Agenda item

LLES: GWASANAETHAU ADDYSG A PHLANT.

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r ffyrdd helaeth y mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn cefnogi ein hysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau arbenigol o ran llesiant dysgwyr a staff.

 

Mae'r adran yn parhau i weithio ochr yn ochr ag ysgolion yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, teuluoedd a staff, wrth iddi barhau i fynd i'r afael â phandemig COVID.  Mae'r heriau llesiant sy'n wynebu ysgolion yn fwyfwy amlwg a chymhleth, gan ychwanegu pwysau ychwanegol ar staffio.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi:-

 

-       yr hyn sy'n hysbys am lesiant staff a disgyblion ar hyn o bryd;

-       sut mae'r Tîm Gwella Ysgolion yn cefnogi llesiant ei staff a'i ddysgwyr;

-       mentrau cymorth pellach;

-       y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant a'r Tîm Iechyd Emosiynol;

-       cymorth corfforaethol a chymorth arall sydd ar gael.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am awyru a monitro CO2 mewn ysgolion a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau awyru da er mwyn helpu i atal lledaeniad Covid.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd unrhyw batrwm adnabyddadwy yn y data a gasglwyd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd patrwm ar y cyfan, fodd bynnag, efallai bod teuluoedd o gefndiroedd mwy difreintiedig yn wynebu mwy o heriau.  Roedd yn bwysig nodi bod heriau gwahanol yn codi mewn gwahanol ardaloedd gan fod yr heriau'n newid dros amser;
  • Pan ofynnwyd sut mae Rhwydweithiau Cymheiriaid i Gymheiriaid yn gweithio, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai fforwm gr?p yw hwn lle mae penaethiaid yn dod at ei gilydd i rannu pryderon a phrofiadau.  Yn ogystal, os oes angen cymorth pellach ar unrhyw bennaeth yna trefnir hynny ac mae yna hefyd gyfeirio at gymorth sydd ar gael gan sefydliadau allanol;
  • Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn syniadau hunanladdol ac ymgeisiau i gyflawni hunanladdiad a'r ffaith y gall gymryd hyd at 3 wythnos cyn y gellir gweld cwnselydd oherwydd rhestrau aros a gofynnwyd i swyddogion a oes mesurau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith os yw'r risg yn uchel.  Sicrhawyd yr Aelodau, os nodir angen sylweddol ar ddechrau'r cwnsela, bod y plant hynny'n cael sylw'n gyflym.  Pan fydd unrhyw ddisgybl yn achosi pryderon, caiff ysgolion gefnogaeth gadarn ar unwaith gan y seicolegwyr addysg a'r timau diogelu.  Darperir cymorth uniongyrchol i'r person ifanc a'i deulu;
  • Gofynnwyd i swyddogion am lefel y cynnydd.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod 58 o achosion o hunanladdiad neu syniadau hunanladdol wedi'u cyfeirio at y gwasanaeth cwnsela yn 2020/21 o gymharu â 38 yn y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn gynnydd eithaf sylweddol ond dyma'r darlun cenedlaethol hefyd;
  • Cyfeiriwyd at y pwysau digynsail sylweddol a roddwyd ar rieni yn ystod y pandemig o ran addysg yn y cartref a materion cysylltiedig eraill a chyfeiriwyd at y ffaith nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at ymgysylltu â rhieni h.y. helpu rhieni i helpu eu plant.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod llawer o ysgolion yn ymwneud â'r Rhaglen Iechyd a Hapusrwydd ar ddechrau'r pandemig a oedd yn mynd i'r afael â rhai materion perthnasol fel arferion ac ati. Hefyd, roedd Prosiect Ymgysylltu â Theuluoedd peilot yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i ymestyn rhywfaint o'r cymorth a gynigir i deuluoedd ymhellach. Nododd y Cyfarwyddwr, lle mae plant yn y cwestiwn, fod yna orgyffwrdd rhwng Addysg a Gwasanaethau Plant felly mae Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd yn cyfrannu at yr agenda hwn hefyd. Bydd llawer o blant yn cael eu cefnogi gan y ddwy adran;
  • Cyfeiriwyd at y pwysau ychwanegol a roddwyd ar benaethiaid mewn perthynas ag ymgynghoriadau a theimlwyd bod hyn yn ddiangen ar hyn o bryd, o ystyried faint o bwysau sydd eisoes ar staff.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod ymgynghori ar strategaethau e.e. Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn ofyniad statudol ac mae'n ofynnol i'r Awdurdod ymgynghori ac adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Ionawr; 
  • O ran ein hysgolion arbennig, gofynnwyd i swyddogion a oeddent yn llwyddo i gadw mewn cysylltiad agos â'r Gwasanaethau Cymdeithasol, ffisiotherapi ac asiantaethau eraill yn ystod y pandemig. Hefyd, a oedd y plant hyn yn cael mwy o brofiadau addysgu yn yr awyr agored?  Hysbyswyd y Pwyllgor, yn unol â'r holl asesiadau risg, fod gwaith amlasiantaethol wedi parhau i bob dysgwr yn ein holl leoliadau arbenigol.  Mae'r arweinwyr wedi bod yn greadigol iawn yn eu ffordd o feddwl er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at yr ystod o ddysgu a chymorth sydd eu hangen arnynt.  Cyfathrebu'n rheolaidd â theuluoedd i sicrhau, hyd yn oed yn ystod amseroedd dysgu cyfunol, pan nad oedd dysgwyr yn gallu bod yn y dosbarth, fod cymorth trwyadl ar waith.  Hyd yn oed yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol, mae arweinwyr wedi bod yn arloesol iawn yn y ffordd y maent wedi delio â'r dysgwyr mwyaf agored i niwed er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth honno'n parhau.  Rydym yn cymeradwyo'n gryf dysgu yn yr awyr agored i'n holl ddysgwyr ac roedd rhai o'r prosiectau a gyflwynwyd yn canolbwyntio ar gael dysgwyr y tu allan, hyd yn oed wrth ddysgu gartref, drwy ymgysylltu â rhieni;
  • Mynegwyd pryder ynghylch faint o bwysau a oedd yn cael ei roi ar benaethiaid drwy gydol y pandemig ac yn awr gyda'r amrywiolyn newydd a mwy o bwysau a chyfrifoldeb yn cael eu rhoi ar benaethiaid, gofynnwyd i swyddogion a oeddent yn teimlo'n fodlon bod cymorth digonol yn cael ei ddarparu o ran trosglwyddiad yr haint ac iechyd a diogelwch.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod swyddogion yn ymwybodol iawn o'r heriau y mae penaethiaid yn eu hwynebu, drwy gyswllt rheolaidd.  Cynhyrchodd swyddogion Asesiad Risg gan ddefnyddio templed corfforaethol a darparwyd cymorth i gwblhau'r rhain.  Mae'r tîm Iechyd a Diogelwch hefyd wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag ysgolion. Tynnodd sylw at y ffaith ei bod yn bwysig cofio iechyd a llesiant swyddogion sydd wedi bod yn gweithio'n ddi-stop drwy gydol y pandemig, gan fod ar alwad yn gyson. Mae'r garfan o benaethiaid a swyddogion wedi gweithio'n dda iawn gyda'i gilydd; mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd sydd wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n effeithiol;
  • Cyfeiriwyd at gynigion ynghylch cau ysgolion a gofynnwyd i swyddogion a oes unrhyw gymorth yn cael ei ddarparu i blant yn hyn o beth.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod nifer fawr o wahanol bryderon yn cael eu harddangos gan blant ar hyn o bryd oherwydd faint mae'r byd wedi newid.  Mae swyddogion yn gadarn o ran cefnogi ysgolion gydag unrhyw bryderon sy'n dod i'r amlwg boed hynny'n ymwneud â newid yn y ddarpariaeth addysg yn yr ardal neu newid yn yr hinsawdd ac ati.  Mae'r staff yn ystyried llesiant plant o sawl ongl wahanol ac mae'r wybodaeth hon yn cael ei bwydo drwodd i swyddogion fel y gallant ddarparu'r cymorth yn unol â hynny a lleihau'r pwysau;
  • Cyfeiriwyd at broblemau staffio sy'n cael eu profi mewn ysgolion gan nad oes digon o staff ar gael i baratoi bwyd amser cinio.  Cafodd y Pwyllgor wybod y bu heriau staffio drwy gydol y pandemig yn bennaf oherwydd bod staff yn aros am ganlyniadau PCR ac ati. Mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud o ran staff cyflenwi, codwyd y mater gyda Llywodraeth Cymru ac mae ychydig o waith yn cael ei wneud gydag Asiantaethau Cyflenwi mewn ymgais i gynyddu'r staff cyflenwi wrth gefn;
  • Mynegwyd pryder ynghylch ardaloedd lle mae awyru gwael mewn rhai ysgolion lle mae darlleniadau CO2 yn ambr neu'n goch yn gyson a gofynnwyd i swyddogion faint o ysgolion sy'n cael eu heffeithio.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod monitorau wedi'u dosbarthu i ysgolion a gofynnwyd iddynt nodi ystafelloedd sy'n ambr neu'n goch yn gyson.  Cyn gynted ag y derbynnir y canlyniadau hynny, bydd swyddogion yn ymgynghori â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Eiddo i geisio mynd i'r afael â'r awyru gwael yn yr ardaloedd hynny drwy ddefnyddio systemau awyru cludadwy neu beth bynnag sydd ei angen;  
  • Nododd yr Aelodau y cymorth aruthrol sydd ar gael i ddisgyblion, athrawon a phenaethiaid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

4.2 bod y Pwyllgor yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa o ran awyru yn ein hysgolion.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: