Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD GARY JONES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, CADEIRYDD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

“O ystyried y fenter wych gan Gyngor Sir Caerfyrddin o ran gweithio ar strategaeth newydd i ddatblygu nodweddion a mannau awyr agored naturiol, a ellir herio ceisiadau cynllunio ar y CDLl presennol a'r CDLl arfaethedig drwy'r strategaeth hon? Os felly, oni ddylai hyn fod ar frig unrhyw ystyriaethau pan ddaw ceisiadau cynllunio i law, ynghyd â barn trigolion am gadw mannau Gwyrdd yn eu bro?”

 

Cofnodion:

 

“O ystyried y fenter wych gan Gyngor Sir Caerfyrddin o ran gweithio ar strategaeth newydd i ddatblygu nodweddion a mannau awyr agored naturiol, a ellir herio ceisiadau cynllunio ar y CDLl presennol a'r CDLl arfaethedig drwy'r strategaeth hon? Os felly, oni ddylai hyn fod ar frig unrhyw ystyriaethau pan ddaw ceisiadau cynllunio i law, ynghyd â barn trigolion am gadw mannau Gwyrdd yn eu bro?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio:-

 

Hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Gary Jones am y cwestiwn – gan mai dyma'r cwestiwn cyntaf i mi ei gael yn ystod dros chwe blynedd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio! Fodd bynnag, rhaid imi gyfaddef fy mod wedi drysu ychydig ynghylch pam y cyfeirir y cwestiwn ataf i, gan fod gennym Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Gynllunio – gan gynnwys y Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas a'r CDLl ar ei newydd wedd.  Ond does dim ots, rwy'n ddigon hapus i ymateb.  

 

Fel y g?yr yr aelodau, nod y strategaeth seilwaith gwyrdd a glas yw creu rhwydwaith o fannau a choridorau naturiol a lled-naturiol rhwng trefi a phentrefi, ac yn mynd drwyddynt – parciau, rhandiroedd, perthi, coetiroedd ac yn y blaen.  Yn wir, mae'n fenter ragorol a allai helpu i gyflawni llawer o amcanion corfforaethol y Cyngor, gan gynnwys datgan argyfwng hinsawdd ym mis Chwefror 2019.  

 

Wrth gwrs, mae nifer o bolisïau eisoes wedi'u cynnwys yn y CDLl presennol sy'n adlewyrchu'r pwyslais ar warchod a gwella'r amgylchedd naturiol, yn ogystal â hyrwyddo dylunio da – megis tai carbon niwtral.  Datblygwyd yr agenda hon ymhellach yn y CDLl Diwygiedig lle mae creu lleoedd a seilwaith gwyrdd yn rhan fawr o'r gofynion ar gyfer datblygiadau newydd.   

 

Mae'r CDLl a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn seiliedig ar brosesau ymgynghori – gan gynnwys y rhai ag aelodau o'r cyhoedd a'n cydweithwyr mewn Parciau a Hamdden, ac Ecoleg. Mae'r rhain yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau, ac mae unrhyw sylwadau cynllunio perthnasol a thystiolaeth yn cael sylw dyledus fel rhan o'r broses hon.  

 

O ran y Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas, yn wir, bydd yn cael ei defnyddio i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ac i lywio'r CDLl Diwygiedig sy'n cael ei ddatblygu – ochr yn ochr â llawer o wybodaeth, polisïau a thystiolaeth arall.  Er nad yw o reidrwydd yn bwysicach na ffactorau eraill, caiff y strategaeth ei llywio gan ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth o gyrff a phartïon â buddiant – a rhoddir ystyriaeth lawn i adborth o'r fath bob amser.  

 


Mae'n rhaid inni fel Cyngor, a'r Pwyllgor Cynllunio, bwyso a mesur gofynion amrywiol yn erbyn polisïau a thystiolaeth bob amser ac ystyried materion mewn modd mor wrthrychol â phosibl. Mae gan gynllunio berthynas allweddol â gweledigaeth adfywio'r cyngor hwn a'r modd y caiff ei rhoi ar waith.  Rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn Llanelli yn enwedig, yng Nghaerfyrddin, yn Rhydaman ac yn ein trefi marchnad llai mewn ardaloedd gwledig. Mae ar bobl ifanc angen addysg ar gyfer yr 21ain ganrif, swyddi da – a thai fforddiadwy, y mae'r cyngor hwn yn darparu cannoedd ohonynt, yn ogystal â'r 900 o dai cyngor rydym wedi dechrau eu hadeiladu. Yn amlwg, mae angen tir arnom i wneud hynny.  

  

Er enghraifft, yn ward y Cynghorydd Gary Jones ei hun, mae'r safle a ddyrannwyd ym Mhlas Isaf wedi'i gynnwys yn Rhaglen Tai Fforddiadwy uchelgeisiol yr Adran Dai. Hefyd, yn Harddfan ar y Bryn, mae safle llai wedi'i glustnodi i'w gynnwys yng nghynllun Hunanadeiladu Cymru Llywodraeth Cymru. 

 

Rwy’n gobeithio bod hyn yn gwneud y sefyllfa'n fwy clir. Rwy’n gobeithio hefyd y bydd aelodau'n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas fel elfen bwysig wrth lunio dyfodol ein cymunedau. 

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau ategol.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau