Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HELEN THOMAS

“Bydd y Comisiynydd yn ymwybodol bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi adroddiad ar 17 Medi yn tynnu sylw at ddull anghyson yr Heddlu o fynd i'r afael â thrais tuag at fenywod a merched, ac yn annog yr Heddlu i flaenoriaethu'r mater. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 5 argymhelliad i wella'r sefyllfa. A fyddai'r Comisiynydd yn gallu cadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn? Sut y bydd yn monitro cynnydd dros amser i sicrhau bod hyn yn parhau i gael ei weithredu yn y dyfodol?”

 

Cofnodion:

“Bydd y Comisiynydd yn ymwybodol bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi adroddiad ar 17 Medi yn tynnu sylw at ddull anghyson yr Heddlu o fynd i'r afael â thrais tuag at fenywod a merched, ac yn annog yr Heddlu i flaenoriaethu'r mater. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 5 argymhelliad i wella'r sefyllfa. A fyddai'r Comisiynydd yn gallu cadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn? Sut y bydd yn monitro cynnydd dros amser i sicrhau bod hyn yn parhau i gael ei weithredu yn y dyfodol?”

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

“Daw'r adroddiad arolwg hwn ar adeg pan fo trais yn erbyn menywod a merched yn genedlaethol yn cael blaenoriaeth mewn llawer o drafodaethau, ac yn gwbl briodol felly.

Rwy’n croesawu ffocws AHGTAEM ar y mater hwn ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod trais yn erbyn menywod a merched (VAWG) wedi bod yn flaenoriaeth i mi, i Heddlu Dyfed-Powys ac i blismona yng Nghymru ers peth amser bellach.

Mae Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Ddyfed-Powys fel y'i llywodraethir gan fy Nghynllun Heddlu a Throseddu presennol, Strategaeth Rheoli'r Heddlu a blaenoriaethau'r Prif Gwnstabl. Gallaf gadarnhau y bydd hefyd i’w weld yn amlwg yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd, sydd i'w gyhoeddi’n fuan.

Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda'm cyd-Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yngl?n â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol (VAWDASV) a sut y gallwn ymhestyn ein heffeithiolrwydd i’r eithaf yng Nghymru. Rydym wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar Lasbrint VAWDASV i Gymru. Gyda'n gilydd, rydym hefyd wedi lobïo'r Swyddfa Gartref o ran cyfle a gollwyd yn y Bil Plismona: Fel y'i drafftiwyd, nid yw'r Bil Plismona yn cynnwys trais domestig a cham-drin a thrais rhywiol yn benodol ac felly mae'n colli'r cyfle i gynyddu'r amddiffyniad a roddir i ddioddefwyr a goroeswyr y mathau hyn o drais a cham-drin.

Mae trais yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ers cryn amser, ac mae i’w weld fel llinyn arian ar draws yr holl flaenoriaethau yn y rhaglen waith bresennol. Yn ogystal â hyn, mae dioddefwyr trais rhywiol a throseddau rhywiol yn ffrwd waith benodol o fewn y flaenoriaeth dioddefwyr a thystion. Mae fy nghynllun cyflawni Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yn adlewyrchu hyn ac yn canolbwyntio ar ddarparu safleoedd tystiolaeth o bell a chyfleusterau llys i ddioddefwyr VAWDASV.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ddatblygu'r Hwb Bregusrwydd, sy'n rhoi cymorth arbenigol i swyddogion sy'n delio â digwyddiadau trais yn y cartref ac yn helpu i wella'r gwasanaeth i ddioddefwyr. Mae gweithgarwch diweddar yn cynnwys rôl arbenigol a ariennir gan grant o fewn yr Hwb ar gyfer gwella'r ffordd y rheolir cam-drin domestig.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i wneud cynnydd sylweddol o ran lleihau nifer yr ymchwiliadau sydd ar agor am fwy na 12 mis.

Mae prosiect O’r Dechrau i’r Diwedd Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ganolbwyntio ar roi dioddefwyr wrth wraidd popeth drwy ddeall y galw, gwella prosesau a dylanwadu ar ddiwylliant er mwyn eu galluogi i fod yn effeithlon ac yn effeithiol.

Yn ddiweddar, mae fy swyddfa wedi sicrhau arian ychwanegol o dros £600,000 gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn cynyddu'r gefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ardal Dyfed-Powys. Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi dioddefwyr sydd wedi profi Cam-drin Domestig neu Drais Rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Bydd y cymorth annibynnol arbenigol ychwanegol a fydd ar gael yn awr yn cael ei ddarparu gan ystod eang o sefydliadau cymorth yn y gymuned, yn dilyn cynnydd yn y galw am gymorth.  Bydd naw rôl ychwanegol yn cael eu creu a bydd hyfforddiant arbenigol ar gyfer gweithwyr proffesiynol lleol hefyd yn cael ei ddarparu, gyda'r nod o feithrin capasiti o fewn llochesi cam-drin domestig fel ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, er mwyn galluogi plant i gael mynediad at ymyriadau cynnar gan oedolion y maent yn ymddiried ynddynt a hynny mewn man diogel. Rwy’n falch o ddweud bod yr arian ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad mewn gwasanaethau i ddioddefwyr i dros £1.7miliwn yn ystod 2021/22, o gyfuno cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyllid craidd o'm swyddfa i. Rwy'n parhau i ariannu nifer o wasanaethau cymorth i bobl y mae cam-drin domestig, trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol yn effeithio arnynt ledled ardal yr heddlu.

Mae fy swyddfa hefyd wedi cyflwyno cais yn ddiweddar i Gronfa Diogelwch Menywod yn y Nos y Swyddfa Gartref er mwyn darparu dulliau arloesol o greu mannau diogel i fenywod yn ein cymunedau, yn enwedig economi’r nos a chydnabod ein poblogaethau dros dro o fyfyrwyr ac ymwelwyr sydd ar eu gwyliau. Disgwylir canlyniad y cyflwyniad hwn ym mis Tachwedd.

Bydd gwaith yn parhau i hyrwyddo Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr Dyfed-Powys, a reolir gan fy nhîm, er mwyn sicrhau y ceisir adborth yn uniongyrchol gan ddioddefwyr o ran y gwasanaeth a ddarperir gan Heddlu Dyfed-Powys. Mae llawer o gyfleoedd i ddioddefwyr ymuno â'r Fforwm wedi derbyn cyhoeddusrwydd, gan gynnwys drwy ein gwasanaethau VAWDASV ac yn ddiweddar drwy Swyddfa'r Comisiynydd Dioddefwyr lle dosbarthwyd e-bost i ddioddefwyr o'r ardal leol a ymatebodd i Arolwg Dioddefwyr blynyddol y Comisiynydd Dioddefwyr. Yn ddiweddar, bu aelodau'r Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr yn bwydo'n ôl ar eu profiad o effaith COVID-19 ar wasanaethau cymorth i ddioddefwyr, ac yn fuan, gofynnir iddynt roi adborth ar daflen Heddlu Dyfed-Powys sy'n rhoi arweiniad a chyngor arbenigol i ddioddefwyr troseddau rhywiol. 

Yn ogystal, mae gwaith ar y gweill i archwilio'r sefyllfa'n lleol o ran pa mor ddiogel y mae menywod a merched yn teimlo ar lefel leol, a pha gamau y gallaf eu cymryd i sicrhau ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ym mis Tachwedd 2021. 

Ar hyn o bryd mae fy nhîm yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys i hyrwyddo'r pecyn cymorth newydd StreetSafe sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd. Mae ar gael ar holl wefannau'r bob un o’r Heddluoedd ac mae'n wasanaeth er mwyn i aelodau'r cyhoedd ddweud wrth Heddlu Dyfed-Powys, yn ddienw, am fannau cyhoeddus lle maent wedi teimlo'n anniogel, oherwydd materion amgylcheddol, e.e. goleuadau stryd, adeiladau sydd wedi’u gadael yn wag neu fandaliaeth a/neu oherwydd ymddygiadau, e.e. cael eu dilyn neu eu cam-drin yn eiriol.

O ystyried canfyddiad penodol adroddiad AHGTAEM bod y "Defnydd o bwerau amddiffynnol (fel Gorchmynion Diogelu Rhag Trais Domestig (DVPOs), Hysbysiadau Amddiffyn RhagTrais Domestig (DVPNs) a Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio (SPOs)), yn anghyson, ac nid oes esboniad am hyn", fe roddir ystyriaeth ynghylch a fyddai'n briodol ac yn addas i aelodau fy Mhanel Sicrhau Ansawdd graffu ar ddefnydd Heddlu Dyfed-Powys o bwerau diogelu.

Ar yr un pryd, mae gweithgarwch craffu a gynhaliwyd yn ddiweddar gan AHGTAEM, y Coleg Plismona a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi arwain at yr argymhelliad y dylai Prif Gwnstabliaid adolygu, ac os oes angen, adnewyddu eu polisi ar DVPNs a DVPOs er mwyn sicrhau bod llywodraethu a chyfathrebu clir ar gyfer blaenoriaethu eu defnyddio’n effeithiol. Rwyf wedi gofyn am dystiolaeth fanwl gan Heddlu Dyfed-Powys yngl?n â phob un o'r argymhellion yn adroddiad AHGTAEM ac fe'm sicrhawyd gan y camau a gymerwyd hyd yma a'r rhai a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol. Byddaf yn ceisio sicrwydd parhaus o gyflawniad yr allbynnau allweddol sy'n ymwneud â hyn. 

Yn benodol mewn perthynas â gweithredu'r canfyddiadau a'r argymhellion a nodir yn adroddiad AHGTAEM ar ymateb yr Heddlu i drais yn erbyn menywod a merched, rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan y Prif Gwnstabl ynghylch gwaith cyfredol a pharhaus sy’n ymwneud ag argymhellion yr adroddiad. Fe ddywedwyd wrthym bod Strategaeth Heddlu’n cael ei datblygu ar gyfer rheoli argymhellion yr adroddiad. Bydd pennaeth Bregusrwydd Heddlu Dyfed-Powys yn arwain ar y darn hwn o waith, a bydd yr argymhellion yn cael eu monitro a'u trafod ym Mwrdd Bregusrwydd Strategol Heddlu Dyfed-Powys. Mae fy Nghyfarwyddwr Comisiynu a’m Hymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu ill dau’n eistedd ar y Bwrdd Bregusrwydd Strategol, a byddant yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi o ran y cynnydd a adroddwyd yn erbyn yr argymhellion.  Byddant hefyd yn gallu gofyn cwestiynau i'r Bwrdd ar fy rhan.

Byddaf yn parhau i graffu ar ddiweddariadau cynnydd gan y Prif Gwnstabl Parmenter a'i huwch dîm rheoli. Yn ogystal â hyn, mae fy Nghynghorydd Ansawdd a Sicrwydd yn mynychu cyfarfod misol gyda Thîm AHGTAEM Heddlu Dyfed-Powys, lle rhoddir diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion. 

O ran y materion sydd bellach yn bodoli o ganlyniad i lofruddiaeth drasig Sarah Everard, mae argymhellion AHGTAEM, wrth gwrs, yn gofyn am arweiniad cryf er mwyn ailddatgan y safonau llym a arferir gan Wasanaeth yr Heddlu yn y DU a dangos ymrwymiad i fynd i'r afael â throseddau treisgar, yn enwedig pan gânt eu defnyddio yn erbyn menywod. O ganlyniad i, ac yn ogystal â'r trefniadau Llywodraethu a amlinellwyd eisoes ar gyfer yr argymhellion, bydd y Prif Gwnstabl yn penodi Prif Swyddog Arweiniol ar gyfer y maes gwaith hwn er mwyn sicrhau bod ganddi'r lefel ddigonol o gymorth a chraffu wrth symud ymlaen.

Mae'r Prif Gwnstabl hefyd wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Syr Tom Winsor yn dweud y byddai'n fanteisiol i'r Llywodraeth ddarparu cyllid parhaus, nid yn unig ar gyfer plismona, ond i sectorau cyhoeddus eraill, ar gyfer gwneud newid gwirioneddol ym mhob agwedd ar fywyd er mwyn cyflawni egwyddorion strategaeth y Llywodraeth ar gyfer mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. 

Rwy'n hyderus bod Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu argymhellion AHGTAEM a ffocws parhaus plismona yn y maes hwn. Hyderaf fod yr uchod yn rhoi sicrwydd ynghylch ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys i fynd i'r afael â'r argymhellion, yn ogystal â'm gwaith craffu a'm goruchwyliaeth barhaus o'r maes hwn.

Bydd y wybodaeth uchod yn ymddangos yn fy ymateb ffurfiol i adroddiad arolwg AHGTAEM ar 'ymateb yr heddlu i drais yn erbyn menywod a merched', a fydd yn cael ei gyflwyno ar 12 Tachwedd.”

 

Yn dilyn ei ymateb cytunodd y Comisiynydd Heddlu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Panel am y cynnydd.

Dogfennau ategol: