Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn rhagweld gorwariant o £492K o ran y gyllideb refeniw ac amrywiant net o £97K yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2021/22.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
Atodiad A
· Mynegwyd pryder ynghylch y gorwariant sylweddol a ragwelwyd, er bod rhannau helaeth o'r gwasanaeth heb eu darparu oherwydd Covid. Gofynnwyd hefyd a fyddai unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru nad oedd wedi'i gynnwys yn y ffigurau.
Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod arian grant wedi dod i law o fewn yr wythnosau diwethaf, a hefyd rhywfaint o gyllid adfer Gofal Cymdeithasol. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y ffordd orau o wario'r cyllid ond byddai'n cael ei fuddsoddi mewn darparu gwasanaethau ac ymyriadau.
Atodiad B
· Mewn perthynas ag Anabledd Dysgu – Gwasanaeth Dydd Preifat, gofynnwyd beth oedd y gwasanaeth 'amgen' a ddarparwyd.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor ei fod yn gyfuniad o rai gwasanaethau'n dod yn ôl yn fewnol a chymorth un i un yn cael ei ddarparu gartref pan fo hynny'n briodol.
· Mynegwyd pryder ynghylch oedi cyn ailagor y canolfannau dydd.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod trafodaethau yngl?n â'r cynlluniau i ailagor y gwasanaeth ar waith ers tro a bod yr Awdurdod yn glir iawn y byddai'r gwasanaeth yn cael ei ailagor. Roedd tri maes allweddol wedi bod yn cael eu hasesu - llunio asesiadau risg, trafnidiaeth a staffio er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chanllawiau'r Llywodraeth. I ddechrau, byddai'r ailagor yn digwydd ar raddfa lai i sicrhau bod y staff a'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel.
· Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am Gwm Aur a chyflawni arbedion yn rhannol. Dywedwyd bod costau heb gynyddu a bod arbedion posibl wedi'u nodi adeg llunio'r contract ond nad oeddent wedi'u cyflawni. Dywedwyd wrth y pwyllgor y byddai disgrifiad llawnach yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad nesaf.
· Gofynnwyd pam roedd taliadau uniongyrchol ar gyfer iechyd meddwl ac anabledd corfforol wedi cynyddu pan oedd taliadau uniongyrchol i bobl h?n wedi gostwng.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod rhai heriau'n perthyn i reoli taliadau uniongyrchol. Yn gyffredinol, roedd gan bobl h?n lai o allu i reoli taliadau uniongyrchol ac roedd cael y Cyngor i gomisiynu ar eu rhan yn gwaredu'r straen. Ar y cyfan, roedd pobl iau am reoli eu gwasanaethau eu hunain ac yn aml roeddent yn cael eu cefnogi gan y teulu.
Atodiad E
· Gofynnwyd am eglurder pellach yngl?n â'r gyllideb Gyfalaf y nodwyd ei bod yn aros am ddyfarniadau 2022/23 a pha flwyddyn ariannol y byddai'r dyfarniadau'n cael eu derbyn.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai ymateb yn cael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod.
Atodiad F
· Gofynnwyd pa mor hyderus oedd swyddogion y byddai arbedion yn cael eu gwneud.
Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p ei bod yn rhesymol i dybio y byddai'r arbedion yn cael eu gwneud gan eu bod wedi'u hen sefydlu ac wedi'u cyflawni mewn blynyddoedd blaenorol.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn
Dogfennau ategol: