Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD LES GEORGE

“Ym mis Awst 2021, cyhoeddodd AHGTAEM adroddiad a oedd yn asesu’r cynnydd a wnaed gan heddluoedd yn genedlaethol o ran gweithredu’r argymhellion o’i adroddiad yn 2019 ar ymateb yr Heddlu i dwyll. Mae’r adroddiad newydd hwn yn nodi nad yw’r holl argymhellion gwreiddiol wedi’u gweithredu ac nad oes digon wedi newid. Gan hynny, mae’r adroddiad newydd hwn yn gwneud tri argymhelliad pellach. Mae dau ohonynt wedi’u cyfeirio’n benodol at Brif Gwnstabliaid. Dylid fod wedi cydymffurfio â’r ddau argymhelliad erbyn y cyfarfod hwn. A all y Comisiynydd gadarnhau bod DyfedPowys wedi cydymffurfio’n llwyr â’r holl argymhellion yn y ddau adroddiad sy’n berthnasol iddo? Sut mae’r Comisiynydd wedi bodloni ei hun mai dyma’r sefyllfa? Sut fydd y Comisiynydd yn parhau i fonitro cynnydd gan yr heddlu yn hyn o beth er mwyn sicrhau nad yw’n ffaelu’r dioddefwyr twyll yn y dyfodol?”

Cofnodion:

“Ym mis Awst 2021 cyhoeddodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi adroddiad a oedd yn asesu'r cynnydd a wnaed gan heddluoedd yn genedlaethol wrth weithredu’r argymhellion yn ei hadroddiad yn 2019 ynghylch ymateb yr Heddlu i dwyll. Mae'r adroddiad newydd hwn yn tynnu sylw at y ffaith nad yw pob un o'r argymhellion gwreiddiol wedi'u rhoi ar waith ac nad oes digon wedi newid. Felly, mae'r adroddiad newydd hwn yn gwneud tri argymhelliad pellach, gyda dau ohonynt wedi'u cyfeirio'n benodol at y Prif Gwnstabliaid. Dylid bod wedi cydymffurfio â'r ddau argymhelliad hyn erbyn y cyfarfod hwn. A all y Comisiynydd gadarnhau bod Dyfed-Powys wedi cydymffurfio'n llawn â'r holl argymhellion yn y ddau adroddiad sy'n berthnasol iddo? Sut y mae'r Comisiynydd wedi bodloni ei hun bod hyn wedi digwydd? Sut y bydd y Comisiynydd yn parhau i fonitro cynnydd yr heddlu ynghylch y mater hwn er mwyn sicrhau nad yw'n methu dioddefwyr twyll yn y dyfodol.”

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

“Daeth eich cwestiwn mewn dwy ran, a byddaf yn mynd i’r afael ag ef felly:

1. ‘A all y Comisiynydd gadarnhau bod Dyfed-Powys wedi cydymffurfio’n llwyr â’r holl argymhellion yn y ddau adroddiad sy’n berthnasol iddo? Sut mae’r Comisiynydd wedi bodloni ei hun mai dyma’r sefyllfa.’

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad AHGTAEM (Adroddiad Sbotolau: Adolygiad o Dwyll: Amser i Ddewis. Ailymweld ag Archwiliad Twyll 2018), gofynnais am adborth uniongyrchol gan yr Heddlu a Rheolwr y Tîm Troseddau Economaidd o ran yr argymhellion penodol a wnaed ac rwy’n hyderus ein bod ni fel Heddlu nid yn unig yn bodloni’r gofynion, ond yn rhagori arnynt.

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at yr argymhellion yr oedd AHGTAEM dal yn ystyried fel rhai sydd heb eu cyflawni yn dilyn yr adroddiad gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2019. Mae sefyllfa Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â’r argymhellion sy’n berthnasol i’r heddlu fel a ganlyn:

‘Erbyn 30 Medi 2019, dylai prif gwnstabliaid gyhoeddi polisi eu heddlu ar gyfer ymateb i honiadau o dwyll ac ymchwilio iddynt (mewn perthynas â galwadau am wasanaeth a lledaeniadau Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll ar gyfer gorfodi).’ 

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cwblhau hyn ac mae’r polisi wedi’i gyhoeddi.

‘Erbyn 30 Medi 2021, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod eu heddluoedd yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Gydlynydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Troseddau Economaidd ynghylch galwadau am wasanaeth sy’n gysylltiedig â thwyll.’

 ‘Erbyn 31 Hydref 2021, dylai prif gwnstabliaid fabwysiadu’r canllawiau a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019 gan Gydlynydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Troseddau Economaidd, a oedd wedi’i anelu at wella’r wybodaeth a roddir i ddioddefwyr wrth adrodd am dwyll.’

Ymgymerodd Heddlu Dyfed-Powys ag adolygiad o’u prosesau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau presennol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Mae arferion presennol yn rhagori ar yr argymhellion hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt wneud newidiadau mân i brosesau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus, ac yn ymgysylltu â’r adran TGCh er mwyn hwyluso’r newidiadau hyn.

Nododd yr adroddiad 5 maes ar gyfer gwelliant hefyd:

Maes ar gyfer Gwella 1

‘Er mwyn gwneud gwelliannau yn y maes hwn, dylai prif gwnstabliaid wella’r ffordd mae eu heddlu’n defnyddio rhestri dioddefwyr misol y Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll i adnabod a chefnogi dioddefwyr sy’n agored i niwed a phobl eraill sydd angen cymorth ychwanegol.’

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll yn anfon manylion pob dioddefydd sy’n byw yn ei ardal ac sydd wedi adrodd am drosedd wrth Action Fraud at bob heddlu. Canfu archwiliad blaenorol AHEM nad oedd heddluoedd yn defnyddio’r rhestri hyn yn effeithiol ar gyfer amddiffyn pobl a allai fod mewn perygl uwch.

Tra bod Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud defnydd o restr dioddefwyr wythnosol y Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll, mae proses amgen wedi’i mabwysiadu er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddioddefwyr twyll yn derbyn cymorth ar y pwynt cynharaf yn y broses o adrodd am drosedd.

Yn gynnar yn 2020, nododd y Tîm Troseddau Economaidd nad yw data’r Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll yn adlewyrchu gwir faint twyll yn gywir. Ar 6 Ebrill 2020, derbyniodd y Tîm Troseddau Economaidd gyfrifoldeb am reoli’r holl ddigwyddiadau twyll a seiberdroseddu yr adroddir amdanynt wrth yr Heddlu fel galwad am wasanaeth – brysbennu’r adroddiadau ac ymgysylltu â dioddefwyr cyn gynted â phosibl er mwyn darparu cymorth, arweiniad a chyngor cyson gan arbenigwr pwnc ac er mwyn sicrhau y cyflwynir adroddiadau cywir i Action Fraud. Ym mis Tachwedd 2020, cyflogodd yr Heddlu Swyddog Brysbennu Twyll llawn amser, sy’n gweithio o fewn y Tîm Troseddau Ieuenctid, er mwyn rheoli galwadau am wasanaeth sy’n ymwneud â thwyll. Ariannwyd y swydd hon gan y CHTh.

 

Gwelodd y fenter gynnydd o 108% yn nifer yr achosion twyll yr adroddir amdanynt wrth Action Fraud, yn uniongyrchol a thrwy Heddlu Dyfed-Powys fel galwad am wasanaeth yn 2020/21.

Yn ystod y flwyddyn, cyfeiriwyd 407 o ddioddefwyr agored i niwed i Ymgyrch Signature er mwyn iddynt dderbyn cymorth ychwanegol drwy’r Swyddog Diogelu Rhag Twyll. Ariannwyd y swydd hon gan y CHTh.

Mae rhestr wythnosol y Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll yn cynnwys adroddiadau yn dilyn galwad am wasanaeth i Heddlu Dyfed-Powys yn ogystal â’r dioddefwyr hynny sydd wedi adrodd yn uniongyrchol wrth Action Fraud. Mae’r dioddefwyr hynny ar restr dioddefwyr Action Fraud sydd wedi adrodd wrth Heddlu Dyfed-Powys fel galwad am wasanaeth eisoes wedi derbyn cyngor, arweiniad a chymorth yn ystod y cam cynharaf, cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno i Action Fraud.

Mae’r Swyddogion Brysbennu a Diogelu Rhag Twyll yn craffu ar restr dioddefwyr wythnosol y Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll, ac mae’r unigolion hynny sydd wedi adrodd yn uniongyrchol wrth Action Fraud, ac sy’n ymddangos fel pe baent yn agored i niwed, hefyd yn cael eu cyfeirio i mewn i Ymgyrch Signature.

Fel y nodir uchod, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymgysylltu â nifer sylweddol o ddioddefwyr twyll, naill ai ar ôl galwad am wasanaeth neu ar ôl iddynt gael eu nodi fel pobl sydd o bosibl yn agored i niwed ar restr dioddefwyr wythnosol y Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll gan y Swyddogion Brysbennu/Diogelu. Mae hyn yn gadael nifer bach o ddioddefwyr sydd ddim yn agored i niwed a adroddodd yn uniongyrchol wrth Action Fraud nad oes gan Heddlu Dyfed-Powys yr adnoddau i gysylltu â nhw. O ganlyniad, maen nhw’n ymgynghori â’r Uned Gofal Dioddefwyr Troseddau Economaidd Genedlaethol er mwyn iddynt lenwi’r bwlch hwnnw y tro nesaf maent yn cynnig cymorth ariannol, a fydd yn digwydd o fewn y ddeufis nesaf. 

Maes ar gyfer Gwella 2

‘Dylai Prif Gwnstabliaid sicrhau bod eu heddluoedd yn gwella adnabod a mapio grwpiau troseddu trefnedig lle mae twyll yn brif drosedd.

Nodir Mapio Grwpiau Troseddu Trefnedig drwy ledaeniadau Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll ac Adroddiadau Gweithgarwch Amheus. Mae hon yn broses barhaus sy’n cael ei hadolygu’n gyson. Mae’r Tîm Troseddau Economaidd yn gweithredu asesiad matrics i achosion sy’n cael eu dwysau gan ddefnyddio’r broses dwysau twyll ROCTA (Asesiad Rhanbarthol o Fygythiad Troseddu Trefnedig) lle bo’n berthnasol. 

Mae cynrychiolwyr o’r Tîm Troseddau Economaidd yn bresennol ac yn chwarae rhan weithredol yng nghyfarfodydd y Gr?p Cyflawni Cynhwysiant Ariannol a chyfarfodydd Cudd-wybodaeth Sirol Rhanbarthol. 

Ymgyrch Racecourse yw ymateb Heddlu Dyfed-Powys i dwyll cludwr. Mae pob dioddefydd twyll cludwr yn derbyn gwasanaeth dioddefwyr uwch, a chynhelir ymchwiliad a chwmpas cudd-wybodaeth. Ymchwilydd Twyll enwebedig yw pwynt cyswllt sengl Dyfed-Powys ar gyfer Ymgyrch Racecourse, a bwydir cudd-wybodaeth i mewn i’r darlun cenedlaethol. Mae Ymgyrch Racecourse wedi bod yn llwyddiannus o ran adnabod Grwpiau Troseddu Trefnedig sy’n gysylltiedig â thwyll cludwr. 

Maes ar gyfer Gwella 3

‘Er mwyn gwneud gwelliannau yn y maes hwn, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod twyllwyr yn cael eu cynnwys ymysg y rhai sy’n cael eu hystyried ar gyfer tactegau atal troseddu trefnedig difrifol, gan gynnwys gan fyrddau partneriaeth strategaeth lleol a thrwy brosesau rheoli troseddwyr yn integredig.’

Nid yw’r cyfle i gael Gorchymyn Atal Troseddau Difrifol yn dilyn euogfarn am dwyll bob amser yn cael ei ystyried, fodd bynnag, nid yw’r sefyllfa wedi codi hyd yn hyn, ac ar hyn o bryd, nid yw Dyfed-Powys yn dal unrhyw Orchmynion Atal Troseddau Difrifol ar gyfer twyll. Fodd bynnag, mae’r Tîm Troseddau Economaidd yn cynorthwyo’r Uned Rheoli Troseddwyr â 3 unigolyn sy’n byw yn yr ardal heddlu, sydd â gorchmynion yn eu henw yn dilyn euogfarn am dwyll mewn mannau eraill yn y DU.

Mae’r Tîm Troseddau Economaidd yn datblygu ymgysylltiad â Rhaglen Gorchymyn Atal Troseddau Difrifol INTACT, drwy’r Cydlynydd INTACT. 

Maes ar gyfer Gwella 4

‘Er mwyn gwneud gwelliannau yn y maes hwn, dylai prif gwnstabliaid gynyddu defnydd eu heddlu o orchmynion ategol yn erbyn twyllwyr.’

Mae pob achos twyll yn cael ei ystyried ar gyfer gorchmynion atafaelu Deddf Elw Troseddau fel mater o drefn, ac mae gan Heddlu Dyfed-Powys brosesau mewn grym ar gyfer sicrhau nad yw’r cyfleoedd i ddefnyddio gorchmynion ategol yn cael eu colli.

Ar hyn o bryd, mae Uned Ranbarthol Troseddu Trefnedig Tarian yn darparu cymorth o ran sicrhau Gorchymyn Rhewi Cyfrif ac adferiad sifil arian. Mae Ymchwilydd Ariannol o Dîm Troseddau Economaidd Dyfed-Powys yn cael ei achredu fel Ymchwilydd Adfer Sifil fel y bydd gan Heddlu Dyfed-Powys y gallu i ymgymryd â’i orchmynion ategol/ymchwiliadau adfer sifil ei hun. 

Maes ar gyfer Gwella 5

‘Er mwyn gwneud gwelliannau yn y maes hwn, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod eu heddlu’n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd wrth ymchwilio i dwyll.’

Mae achosion twyll yr adroddir amdanynt fel galwad am wasanaeth yn cael eu cofnodi’n unol â’r Safonau Cofnodi Troseddau Cenedlaethol. Mae’r meini prawf ar gyfer cofnodi twyll yn Nyfed-Powys fel trosedd, yn hytrach nag adrodd wrth Action Fraud, fel a ganlyn:

·                 trosedd sy’n digwydd ar y pryd;

·                 troseddwr lleol hysbys;

·                 dioddefydd sy’n agored i niwed [gan gynnwys dioddefwyr 18 oed ac iau]; neu

·                 cerbyd sydd wedi’i gofrestru ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (ceir manylion isod)

Ar yr adegau hynny, gwneir cysylltiad cychwynnol â dioddefwyr drwy’r broses a nodir uchod, ac yn dilyn hyn, cyfeirir y digwyddiad at y Rhanbarth ar gyfer ymchwiliad. Unwaith y mae digwyddiad yn cael ei gofnodi fel trosedd, cyfrifoldeb rheolwr llinell y swyddog sydd â gofal dros yr achos yw sicrhau cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr.

Ers 9 Awst 2021, mae’r Tîm Troseddau Economaidd wedi cyflogi Goruchwylydd Twyll, sy’n gyfrifol am wella ansawdd ymchwiliadau twyll ledled Heddlu Dyfed-Powys. Cyflawnir hyn drwy ddarparu cyngor ac arweiniad ymchwiliol o’r cychwyn, gan osod cynlluniau gweithredu cymesur a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr. 

Cyfrifoldeb y Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll yw cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr pan mae’n derbyn adroddiadau am dwyll. Fodd bynnag, mae’r Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll yn lledaenu rhai adroddiadau sydd angen cymorth dioddefwyr i Heddluoedd ar gyfer gwasanaeth dioddefwyr uwch. Mae’r Tîm Troseddau Economaidd yn derbyn y cyfeiriadau hyn ac yn eu bwydo i mewn i Ymgyrch Signature. 

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll hefyd yn lledaenu rhai adroddiadau i Heddluoedd ar gyfer ymchwiliadau erlid. Mae’r lledaeniadau hyn yn cael eu cofnodi fel trosedd yn Nyfed-Powys, ac mae dioddefwyr yn derbyn cymorth drwy’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr, fel y disgrifir uchod.

2. ‘Sut fydd y Comisiynydd yn parhau i fonitro cynnydd gan yr heddlu yn hyn o beth er mwyn sicrhau nad yw’n ffaelu’r dioddefwyr twyll yn y dyfodol?’

Yr wyf yn hyderus bod Dyfed-Powys fel Heddlu’n cydnabod yr heriau mawr a gyflwynir gan dwyll. Mae’n galonogol iawn bod y gwaith mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud gyda dioddefwyr sy’n agored i niwed, o ran rhoi cyngor, arweiniad a chymorth, wedi’i gydnabod ar lefel genedlaethol a’i fod wedi ennill parch gan AHEM.

Dylid nodi hefyd y soniwyd am Heddlu Dyfed-Powys yn y gynhadledd genedlaethol yn Llundain ac mewn cynhadledd ddiogelu yn Efrog a gynhaliwyd ddiwedd Medi. 

Yr wyf yn monitro cynnydd yr heddlu’n gyson yn hyn o beth, a bydd cyflwyniad diweddar (gan Heddlu Dinas Llundain fel Arweinydd Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer Twyll ac arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Troseddau Seiber ac Economaidd) Cylchlythyr Heddlu Arweiniol Cenedlaethol misol ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn rhoi gallu pellach i fy swyddfa ddal Heddlu Dyfed-Powys i gyfrif, fel yr ydym yn gwneud gyda mathau eraill o droseddau, drwy dderbyn perfformiad ein heddlu yn erbyn yr achosion twyll a gyflwynir iddynt gan Action Fraud.

Mae nifer y dioddefwyr yn ardal Dyfed-Powys wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf, ac er y gellid ystyried y ffaith bod gennym gyfradd gyfeirio uchel fesul 1000 o’r boblogaeth yn rhywbeth negyddol, yr wyf wir yn credu bod hyn yn rhywbeth cadarnhaol iawn. (gweler y ffigurau isod)

HDP yw’r unig Heddlu yn y wlad sy’n annog aelodau o’r cyhoedd yn weithredol i adrodd am dwyll wrthym yn uniongyrchol ac yna rydyn ni’n adrodd wrth Action Fraud ar eu rhan.

Mae’r arian a roddais ar gyfer Swyddog Brysbennu wedi galluogi hyn i ddigwydd. 

Nododd yr Heddlu yn Rhagfyr 2019/Ionawr 2020 bod yr adroddiadau i Action Fraud ledled y wlad yn anghywir ac nad oeddent yn adlewyrchu maint y twyll yn gywir.

Ers mis Ebrill 2020, mae pob adroddiad gan aelodau o’r cyhoedd wedi bod yn cael ei gofnodi ar STORM, a chysylltir â PHAWB sy’n cyflwyno adroddiad. Mae hyn yn cyfrif am y cynnydd sylweddol yn nifer yr adroddiadau. Mae hyn hefyd yn golygu bod ansawdd yr adroddiad sy’n cael ei anfon at Action Fraud yn well.

Ø  Nifer y dioddefwyr yn ardal Dyfed-Powys a gyflwynodd adroddiad i Action Fraud yn 2020-21 oedd 8.8 (fesul 1,000 o’r boblogaeth), sef y trydydd uchaf (safle 1 = yr uchaf fesul 1,000)

Ø  Mae hyn yn cymharu â ffigwr Pob Heddlu o 6.4 a ffigwr o 6.2 ar gyfer Cymru a’r Gr?p Mwyaf Tebyg

Ø  Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’r ffigwr a adroddwyd yn 2019-20, sef 3.9.  41 oedd safle Dyfed-Powys bryd hynny.”

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau