Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - LLANDYBIE RFC, HEOL WOODFIELD, LLANDYBIE, RHYDAMAN, SA18 3UT

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr David Andrew Thomas a Mrs Elizabeth Sarah Meinir Thomas am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi Llandybïe, Woodfield Road, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3UT i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi alcohol - Dydd Sul i ddydd Iau 11:00-11:00, a dydd Gwener a dydd Sadwrn 11:00-02:00. G?yl San Steffan, Nos Galan a dydd Sul ar benwythnos G?yl y Banc 11:00-02.00.

·         Oriau Agor – Dydd Sul i ddydd Iau 11:00-00:30, dydd Gwener a dydd Sadwrn 11:00-02:30, G?yl San Steffan, Nos Galan a dydd Sul ar benwythnosau G?yl y Banc, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul 11:00-01:00.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·         Atodiad A – Copi o'r cais

·         Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor sylw ar lafar gan Mr David Bizby ar ran Heddlu Dyfed-Powys a gyfeiriodd at ei sylwadau ysgrifenedig a dywedodd hefyd ei fod wedi ymweld â'r safle ym mis Hydref a chyfarfod â Mrs Thomas. Cadarnhaodd Mr Bizby nad oedd yr heddlu'n gwrthwynebu'r cais ond gofynnodd am amodau trwydded pendant fel y nodir yn Atodiad B.

 

O ran sylwadau Heddlu Dyfed-Powys, y manylir arnynt yn Atodiad B, nododd yr Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt yn llawn.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau ar lafar gan y gwrthwynebydd yn ail-gyflwyno'r wybodaeth a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad a'r dogfennau atodol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r gwrthwynebydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylw ar lafar gan y Cynghorydd Dai Nicholas yn cefnogi'r cais gan ail-gyflwyno'r wybodaeth a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Yna rhoddwyd cyfle i Mrs Thomas (yr Ymgeisydd) gyflwyno'i sylwadau ac ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd. Cadarnhaodd ei bod wedi derbyn y sylwadau a wnaed gan Heddlu Dyfed Powys.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt.

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth gan yr heddlu yn ymwneud â throseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol neu niwsans cyhoeddus ar y safle
  2. Mae'r safle wedi bod ar waith fel clwb aelodau ers y 1950au
  3. Nid oes unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu caniatáu'r cais
  4. Mae'r Heddlu wedi gofyn am osod amodau ychwanegol ar y drwydded ac mae'r ymgeiswyr wedi cytuno i'r amodau hynny
  5. Mae'r safle'n agos at sawl safle preswyl
  6. Cafwyd 2 ddigwyddiad ym mis Hydref lle'r oedd gweithrediad y safle wedi achosi aflonyddwch s?n i Ms Fane
  7. Mae'r heddlu hefyd wedi gofyn am un amod pellach yngl?n ag awr derfynol o 10.30pm ar gyfer gweithredu'r ardal allanol. Mae'r ymgeisydd hefyd wedi cytuno ar hyn.

 

Mae'r Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol, gan fod rheidrwydd cyfreithiol arno i wneud hynny felly, mae'n rhaid i'r ffaith nad yw un ohonynt yn gwrthwynebu'r cais bwyso'n drwm ar yr Is-bwyllgor.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Er ei fod yn cydnabod pryderon Ms Fane, nid yw'r dystiolaeth a roddwyd gerbron yr Is-bwyllgor yngl?n â'r 2 ddigwyddiad ym mis Hydref yn ddigon i orbwyso barn yr Heddlu.  Byddai'r cais (os caiff ei ganiatáu) yn gosod mwy o ofynion ar weithrediad y safle nag sy'n digwydd ar hyn o bryd.

 

Felly, mae'r Is-bwyllgor yn teimlo, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ger ei fron, na fyddai caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau y cytunwyd arnynt yn tanseilio'r amcanion trwyddedu a bod yr amodau hynny'n ymateb cymesur i'r materion a nodwyd.

 

Nododd yr Is-bwyllgor barodrwydd Mrs Thomas i fynd y tu hwnt i ofynion amodau'r drwydded y cytunwyd arnynt a:

 

  • Gosod arwyddion yn atgoffa cwsmeriaid i beidio â bod yn swnllyd wrth adael y safle
  • Rhoi cyfeiriad e-bost cyswllt i drigolion lleol y gallant ei ddefnyddio i hysbysu'r ymgeiswyr os byddant yn wynebu problemau o'r safle.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn fodlon i'r camau hyn gael eu cymryd yn wirfoddol ar hyn o bryd, er y gallent fod yn sail i amodau'r drwydded yn y dyfodol pe bai problemau'n digwydd.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau