Agenda item

STRATEGAETH SEILWAITH GWEFRU CERBYDAU TRYDAN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (CSC) - DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi cynnigi fabwysiadu Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Roedd y strategaeth arfaethedig, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, yn cynnwys 13 polisi allweddol yn benodol i Sir Gaerfyrddin a fyddai'n helpu i ddatblygu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar draws y sir yn y dyfodol i helpu i gyrraedd y targedau ar gyfer lleihau carbon.

 

Amlinellodd yr adroddiad fod strategaeth a datblygiad y seilwaith yn anelu at annog busnesau, trigolion ac ymwelwyr i ddefnyddio cerbydau trydan.  Yn ogystal, byddai'r strategaeth yn caniatáu ar gyfer creu rhwydwaith strwythuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fyddai'n dangos ymrwymiad i gyrraedd targedau sero-net erbyn 2030 a 2050.

 

Dywedwyd, pe bai'r Awdurdod yn penderfynu peidio â mabwysiadu'r strategaeth, y byddai'n golygu bod y sir yn agored i golli cyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ac yn atal y ddarpariaeth yn ôl yr amcan o ran carbon sero-net. Gan nad oes unrhyw strategaeth ar waith ar gyfer y maes hwn lle mae pethau'n symud yn gyflym a bod ceir petrol a disel yn cael eu gwahardd yn 2030, roedd perygl na allwn hwyluso ac annog rhwydwaith gwefru a fyddai'n cefnogi'r holl breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a fyddai modd ychwanegu'r defnydd o feiciau trydan at y 13 polisi allweddol? Eglurodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith fod darparu cysgodfan a chapasiti i wefru hyd at 10 e-feic ar gael neu byddai ar gael yn fuan yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Canolfan Hamdden Llanymddyfri, y Goleudy, Porth y Dwyrain, Parc Gwledig Pen-bre, Rhodfa'r Santes Catrin – Caerfyrddin a Phentywyn. Byddai modd defnyddio'r cyfleusterau hyn ar gyfer e-feiciau yn y lleoliadau hyn yn rhad ac am ddim a byddai Cyngor Sir Caerfyrddin neu drydydd partïon yn talu'r costau ynni.  Eglurwyd bod y Strategaeth hon ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar geir a cherbydau ysgafn yn unig ac y byddai angen strategaeth ar wahân ar gyfer cludo nwyddau. Ychwanegodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, er bod y strategaeth hon wedi canolbwyntio ar y cerbydau hynny a fyddai'n cael eu heffeithio gan y newidiadau sylweddol yn y dyfodol agos, ei fod yn cydnabod y twf yn y defnydd o e-feiciau ac y byddai'n ystyried eu cynnwys yn y strategaeth.

 

·       Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith, mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r cyfleuster gwefru yn Cross Hands, fod pedwar peiriant gwefru cyflym 50kw ar gyfer cerbydau ysgafn ac un peiriant gwefru cyflym iawn 150kw ar gael i'w defnyddio yn y cyfleuster yn Cross Hands. Yn ogystal, gan fod y ddarpariaeth ar y safle ar gael i'w hehangu, byddai'r defnydd yn cael ei fonitro ac os bydd gofyniad i ehangu, gellir gwneud hynny.

 

·       Cyfeiriwyd at y cynllun i osod cyfleusterau gwefru mewn lleoliadau cyhoeddus, codwyd ymholiad ynghylch pwy sy'n talu am y trydan, y cwsmer neu'r cyflenwr? Eglurodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith y broses bresennol mewn perthynas â cheisiadau a chyllid i osod cyfleuster gwefru at ddefnydd y cyhoedd. Byddai'r cwsmer yn talu am ddefnyddio'r cyfleuster gwefru gyda cherdyn neu drwy ap.  Pe bai neuaddau cymunedol yn dymuno cael cyllid i osod cyfleusterau gwefru eu hunain i gynhyrchu ffrwd incwm, esboniwyd bod grantiau penodol ar gael gan y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero.

 

·       Yn dilyn sylw bod y rhan fwyaf o'r cyfleusterau gwefru wedi'u lleoli mewn trefi, gofynnwyd a oedd unrhyw gynlluniau i leoli cyfleusterau gwefru mewn pentrefi gwledig?  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth mai'r strategaeth hyd yma oedd gosod cyfleusterau gwefru mewn ardaloedd gwledig sy'n agos i'r prif rwydwaith ffyrdd er mwyn bodloni anghenion lleol yn ogystal â ffyrdd sydd â llawer o draffig. Ar hyn o bryd mae nifer o gyfleusterau gwefru sydd ar gael i'r cyhoedd wedi'u gosod yn yr ardaloedd gwledig sydd wedi'u nodi ar y map ar dudalen 37 yr adroddiad.  Dywedodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith wrth aelodau'r Pwyllgor fod rhestr yn rhoi gwybodaeth am leoliadau'r holl gyfleusterau gwefru a osodwyd hyd yma ar gael ar wefan y Cyngor.  Hefyd, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai 15 o osodiadau eraill yn cael eu cwblhau maes o law gan ganolbwyntio ar gyrchfannau gwledig a Chanolfannau Hamdden o amgylch y Sir.

O ran y grantiau sydd ar gael i Neuaddau Cymunedol/Pentref, byddai'r Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith yn hapus i gynghori a chynorthwyo'r rhai a fyddai â diddordeb mewn gwneud cais.

 

·       Mewn ymateb i bryder a godwyd nad yw rhai pwyntiau gwefru o bosibl yn addas ar gyfer sicrhau mynediad i bobl anabl, nododd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, er bod gosodiadau cynnar yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o geir/cerbydau ysgafn, fod angen gwneud addasiadau ar rai safleoedd er mwyn datrys cyfyngiadau o ran mynediad.  Yn ogystal, roedd datblygiadau pellach ar y gweill o ran darparu ar gyfer cerbydau mwy o faint. Rhoddwyd sicrwydd bod cynlluniau'r dyfodol bellach yn darparu mynediad i bobl anabl a oedd wedi'i ystyried wrth ddatblygu'r hwb gwefru yn Cross Hands. Wrth i'r farchnad ddatblygu byddai mynediad i bobl anabl yn faes a fyddai'n cael ei feithrin yn y dyfodol.

 

·       Gwnaed ymholiad ynghylch y cyfleusterau ehangach oedd ar gael, e.e. toiledau a lluniaeth i'r rhai sy'n aros i'w cerbydau wefru ac a oedd hyn yn cael ei ystyried yn y cynlluniau lleoliad?  Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith fod y peiriannau gwefru yn yr Hwb Gwefru yn Cross Hands yn beiriannau gwefru cyflym a ddylai gymryd hyd at 30 munud i wefru'n llawn a pheiriannau gwefru'n gyflym iawn sy'n cymryd 20 munud sy'n golygu amser aros byr. Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y rhagwelwyd y byddai'r rhan fwyaf o'r cyhoedd yn defnyddio'r cyfleusterau gwefru a oedd wedi'u lleoli'n strategol ar hyd llwybrau â chyfleusterau cysur ac mewn neuaddau cymunedol fel hwb gwefru wrth ymweld â'r lleoliad.  Pwysleisiodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod hwn yn faes na allai'r Cyngor Sir ei gyflawni'n annibynnol. Dibynnir ar fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth o ystyried graddfa'r gwaith i ddatblygu'r seilwaith cerbydau trydan.

 

·       Cyfeiriwyd at "Cerbydau Trydan 4 - annog y defnydd o gerbydau trydan yn y fflyd". Gofynnwyd ai'r gair 'annog' oedd y term cywir i'w ddefnyddio ac a fyddai rhywbeth cryfach yn fwy addas?  Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y Strategaeth Fflyd yn gymhleth gan y byddai'n rhaid cwblhau sawl asesiad o ran seilwaith, goblygiadau gweithredu, ac anghenion gwasanaeth ac o gofio hyn, rhagwelwyd y byddai'r strategaeth yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor yng Ngwanwyn 2022.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, yn anffodus, nad oedd y Cyngor yn gallu mandadu'r defnydd o gerbydau trydan, ond byddai'n annog hyn ar bob cyfle posibl drwy ddarparu'r cyfleusterau priodol. 

 

·       Cyfeiriwyd at "Cerbydau Trydan 6 - Ymchwilio i ffyrdd o Annog Darpariaeth Pwyntiau Gwefru drwy'r Broses Gynllunio", a gofynnwyd beth oedd y broses gynllunio mewn perthynas â darparu peiriannau gwefru cerbydau trydan ac os oedd unrhyw beth y gellid ei wneud yn wleidyddol er mwyn cryfhau'r broses?  Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i adeiladau newydd, rhai domestig a busnesau, fel rhan o'i Strategaeth Garbon Cymru Sero Net, felly ni fyddai adran gynllunio'r Cyngor yn ystyried hyn ar ei phen ei hun.  Eglurodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith, fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, fod pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi'u cynnwys ar holl ddatblygiadau tai newydd newydd y Cyngor.

 

·       Cyfeiriwyd at y tabl ar dudalen 18 yr adroddiad lle nodwyd bod angen i gyfleuster Gwefru'n Gyflym (a) gael rhwng 30,000 a 55,000 o beiriannau gwefru'n gyflym ar gael i'w defnyddio erbyn 2030 (ar hyn o bryd mae llai nag 1% o hyn wedi'i osod). Gofynnwyd a oedd y Cyngor yn hyderus y byddai'r 99% sy'n weddill yn cael ei osod ymhen 8 mlynedd? Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod Panel Datgarboneiddio Cenedlaethol wedi'i lunio gan CLlLC a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o ranbarthau eraill a'r Prif Weithredwr. O ran cyflawni'r strategaeth, roedd yn dibynnu'n sylweddol ar Lywodraeth Cymru a'r dull gweithredu cenedlaethol. Fodd bynnag, yn dilyn cyfarfod diweddar gydag Aelodau'r Cabinet, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Lee Waters – y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, dywedwyd ei bod yn ymddangos bod mynegiant o hyder o ymrwymiad ariannol a fyddai'n sicrhau bod modd cyflawni'r strategaethau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL I ARGYMELL I'R CABINET y dylid mabwysiadu'r Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan arfaethedig ar gyfer y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: