Agenda item

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

3.1     PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40505

Cadw newid defnydd o breswylfa i gyfleuster gofal preswyl yn 7 Heol y Pwll, y Pwll, Llanelli, SA15 4BG.

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd D. Cundy wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:-

 

·       Hygrededd a chywirdeb y wybodaeth a ddarparwyd

·       Defnyddio ystafell yn yr adeilad fel swyddfa, gan gynnwys ei defnydd gan gyfarwyddwr y cwmni

·       Ymholiad ynghylch lefel y ddarpariaeth llety cysgu ar gyfer staff nos

·       Roedd nifer y llefydd parcio presennol ar y stryd wedi gostwng yn sgil nifer y cerbydau oedd eu hangen yn y datblygiad. Honnwyd bod angen 6 lle parcio ar y datblygiad, ond roedd hyd at 8-11 o lefydd yn cael eu meddiannu'n rheolaidd gan staff ac ymwelwyr â'r datblygiad, gan olygu nad oeddent ar gael i drigolion lleol eraill

·       Ymholiad a oedd angen y cartref yn ei leoliad presennol a'r pwysau ar y gwasanaethau lleol o ganlyniad i hynny 

·       Diffyg ymgynghori

·       Nid oedd cais am barcio i breswylwyr wedi'i roi.

·       Roedd parcio anghyfreithlon yn digwydd ar linellau melyn dwbl yn yr ardal

·       Roedd s?n ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r datblygiad yn effeithio ar amwynder trigolion lleol a'r modd gallent fwynhau eu gerddi cefn

·       Roedd y safle'n gweithredu fel busnes ac nid fel cartref

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd, yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd

PL/00313

Dymchwel dau fwthyn sy'n is na'r safon a chodi dau fwthyn newydd ynghyd â 3 chaban glampio ar gyfer llety gwyliau yn Sarnisel, Bronwydd, Caerfyrddin, SA33 6HT.

 

(NODER: Datganodd y Cynghorydd H.I. Jones fuddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Roedd sylw wedi dod i law a dderbyniai'r elfen o'r cais oedd yn ymwneud â'r bythynnod ond a wrthwynebai'r podiau glampio. Roedd y gwrthwynebiad yn ailadrodd y pwyntiau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac a oedd yn cynnwys:

 

·       lleoli podiau glampio mewn ardal breswyl a'u hagosrwydd at eiddo preswyl cyfagos

·       amcangyfrifwyd y gallai rhwng 20 a 25 o bobl aros yn y llety ar unrhyw un adeg a allai gael effaith andwyol ar amwynder trigolion lleol a'r modd gallent fwynhau eu gerddi cefn oherwydd s?n

·       gallai'r llety arfaethedig gael ei archebu en-bloc ar gyfer partïon plu a stag.

·       pryder am ddiffyg rheoli'r safle yn ddyddiol gan fod yr ymgeisydd yn byw y tu allan i'r Sir

·       roedd y cynnig yn golygu datblygu safle gwersylla yng nghanol ardal breswyl

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd

PL/00977

Amrywio Amod 2 (cynlluniau cymeradwy) ac Amod 3 ar gais S/40401 (ailadeiladu ysgubor a ddifrodwyd gan storm – ôl-weithredol) i ganiatáu i'r adeilad gael ei ddefnyddio ar gyfer cydosod adeiladau ffrâm bren am gyfnod o 18 mis yn Myrtle Hill, Pump-hewl, Llanelli, SA15 5AJ

 

(NODER: am 12.50 p.m. wrth ystyried yr eitem hon torrodd y pwyllgor i gael cinio ac ailddechrau am 1.45 p.m. er mwyn caniatáu amser i ddatrys anawsterau technegol)

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, a oedd yn cynnwys:

 

·       roedd y datblygiad yn gyfystyr â defnydd diwydiannol o fewn ardal amaethyddol

·       pryder am feicwyr a cherddwyr oedd yn defnyddio'r lôn o achos bod Cerbydau Nwyddau Trwm mawr yn ymweld â'r safle

·       roedd y gwaith ar y safle dros y 18 mis blaenorol yn cael effaith andwyol ar amwynder trigolion lleol a'r modd gallent fwynhau eu gerddi cefn

·       er dweud mai un gweithiwr fyddai’n cael ei gyflogi ar y safle ac mai un lori fyddai'n ymweld bob dydd, dadleuwyd y gallai hyd at 2-3 aelod o staff fod yn gweithio ar unrhyw un adeg. Roedd y fferm hefyd yn creu traffig ychwanegol ar ffurf tractorau a Cherbydau Nwyddau Trwm

·       niwsans s?n yn deillio o ddefnyddio offer diwydiannol yn barhaus fel llifau a gynnau hoelion

·       os caiff ei ganiatáu, a ellid rhoi amod ar y cais fel bod dim defnydd diwydiannol pellach yn cael ei ganiatáu ar ôl Mehefin 2022

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd

PL/00978

Cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer darparu ffordd fynediad newydd o Heol Dinbych-y-pysgod; codi gorsaf betrol newydd gydag adeilad gwerthu; cwrt blaen gan gynnwys darpariaeth tanwydd ar gyfer cerbydau domestig a HGV a thanciau tanwydd tanddaearol; tri jet wash a chyfleusterau gofal car; hwb gwefru cerbydau trydan a seilwaith ategol; parcio ceir a pharcio beiciau; tirweddu gan gynnwys llecyn bach i eistedd tu allan a gwaith cysylltiedig arall.Tir yng Nghylchfan Sanclêr, Sanclêr, Caerfyrddin, SA33 4JW

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol a fynegai bryder am y cais ac a ailadroddai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau isod. Ni chaniatawyd cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle:-

 

·       Pryder y gallai cerbydau sy'n gadael y datblygiad arfaethedig deithio drwy Sanclêr yn hytrach na mynd i gylchfan yr A40

·       Pryder am ddiffyg palmentydd ar hyd Heol Dinbych-y-pysgod

·       Gallai'r caniatâd a roddwyd yn ddiweddar ar gyfer bwyty McDonalds a Greggs gerllaw gael effaith andwyol ar lefelau traffig wrth gylchfan yr A40

·       Pryder am lefelau traffig

·       Gallai'r datblygiad arfaethedig effeithio ar hyfywedd economaidd yr orsaf betrol bresennol

·       Pryder am y datblygiadau a allai effeithio o bosibl ar drigolion Heol Dinbych-y-pysgod o ran llygredd s?n, golau ac aer

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd

PL/02057

Amrywio Amod 4 o gais E/26447 (er mwyn caniatáu ymestyn oes y tyrbin gwynt presennol) ar gae i'r de-orllewin o Depo Tanwydd Blaenau, Ffordd Pantyblodau, Blaenau, Rhydaman, SA18 3BX

 

(NODER: Roedd Mr. I. Llewellyn wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac a oedd yn cynnwys

 

·       Roedd un o amodau'r caniatâd cynllunio a roddwyd yn 2016 yn ei gwneud yn ofynnol  i gymryd camau fel bo llafnau'r tyrbin ddim yn bwrw cysgodion i'r fath raddau. Nid oedd y camau hynny wedi'u rhoi ar waith hyd yn hyn

·       Roedd gan y tyrbin oes o 25 mlynedd, ac roedd y cais yn ceisio cynyddu ei weithrediad am 15 mlynedd arall hyd at 2055 ac roedd trigolion lleol yn cwestiynu'r angen am yr estyniad

·       Ni fyddai'r estyniad arfaethedig i amser o fudd i'r gymuned leol

·       Mynegwyd pryder ynghylch lleoliad hysbysiadau safle gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i roi gwybod am y datblygiad

·       Nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi dod i law o ran honiad y cwmni bod llythyrau wedi cael eu hanfon at drigolion lleol. Dadleuwyd nad oedd y trigolion roedd y tyrbin yn effeithio fwyaf arnynt wedi cael y llythyrau hynny.

·       Nid oedd yr ymgeisydd wedi talu sylw i gamau gorfodi blaenorol

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PL/02142

Amrywio Amod Rhif 3 o gais S/33461 ar dir gerllaw 12 Heol Penllwynrhodyn, Llanelli, SA14 9NL

PL/02307

Ailddatblygu Oriel Myrddin i gynnwys estyniad i mewn i 26/27 Heol y Brenin i ffurfio siop newydd, caffi, man cymdeithasol, swyddfeydd a man ategol a 'hwb celf' yn  Oriel Myrddin, Lôn y Llan, Caerfyrddin, SA31 1LH

 

(NODER:

1.     Roedd y Cynghorydd C. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried;

Rhoddir caniatâd yn amodol ar gymeradwyaeth CADW)

PL/02317

Ailddatblygu Oriel Myrddin i gynnwys estyniad i mewn i 26/27 Heol y Brenin i ffurfio siop newydd, caffi, man cymdeithasol, swyddfeydd a man ategol a 'hwb celf' yn Oriel Myrddin, Lôn y Llan, Caerfyrddin, SA31 1LH

 

(NODER:

1.      Roedd y Cynghorydd C. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried;

Rhoddir caniatâd yn amodol ar gymeradwyaeth CADW.)

PL/02390

Creu un llain ychwanegol i deuluoedd sy'n deithwyr gydag un uned sefydlog breswyl, carafán deithiol, ystafell amlbwrpas/dydd (cyfeillgar i'r anabl) gan ddefnyddio mynediad amaethyddol cymeradwy (S/33780) yn y Garafán, Stablau Melden, Pen-bre, Llanelli, Porth Tywyn, SA16 0JS

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, a oedd yn cynnwys:

 

·       Roedd caniatâd cynllunio a roddwyd yn 2016 ar gyfer un garafán yn nodi na ddylid gwneud unrhyw weithgarwch masnachol, ond roedd lori 3.5 tunnell ar y safle

·       Roedd craidd caled wedi'i osod ar y safle

·       Roedd Cerbydau Nwyddau Trwm a metel sgrap ar y safle

·       Barnwyd bod y cais yn ôl-weithredol

·       Er bod Hysbysiad Stop wedi'i gyflwyno, roedd gweithgareddau anawdurdodedig wedi parhau ar y safle

·       Roedd y garafán sefydlog ychwanegol eisoes wedi'i symud i'r safle ac nid oedd wedi'i gosod yn unol â'r cynlluniau a gyflwynwyd

·       Roedd lefelau s?n o'r gwaith ar y safle ac o'r Cerbydau Nwyddau Trwm yn cael effaith andwyol ar amwynder trigolion lleol a'u hawl i fywyd tawel

·       Golwg wael ar y safle

·       Bydd lleoli carafán ychwanegol yn arwain at fwy o draffig

·       Nid oedd gan y Pennaeth Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad ond dywedodd y dylid osgoi datblygu pellach ar y safle

·       Roedd y safle wedi'i leoli y tu allan i derfynau datblygu diffiniedig ac o fewn ardal tirwedd arbennig

·       Roedd y safle'n weladwy o'r briffordd gyfagos.

·       Pe bai caniatâd cynllunio'n cael ei roi, roedd trigolion yn gofyn am i'r holl weithgarwch masnachol ar y safle ddod i ben; bod y craidd caled yn cael ei waredu a'r safle'n cael ei adfer yn dir amaethyddol; dylid lleoli'r breswylfa'n unol â'r cynlluniau a gyflwynwyd a bodloni'r holl amodau cynllunio yn llawn

·       Roedd y safle presennol yn destun camau gorfodi ac roedd pryder y byddai amodau cynllunio'n parhau i gael eu diystyru

·       Barnwyd byddai'r datblygiad yn niweidiol i amwynder trigolion lleol

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd

PL/02500

Ysgeintiwr t?'r pwmp ar dir i'r gogledd o Glwb Rygbi T?-croes, Heol Pen-y-garn, T?-croes, Rhydaman, SA18 3NY

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol ar ran y trigolion lleol a oedd yn ailadrodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:

·       Roedd y cais yn ôl-weithredol

·       Nid oedd dyluniad yr adeilad yn cyd-fynd â'r ardal

·       Aflonyddwch s?n posibl

·       Dylai'r adeilad fod wedi'i leoli mewn lleoliad arall o fewn y datblygiad

·       Agosrwydd at eiddo cyfagos

·       Roedd trigolion wedi gofyn i'r pwyllgor gynnal ymweliad safle i asesu effaith yr adeilad ar breswylwyr

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd

 

3.2     3.2 PENDERFYNWYD gohirio'r cais canlynol er mwyn galluogi'r Pennaeth Cynllunio i asesu gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd:-

 

PL/00895

Rural enterprise dwelling with associated agricultural shed at land at Derwen Fawr, Crugybar, Llandeilo

 

3.3    PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio sef cymeradwyo, a'i gwneud yn ofynnol i'r cynigydd a'r eilydd oedd am wrthod y cais ddarparu rhesymau cynllunio perthnasol dros wrthod y cais i'r Pennaeth Cynllunio o fewn wythnos

 

PL/00489

Datblygiad Un Blaned sef un breswylfa unllawr â ffrâm bren ac adeiladau atodol yn ogystal ag ardaloedd garddwriaethol, planhigfa Helyg, gerddi coedwig a dôl blodau gwyllt ar dir rhwng Caegroes a Chwmwern, Pen-y-banc, Llandeilo.

 

Wrth ystyried y cais, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch ymarferoldeb y cais o ran prinder erwau i gynnal teulu o dri a hefyd yr angen i fyw ar y safle fel rhan o  Ddatblygiad Un Blaned. Gwnaed sylwadau hefyd mewn perthynas â darpariaethau polisïau 4.15- 4.23 o Nodyn Cyngor Technegol 6 a gallu'r ymgeisydd i gydymffurfio â phwyntiau 3.18 a 3.21 o'r cynllun rheoli. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y trefniadau ar gyfer monitro'r cynllun rheoli

 

 

Dogfennau ategol: