Agenda item

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

 

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/38576

Preswylfa unllawr â lle byw yn y to a garej integrol ar dir yn ymyl rhif 15 Heol Plas Gwyn, Pen-y-groes, Llanelli, SA14 7RY

PL/00799

Datblygiad Un Blaned ar dir i'r de o Flaenhiraeth, Henllan Amgoed, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0SG

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd B.D.J. Phillips wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried;

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol a wrthwynebai'r cais ac ailadroddodd ychydig o'r pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon penodol mewn perthynas â'r cyflenwad d?r, a rheoli'r ieir sydd ar y safle.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

PL/02848

Cais cynllunio llawn arfaethedig ar gyfer datblygiad o gartrefi preswyl, mynediad i'r briffordd, parcio, tirlunio a gwaith seilwaith cysylltiedig ar dir i'r de o Erw’r Brenhinoedd, Llandybie, Rhydaman, SA18 2TQ

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd S.M. Allen wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried;

PL/02849

Cymeradwyo'r holl faterion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â datblygu swyddfeydd ac adeiladau diwydiannol ysgafn newydd ar Blot 3 gan gynnwys

adeiladau/strwythurau, tirlunio a

seilwaith ategol cysylltiedig yn Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands

Plot 3, Cross Hands

 

3.2           PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/35028

Preswylfa ddeulawr, 15A Bryncaerau, Trimsaran, Cydweli, SA17 4DW

PL/02285

Dymchwel y bloc stablau presennol (a adeiladwyd yn rhannol) a chodi preswylfa yn ei le (angen lleol) ar dir gyferbyn â Th? Liliwen, Nant-y-caws, Caerfyrddin, SA32 8EP

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a oedd yn cefnogi’r cais ar y sail:

·         Bod y cais o fewn cyfyngiadau'r pentref newydd.

·         Ni fyddai'r ymgeiswyr yn gallu fforddio gadael cartrefi eu rhieni pe bai'r cais yn cael ei wrthod.

·         Bod y gwaith adeiladu'n cydymffurfio â graddfa, golwg a thirwedd yr ardal.

·         Bod y cais yn bodloni'r meini prawf ar gyfer tai fforddiadwy.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

PL/02533

Gwaredu Amod 11 ar E/27795 (un breswylfa (anghenion lleol)) yng Ngwenlliw, Dryslwyn, Caerfyrddin, SA32 8RF

 

(NODER: Roedd E. Bryer (Swyddog Gwasanaethau Datblygu) wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried).

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a oedd yn cefnogi’r cais ar y sail:

·         Oherwydd amgylchiadau personol a'i sefyllfa ariannol bresennol, roedd yr ymgeisydd yn wynebu'r posibilrwydd o golli ei gartref.

·         Lleolwyd yr eiddo yng nghanol clwstwr o dai a elwir yn Nantarwenlliw ac nad oedd eiddo eraill yn y cyffiniau wedi bod yn ddarostyngedig i'r cymal tai fforddiadwy.

·         Ni ddylai caniatâd cynllunio fod wedi'i roi o dan delerau tai fforddiadwy oherwydd maint a lleoliad yr eiddo gan fod hyn yn ei golygu ei fod y tu hwnt i allu'r bobl leol o ran fforddiadwyedd.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau