Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adolygiad Archwilio Cymru o'r Gwasanaeth Gwastraff a gyflwynwyd gan Mrs Alison Lewis. Diben yr archwiliad oedd adolygu a oes gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i gynllunio a darparu ei wasanaethau gwastraff yn gynaliadwy. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru o Wasanaethau Gwastraff yr Awdurdod.
Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd cynllun gweithredu drafft a oedd yn anelu at fynd i'r afael â'r 8 prif argymhellion o ganlyniad i ganfyddiadau'r archwiliad. Roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cynllun gweithredu drafft a oedd wedi'i nodi wrth baratoi i'w gyflwyno'n ffurfiol i Archwilio Cymru.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
·
O ran y pryder parhaus
ynghylch tipio anghyfreithlon, dywedwyd bod pryder ychwanegol
ynghylch tipio anghyfreithlon posibl oherwydd y newidiadau
arfaethedig i wasanaethau casglu gwastraff yn y dyfodol.
· Cyfeiriwyd at yr adran yn yr adroddiad sy'n nodi nad yw'r Cyngor yn adrodd ar nifer gwirioneddol y digwyddiadau tipio anghyfreithlon na'i berfformiad o'i gymharu â chynghorau eraill. Fodd bynnag, mynegwyd pryder bod Cynghorau yng Nghymru yn adrodd ar ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn wahanol ac felly nid oedd y ffigurau'n gyson nac yn adlewyrchiad teg o ddigwyddiadau. Awgrymwyd y dylid ychwanegu adroddiad ar gynnydd y cynllun gweithredu at Flaenraglen Waith y Pwyllgor ymhen 6 – 12 mis.
Gan fod tipio anghyfreithlon yn fater cenedlaethol, gofynnwyd a ellid safoni'r gronfa ddata genedlaethol a ddefnyddir i gasglu a chofnodi digwyddiadau? Cyfeiriwyd at Arddangosyn 5: Digwyddiadau tipio anghyfreithlon fesul Awdurdod Lleol 2019-20 yn yr adroddiad, a oedd yn dangos bod tipio anghyfreithlon yn broblem genedlaethol. Nodwyd y gellid priodoli un o'r prif resymau i'r ffaith bod Sir Gaerfyrddin yn cofnodi ei holl ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn y Sir, ond gall hyn fod yn wahanol i ddulliau cofnodi Cynghorau eraill. Yng ngoleuni hyn, dywedwyd nad yw'r wybodaeth a nodir yn y graff yn adlewyrchiad cywir o nifer y digwyddiadau tipio anghyfreithlon o'i gymharu â'r 22 Awdurdod Lleol arall yng Nghymru a chwestiynwyd dilysrwydd y data a ddarparwyd.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd drwy CLlLC, yn benodol ynghylch tipio anghyfreithlon. Esboniwyd nad oedd y mater wedi'i briodoli'n uniongyrchol i'r gronfa ddata ei hun ond ei fod wedi'i briodoli'n bennaf i anghysondeb o ran manylion sy'n cael eu cofnodi ar gyfer pob Cyngor.
·
Er y cydnabuwyd bod tipio
anghyfreithlon ar draws y Sir yn broblem sylweddol, dywedwyd ei bod
yn braf cadarnhau bod Swyddogion a gweithredwyr yn rheoli'r gwaith
o glirio gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn
effeithlon.
· Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â gweithredu'r Strategaeth Wastraff newydd, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r strategaeth wastraff newydd, os caiff ei mabwysiadu gan y Cabinet, yn cael ei roi ar waith mewn dull 2 gam. Byddai'r cam cyntaf yn gam trosiannol i gasgliadau ailgylchu wythnosol o fagiau glas (gyda chasgliadau bagiau du a gwydr bob tair wythnos) yn hydref 2022 a byddai'r ail gam yn galluogi'r gwaith o gyflwyno'r dull didoli wrth ymyl y ffordd yn llawn yng Ngwanwyn/Haf 2024.
· Er bod y cynllun gweithredu a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor i'w gymeradwyo yn mynd i'r afael ag argymhellion Archwilio Cymru ar lefel uchel iawn, mynegwyd pryder nad oedd y cynllun yn cynnwys lefel y manylder sydd ei hangen i ddeall sut y byddai'r camau'n cael eu cymryd. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai cynllun gweithredu ehangach yn sylfaen i'r cynllun gweithredu hwn ac y byddai'n cael ei fonitro drwy'r system monitro perfformiad fewnol (PIMS) a'r cynlluniau busnes adrannol.
· Mewn ymateb i bryder yngl?n â'r camau a ddangoswyd yn goch yn y cynllun gweithredu fel rhai nad oeddent wedi'u rhoi ar waith ac eraill a oedd ar y gweill (ambr), dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, mewn perthynas â dangosyddion perfformiad, mai dangosyddion cenedlaethol yn bennaf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru oedd y rhai a adroddwyd ar hyn o bryd a mesurwyd perfformiad yn unol â hynny. Byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i ddangosyddion lleol ychwanegol. O ran datblygu'r strategaeth wastraff, esboniwyd na ellid symud ymlaen â hyn yn hyderus nes bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei pharodrwydd i gefnogi'r strategaeth yn ariannol. Mae cytundeb mewn egwyddor o £14.6m o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru bellach wedi dod i law a byddai bellach yn galluogi'r strategaeth i gael ei datblygu ymhellach yn fanylach, ar ôl nodi'r egwyddorion ehangach. Hyd yma, roedd y Cyngor wedi gweithredu ei wasanaethau gwastraff heb hwylustod cymorth cyfalaf atodol ac felly heb gyllid Llywodraeth Cymru, ni fyddai gweithredu newid mor sylweddol, am gost fawr, i ddull didoli wrth ymyl y ffordd yn unol â'r dull "glasbrint" a ffefrir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn bosibl. Yn ogystal, derbyniwyd y cytundeb cyllido mewn egwyddor ar ôl i'r archwiliad gael ei gynnal felly mae amseriad a statws eitemau cynllun gweithredu'r strategaeth yn cael eu dangos fel "ar y gweill”.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
4.2.1 derbyn yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Gwastraff, Gorffennaf 2021;
4.2.2 cymeradwyo'r cynllun gweithredu drafft fel y'i nodir wrth baratoi i'w gyflwyno'n ffurfiol i Archwilio Cymru;
4.2.3 cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun gweithredu ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Dogfennau ategol: