylltu â deiliad y drwydded ynghylch gweithredu'r safle yn unol â'r cyfyngiadau Covid ac at gyflwyno Hysbysiad Gwella Safle ar 27 Ebrill 2021. Ar ôl cyflwyno'r Hysbysiad (a ddaeth i ben ar 30 Ebrill 2021), roedd materion pellach o ran diffyg cydymffurfiaeth wedi codi, gan gynnwys band pres yn chwarae yn y babell yn y maes parcio. Roedd lluniau camera a wisgir ar y corff, a ddangoswyd i'r Is-bwyllgor, yn dangos yn glir y lefelau s?n uwch. Dywedodd, o ystyried ei sylwadau, fod Adain Safonau Masnach y Cyngor yn cefnogi'r cais am adolygiad, fel y bo'n briodol ac yn gymesur, a gosod yr amodau ychwanegol a awgrymwyd ar y drwydded safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad F i'r adroddiad, a oedd yn manylu ar ei farn sy'n cefnogi cwynion ei etholwyr ynghylch yr effaith andwyol yr oedd gweithrediad y Poplars Inn yn ei chael ar eu mwynhad a'u llesiant. Dywedodd, er bod y safle, sy'n cael ei weithredu mewn ardal breswyl gydag ysgol o'i flaen a man chwarae y tu cefn iddo, wedi denu cwynion o bryd i'w gilydd gan drigolion a deiliad y drwydded, fod y rheiny wedi cynyddu'n sylweddol ar ôl i'r babell fawr gael ei chodi ym maes parcio'r safle, a'u bod wedi lleihau ar ôl ei symud. Cyfeiriodd hefyd at farn y trigolion, er bod y cais am adolygiad wedi'i gyflwyno, ei bod yn ymddangos bod diffyg cydgysylltu rhwng yr awdurdodau cyfrifol perthnasol wrth fynd i'r afael â'u cwynion/pryderon.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r Cynghorydd John ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at ddarpariaethau Adran 177A o Ddeddf Trwyddedu 2003 a'r amod arfaethedig a awgrymwyd sy'n ceisio dileu'r hawl i gael cerddoriaeth fyw o dan Ddeddf Cerddoriaeth Fyw 2003 mewn perthynas â phob man allanol. Gofynnodd am eglurhad ynghylch a allai deiliad y drwydded barhau i gynnal digwyddiadau byw yn y safle pe bai'r hawl yn cael ei dileu. Cadarnhaodd yr Arweinydd Trwyddedu y gellid chwarae cerddoriaeth fyw, yn dilyn dadreoleiddio trwyddedu, rhwng 8.00 a.m. ac 11.00 p.m. mewn gerddi cwrw tafarnau. Byddai dileu'r amod hwnnw'n dal i ganiatáu i ddigwyddiadau byw gael eu cynnal ond byddent yn ddarostyngedig i amodau'r drwydded safle. Byddai hefyd yn ofynnol cyflwyno Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro ar gyfer digwyddiadau a gynhelir y tu allan i'r safle, h.y. yn y maes parcio.

 

Anerchodd cynrychiolydd cyfreithiol deiliad y drwydded safle y Pwyllgor i gefnogi ei chleient a dywedodd ei fod yn angerddol am ei fusnes ac am ddarparu gwasanaeth i'r gymuned. Roedd wedi bod yn rhagweithiol ers llacio'r rheoliadau Covid ac wedi cysylltu â Safonau Masnach ar 12 achlysur am gyngor mewn perthynas â'r rheoliadau. Roedd ei chleient eisoes wedi cydymffurfio â nifer o'r amodau y gofynnwyd amdanynt ac roedd teledu cylch cyfyng wedi'i osod yn y safle. Fodd bynnag, roedd ganddo bryderon am amod arfaethedig rhif 2 ynghylch cau ffenestri a drysau ar ôl 7.00 p.m. ac effaith bosibl hynny ar y gofynion o ran Covid mewn perthynas â gadael i awyr iach ddod i mewn i'r safle. Derbyniwyd y gallai dileu'r hawl i gael cerddoriaeth fyw effeithio ar broffidioldeb y busnes. Fodd bynnag, cadarnhaodd deiliad y drwydded y byddai cyfanswm o 8 digwyddiad byw y tu allan dros fisoedd yr haf yn fwy na thebyg, gan gynnwys gwyliau banc.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd deiliad y drwydded safle ynghylch ei sylwadau.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw hefyd i'r paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan y partïon.

 

YN OGYSTAL, PENDERFYNWYD bod yr Is-bwyllgor, ar ôl iddo ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, o'r farn y dylid ymdrin â'r cais fel a ganlyn:-

 

  1. Bod yr hawl i gael cerddoriaeth fyw o dan Ddeddf Cerddoriaeth Fyw 2003, mewn perthynas â mannau allanol y safle, yn cael ei dileu a bod datganiad yn cael ei ychwanegu at y Drwydded Safle yn datgan nad yw Adran 177A o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn berthnasol i'r amodau ar y drwydded a bod yr amodau ar y drwydded yn cael effaith o'r newydd.
  2. Bod y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i'r amodau ar y drwydded:

(a)  Atodiad 2, Adran b, Amod 1 - i'w ddisodli gan yr amod newydd ynghylch teledu cylch cyfyng a gynigiwyd gan yr Heddlu yn eu sylwadau ysgrifenedig.

(b)  Atodiad 2, Adran b – ychwanegu amod 24, 'Caiff alcohol ei werthu i'w yfed yn y mannau allanol mewn gwydrau polycarbonad, plastig neu annrylliadwy yn unig.’

(c)   Atodiad 2, Adran b – ychwanegu amod 25, 'Bydd deiliad y drwydded safle yn cymryd camau rhesymol i geisio sicrhau nad yw cwsmeriaid yn mynd â gwydrau a photeli o'r safle.’

(d)  Atodiad 2, Adran d, Amod 1 – i'w ddisodli gan amod newydd, 'Ar wahân i fynediad i mewn i unrhyw ystafell berthnasol ac allan ohoni, bydd y drysau a'r ffenestri mewn unrhyw ystafell lle mae cerddoriaeth sy'n mynd drwy uchelseinydd yn cael ei chwarae yn parhau ar gau o 9pm ymlaen.’

(e)  Atodiad 2, Adran d – ychwanegu amod newydd 5, 'Bydd mecanweithiau sy'n cau ohonynt eu hunain yn cael eu gosod ar bob drws yn y safle.’

(f)    Atodiad 2, Adran d – dileu'r amodau presennol 5 i 9.

(g)  Atodiad 2, Adran d – ychwanegu amod newydd 6, 'Ni chaiff cerddoriaeth fyw na cherddoriaeth wedi'i recordio ei chwarae mewn unrhyw leoliad allanol yn y safle ac ni chaiff cerddoriaeth fyw na cherddoriaeth wedi'i recordio ei chwarae mewn unrhyw leoliad arall yn y safle nac unrhyw safle cyfagos at ddibenion diddanu unigolion ym mannau allanol y safle.’

(h)  Atodiad 2, Adran d - ychwanegu amod newydd 7, 'Ni chaiff setiau teledu, radios nac offer arall sy'n cynhyrchu sain eu defnyddio mewn unrhyw fan allanol yn y safle neu mewn unrhyw leoliad arall yn y safle nac unrhyw safle cyfagos at ddibenion diddanu unigolion ym mannau allanol y safle.'

 

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  1. Bu'r safle yn destun niwsans i aelodau o'r cyhoedd sy'n byw yn y cyffiniau.
  2. Roedd y niwsans wedi bod yn gyhoeddus ei natur.
  3. Roedd y niwsans cyhoeddus wedi ymwneud â s?n cerddoriaeth, s?n gan gwsmeriaid yn y safle a'r tu allan iddo, parcio cerbydau a gollwng sbwriel.
  4. Mae cwsmeriaid y safle hefyd wedi cymryd rhan mewn ymladd, difrod troseddol, troethi cyhoeddus ac ymddygiad bygythiol.
  5. Mae dull rheoli'r safle wedi methu â hybu'r amcanion trwyddedu ar adegau.
  6. Mae ymdrechion yr awdurdodau cyfrifol i ddatrys materion gyda deiliad y drwydded safle yn anffurfiol wedi bod yn aflwyddiannus.

 

 

Mae'r Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar sylwadau'r awdurdodau cyfrifol. Yn benodol, mae'n nodi bod yr holl awdurdodau cyfrifol sydd wedi mynychu'r gwrandawiad yn cefnogi'r cais am adolygiad a'r gwahanol fesurau rheoli y gofynnwyd amdanynt.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd, lle nad oes tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gall roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Yn yr achos hwn, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon bod tystiolaeth wirioneddol ger ei fron i ddangos bod gweithrediad y safle wedi achosi niwsans i drigolion lleol a bod y niwsans hwn o'r fath natur, hyd, graddau ac effaith fel ei fod yn niwsans cyhoeddus yn hytrach na niwsans preifat. Ym marn yr Is-bwyllgor, roedd tystiolaeth yr awdurdodau cyfrifol yn gredadwy ac yn rymus. Mae'r swyddogion wedi tystio'n uniongyrchol i'r materion y cwynwyd amdanynt ac mae eu tystiolaeth yn ategu'r cwynion gan drigolion lleol a'r recordiadau s?n.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod y gallai'r camau gweithredu a gynigir gan yr ymgeisydd gael effaith negyddol ar weithrediad y safle. Fodd bynnag, mae o'r farn y dylai effaith o'r fath fod yn gymharol gyfyngedig, gan y gall deiliad y drwydded barhau i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn y safle.  Felly, mae wedi ceisio cydbwyso'r effaith ar y safle drwy gymryd y camau arfaethedig â'r effaith a brofir gan drigolion lleol yn sgil gweithrediad y safle.

 

Mae'r Is-bwyllgor o'r farn bod ganddo'r dewisiadau canlynol o dan y Ddeddf Trwyddedu i hybu'r amcanion trwyddedu:

 

  • Dirymu'r drwydded
  • Atal y drwydded
  • Dileu Goruchwylydd Dynodedig y Safle
  • Ychwanegu amodau trwydded
  • Dileu gweithrediad yr eithriad o ran Cerddoriaeth Fyw
  • Dileu gweithgareddau trwyddedadwy o'r drwydded
  • Peidio â gweithredu

 

 

Mae'r Is-bwyllgor o'r farn y byddai'r ddau ddewis cyntaf, er y byddent yn effeithiol wrth hybu'r amcanion trwyddedu, yn ymateb anghymesur i'r materion a nodwyd. O ran y trydydd dewis, mae'r Is-bwyllgor o'r farn na fyddai hyn yn helpu i hybu'r amcanion trwyddedu. Yn yr un modd, ni fyddai peidio â gweithredu a gadael materion heb eu newid o gwbl yn gwneud dim i hybu'r amcanion trwyddedu.

 

Mae'r Is-bwyllgor wedi ystyried a fyddai'n briodol dileu gweithgareddau trwyddedadwy neu gyfyngu ar yr amseroedd pan gânt eu caniatáu (yn enwedig darparu cerddoriaeth fyw) o'r drwydded. O ystyried bod y prif broblemau wedi codi yn sgil digwyddiadau mewn mannau allanol (nad ydynt mewn gwirionedd yn rhan o'r ardal drwyddedig), mae'r Is-bwyllgor o'r farn y byddai dileu cerddoriaeth fyw yn gyfan gwbl o'r drwydded yn cael effaith anghymesur ar hyfywedd y busnes.

 

Mae hyn yn gadael y pedwerydd a'r pumed dewis i'r Is-bwyllgor.

 

Gan droi at ddileu'r eithriad o ran Cerddoriaeth Fyw, mae'r Is-bwyllgor o'r farn bod hon yn ffordd briodol a chymesur o hybu'r amcan o ran atal niwsans cyhoeddus. Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw ym mannau allanol y safle a fu'n brif ffynhonnell niwsans cyhoeddus. Wrth ddod i'r farn hon, mae'r Is-bwyllgor yn nodi nad yw dileu'r eithriad hwn yn atal cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn ardal drwyddedig y safle.  Mae'r drwydded safle yn awdurdodi'n benodol ddarparu cerddoriaeth fyw yn ardal drwyddedig y safle ac nid yw'r cais yn ceisio dileu hyn. Fodd bynnag, mae dileu'r eithriad yn

  • Dileu gallu deiliad y drwydded i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw mewn mannau allanol heb (a) amrywio'r drwydded safle bresennol neu (b) cyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro.
  • Sicrhau y bydd unrhyw amodau ar y drwydded safle sy'n ymwneud â cherddoriaeth fyw yn cael effaith.

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, nid yw'r Is-bwyllgor o'r farn y bydd hyn yn cael effaith anghymesur ar y busnes a bydd yn gwneud llawer i hybu'r amcanion trwyddedu.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn nodi y gall deiliad y drwydded safle gyflwyno (ac yn wir, mae wedi gwneud hynny yn y gorffennol) hysbysiadau digwyddiadau dros dro i ganiatáu i ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw gael eu cynnal yn y safle. Ar hyn o bryd mae hyn wedi'i gyfyngu i 15 achlysur y flwyddyn, gyda phob achlysur yn para am hyd at 168 awr (7 diwrnod), yn amodol ar uchafswm o 21 diwrnod o hyd. Bydd hyn yn cynyddu'r flwyddyn nesaf i 20 achlysur y flwyddyn, gydag uchafswm o 26 diwrnod o hyd.

 

O ran y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Mr. Howell, mae hyn yn ddigon i'w alluogi i gynnal digon o ddigwyddiadau mewn mannau allanol i sicrhau hyfywedd y busnes.

 

Mewn perthynas â'r newidiadau i amodau'r drwydded, mae'r Is-bwyllgor o'r farn bod y rhain yn briodol i hybu'r amcanion trwyddedu o ran atal troseddu ac anhrefn ac atal niwsans cyhoeddus. Yn benodol, o ystyried effaith cynnal digwyddiadau cerddoriaeth a digwyddiadau eraill ym mannau allanol y safle ar drigolion lleol, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon bod amodau newydd 6 a 7 yn Atodiad 2, Adran d o'r drwydded yn briodol ac yn gymesur. Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, mae'r pwyllgor unwaith eto wedi ystyried nad yw hyn yn effeithio ar allu deiliad y drwydded safle i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn yr ardal drwyddedig dan do neu i gyflwyno hysbysiadau digwyddiadau dros dro sy'n gofyn am awdurdodiad i gynnal digwyddiadau o'r fath y tu allan i'r ardal drwyddedig.

 

Fodd bynnag, mae'r Is-bwyllgor wedi cydnabod y pwynt dilys a wnaed gan Miss Walton, cwnsler deiliad y drwydded safle, mewn perthynas ag Atodiad 2, Adran d, Amod 1. Felly, mae o'r farn mai dim ond ar ôl 9pm y dylai'r gofyniad i gadw drysau a ffenestri ar gau fod yn berthnasol, pan fydd cerddoriaeth sy'n mynd drwy uchelseinydd yn cael ei chwarae. Ar ôl yr amser hwn, bydd yn rhaid i ddeiliad y drwydded naill ai ddefnyddio cerddoriaeth nad yw'n mynd drwy uchelseinydd neu weithredu mesurau diogelwch eraill o ran Covid. Mae'r Is-bwyllgor o'r farn bod hyn yn gydbwysedd rhesymol rhwng buddiannau cystadleuol y busnes a thrigolion lleol.

 

 

 

Dogfennau ategol: