Agenda item

CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN MR. R. HUISH

“Gomisiynydd, rydych yn ymwybodol o'r holl honiadau o dwyll ac arferion llwgr a wnaed yn erbyn nifer o fanciau'r Stryd Fawr sy'n deillio o arferion bancio yn y gorffennol. O safbwynt y dioddefwyr, nid yw'n ymddangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn barod i ymchwilio i honiadau o'r fath neu nad oes ganddo'r adnoddau i wneud hynny'n ddigonol. A yw'r Comisiynydd yn cytuno ei bod yn bwysig bod gan y rheiny sydd wedi dioddef troseddau o'r fath ffydd yng ngallu'r heddlu i ymchwilio'n drylwyr i'w cwynion? O ystyried cyfrifoldeb y Comisiynydd i gefnogi dioddefwyr a dwyn pobl gerbron y llysoedd, a fydd e'n cefnogi ceisiadau’r rheiny sydd wedi dioddef twyll o'r fath yn ardal Dyfed-Powys am ddefnyddio Heddlu allanol sydd â mwy o brofiad o ymdrin ag achosion o'r fath i ymchwilio i'r cwynion hyn? Os nad yw'n cytuno ynghylch defnyddio Heddlu allanol, sut y bydd yn cefnogi'r dioddefwyr hyn?”

 

Cofnodion:

“Gomisiynydd, rydych yn ymwybodol o'r holl honiadau o dwyll ac arferion llwgr a wnaed yn erbyn nifer o fanciau'r Stryd Fawr sy'n deillio o arferion bancio yn y gorffennol. O safbwynt y dioddefwyr, nid yw'n ymddangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn barod i ymchwilio i honiadau o'r fath neu nad oes ganddo'r adnoddau i wneud hynny'n ddigonol. A yw'r Comisiynydd yn cytuno ei bod yn bwysig bod gan y rheiny sydd wedi dioddef troseddau o'r fath ffydd yng ngallu'r heddlu i ymchwilio'n drylwyr i'w cwynion? O ystyried cyfrifoldeb y Comisiynydd i gefnogi dioddefwyr a dwyn pobl gerbron y llysoedd, a fydd e'n cefnogi ceisiadau’r rheiny sydd wedi dioddef twyll o'r fath yn ardal Dyfed-Powys am ddefnyddio Heddlu allanol sydd â mwy o brofiad o ymdrin ag achosion o'r fath i ymchwilio i'r cwynion hyn? Os nad yw'n cytuno ynghylch defnyddio Heddlu allanol, sut y bydd yn cefnogi'r dioddefwyr hyn?”.

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

“Mae’n bwysig iawn i mi fod gan bob dioddefydd ffydd yng ngallu’r heddlu i ymchwilio i’w cwynion yn drylwyr. Mae ymgyrchoedd cenedlaethol yn cefnogi'r ymdrechion penodol hyn mewn perthynas â thwyll bancio, sy'n aml yn cael eu cefnogi gan ASau. Er enghraifft, mae Gr?p Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Bancio Busnesau Teg sydd wedi bod yn lobïo'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a'r Swyddfa Twyll Difrifol i gymryd diddordeb yn y materion hyn, gan gynnwys achosion sy'n hanesyddol.

 

Er nad yw o fewn fy nghylch gwaith i fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) i ymyrryd mewn cyflenwi plismona gweithredol, ymchwilio i achos penodol neu ddweud wrth yr heddlu am ymchwilio iddo, yr wyf wedi cwrdd â dioddefwyr er mwyn gwrando ar eu profiadau a deall unrhyw bryderon a/neu ymholiadau a allai fod ganddynt ar ôl i ymchwiliad heddlu ddod i ben, a byddaf yn parhau i wneud hyn.Ar adegau, mae hyn wedi arwain at gael trafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl mewn perthynas â hwy yn ymgymryd â buddiannau pellach yn y materion hyn ac yn adolygu'r camau a gymerwyd hyd yma.

 

Yr wyf yn hyderus fod gan Heddlu Dyfed-Powys y galluoedd perthnasol i ystyried pob honiad twyll. Heddlu Dyfed-Powys yw’r unig heddlu yn y wlad sy’n annog aelodau o’r cyhoedd yn weithredol i adrodd am dwyll yn uniongyrchol wrthym. Yr ydym yna’n adrodd wrth Action Fraud ar eu rhan, gan wella ansawdd yr adroddiad a anfonir at Action Fraud. Yn ogystal, yn gynnar yn 2020, nododd y Tîm Troseddau Economaidd nad yw data’r Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll yn adlewyrchu gwir faint twyll yn gywir. Ar 6 Ebrill 2020, derbyniodd y Tîm Troseddau Economaidd gyfrifoldeb am reoli’r holl ddigwyddiadau twyll a seiberdroseddu yr adroddir amdanynt wrth yr Heddlu fel galwad am wasanaeth – gan frysbennu’r adroddiadau ac ymgysylltu â dioddefwyr cyn gynted â phosibl er mwyn darparu cymorth, arweiniad a chyngor cyson gan arbenigwr pwnc ac er mwyn sicrhau y cyflwynir adroddiadau cywir i Action Fraud. Ym mis Tachwedd 2020, cyflogodd yr Heddlu Swyddog Brysbennu Twyll llawn amser, sy’n gweithio o fewn y Tîm Troseddau Ariannol, er mwyn rheoli galwadau am wasanaeth sy’n ymwneud â thwyll. Mae fy swyddfa i wedi ariannu’r swydd hon. Byddwn yn cynghori ymhellach fod y gwaith sy’n cael ei wneud gan Heddlu Dyfed-Powys gyda dioddefwyr agored i niwed, o ran darparu cyngor, arweiniad a chymorth, wedi’i gydnabod ar lefel leol ac wedi ennill parch Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (AHGTAEM).  

 

Fel rhan o’m swydd a’m cylch gwaith, rwy’n cwrdd â dioddefwyr, a gyda’u caniatâd, rwy’n cysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ac yn ceisio sicrhau bod yr Heddlu’n ystyried unrhyw bryderon a godwyd yn llawn a bod dioddefwyr yn derbyn esboniad llawn o’r gwaith a wnaed gan yr Heddlu. Yr wyf hefyd yn ystyried pa un ai a oes unrhyw ddewisiadau amgen i ddatblygu unrhyw faterion ar gael i ddioddefwyr, ac os felly, yn rhoi’r wybodaeth berthnasol i ddioddefwyr. Yn dilyn fy nghysylltiad, darperir ymateb ysgrifenedig llawn wedi hynny i’r dioddefydd gan fy swyddfa.

 

Bydd cyflwyniad diweddar (gan Heddlu Dinas Llundain fel Arweinydd Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer Twyll ac arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Troseddau Seiber ac Economaidd) Cylchlythyr Heddlu Arweiniol Cenedlaethol misol ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn rhoi gallu pellach i fy swyddfa ddal Heddlu Dyfed-Powys i gyfrif, fel yr ydym yn gwneud gyda mathau eraill o droseddau, drwy dderbyn perfformiad ein heddlu yn erbyn yr achosion twyll a gyflwynir iddynt gan Action Fraud.”

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau