Agenda item

STRATEGAETH WASTRAFF I'R DYFODOL

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar Strategaeth Wastraff i'r Dyfodol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y strategaeth, camau gweithredu ac ystyriaethau arfaethedig i'r dyfodol ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff, er mwyn cyrraedd targed ailgylchu o 70% erbyn 2024/25 a darparu sylfaen ar gyfer gwelliannau i sicrhau dim gwastraff erbyn 2050.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at yr adran Cymharu Gwasanaethau a Pherfformiad yn yr adroddiad. Mewn perthynas â'r tabl a oedd yn disgrifio'r perfformiad yn erbyn dull casglu'r 22 Awdurdod yng Nghymru yn 2019/20, gwelwyd ei bod yn ymddangos nad oedd  cyfradd ganrannol y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar gyfartaledd ar draws yr Awdurdodau yn dangos fawr o wahaniaeth er bod rhai eisoes wedi mabwysiadu dull y Glasbrint. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd y bvddai Llywodraeth Cymru ond yn darparu'r cyllid angenrheidiol pe bai'r Awdurdod yn mabwysiadu dull y Glasbrint.

Yn ogystal, eglurwyd i'r Aelodau y byddai'r fethodoleg hon yn hwyluso deunyddiau glanach gan leihau halogi sy'n galluogi ailgylchu hwylus yn y DU. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff mai'r anawsterau mewn perthynas â'r tabl cymharu oedd na nodwyd y waelodlin lle dechreuodd Awdurdodau Lleol cyn mabwysiadu dull y Glasbrint.

 

Yn ogystal, hysbyswyd yr Aelodau fod dull y Glasbrint yn y bôn yn croesawu economi gylchol, gan alluogi gwell defnydd o ddeunyddiau sy'n bodoli eisoes a mabwysiadu deunyddiau o ansawdd gwell sy'n cefnogi cyfansoddiad yr economi gylchol.

 

·       Er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoi gwybod i ddeiliaid tai am ba ddeunydd i'w osod ym mha fag a hyrwyddo ailgylchu, awgrymwyd y dylid dosbarthu taflen ochr yn ochr â'r dosbarthiadau blynyddol. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, mewn perthynas â chasgliadau bagiau du a bagiau ailgylchu glas, y byddai llythyrau addysgol yn cael eu dosbarthu i aelwydydd lle nodwyd bod problem. Byddai hyn yn cael ei ategu gan ymweliad os oes angen.

 

·       Gofynnwyd, pe bai dull y Glasbrint yn cael ei fabwysiadu, a fyddai'r canolfannau ailgylchu gwydr yn aros yn eu lle gan eu bod yn wasanaeth hanfodol i bob cymuned?  Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai'r rhwydwaith presennol o Safleoedd Casglu Gwydr yn cael ei leihau a byddai hyn yn cael ei ystyried ar y sail y byddai'r safle a ddefnyddir fwyaf yn cael ei gadw. Fodd bynnag, ni fyddai'r broses hon ar waith nes bod y casgliadau gwydr wythnosol o d? i d? ar waith ledled y Sir yn 2024.

 

·       Mynegwyd pryder yn adleisio'r pryderon a godwyd yn y Dadansoddiad Thematig o'r gwaith Ymgysylltu ynghylch Casgliadau Gwastraff a atodir i'r adroddiad ynghylch casglu 3 bag du bob tair wythnos a'r posibilrwydd y byddai'r cynnig yn cynyddu'r tebygolrwydd o fermin, arogleuon a thipio anghyfreithlon mewn cymunedau. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd at adran yn yr adroddiad, a nododd fod Cyngor Sir Caerfyrddin, yn 2017, wedi comisiynu arolwg dadansoddi gwastraff i nodi'r elfennau y gellir eu hailgylchu o wastraff gweddilliol a waredwyd drwy'r casgliadau gwastraff gweddilliol o d? i d?. Roedd canlyniadau'r astudiaeth hon a gyflwynwyd yn y tabl yn dangos bod 46.1% o gynnwys bagiau gwastraff gweddilliol (bag du) yn cynnwys deunydd ailgylchadwy, gwastraff bwyd a gwastraff gardd.  Dywedwyd pe bai deiliaid tai yn cynyddu deunyddiau ailgylchu y cartref, y byddai'r casgliad bob 3 wythnos o 3 bag du yn ddigonol.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai'r Cyngor, erbyn mis Ionawr 2022, yn cyflwyno gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol estynedig i aelwydydd sy'n tanysgrifio i'r gwasanaeth, gan gynnwys casglu cewynnau plant. Yn ogystal, byddai eithriadau ar gyfer aelwydydd mawr o fwy na 6 o bobl yn cael eu cadw.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad yn cael sylw wrth ddylunio'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch y cynnydd posibl mewn tipio anghyfreithlon o ganlyniad i leihau'r casgliadau bagiau du i gasgliad bob 3 wythnos, ailadroddodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ei hymateb cynharach ynghylch y ganran uchel o ddeunydd ailgylchadwy sy'n cael ei roi mewn bagiau du a phwysleisiodd pe bai deiliaid tai yn gwneud mwy o ddefnydd o'r cyfleusterau ailgylchu sydd ar gael, nid yn unig y byddai tipio anghyfreithlon yn ddiangen, byddai'n anghyfrifol a byddai camau gorfodi yn cael eu cymryd lle bo angen.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol wrth yr Aelodau y byddai rhaglen ymgysylltu yn cael ei chynnal cyn gwneud unrhyw newidiadau i drefn y gwasanaethau gwastraff a byddai Swyddogion ar gael i ddarparu cymorth ac arweiniad.

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch cynnyrch mislif menywod a'r ffaith ei bod yn afiach gadael y cynhyrchion hyn mewn bagiau du am hyd at 3 wythnos cyn eu casglu. Gofynnwyd, a ellid ychwanegu'r cynhyrchion hyn at y gwasanaeth casglu presennol ar gyfer cynhyrchion anymataliaeth. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, er na fyddai'r darparwr triniaeth yn derbyn cynnyrch mislif, fod hwn yn faes a fyddai'n cael ei ystyried wrth lunio'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

·       Mewn ymateb i bryderon pellach ynghylch materion yn ymwneud â thipio anghyfreithlon, atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yr Aelodau fod tipio anghyfreithlon yn weithred droseddol ac y byddai camau gorfodi'n cael eu cymryd lle y bo'n bosibl yn amodol ar y dystiolaeth sydd ar gael.

 

Roedd Aelodau'r Pwyllgor am ddiolch i swyddogion am eu gwaith prydlon wrth ymateb i faterion yn ymwneud â thipio anghyfreithlon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET FOD YR ARGYMHELLION CANLYNOL YN CAEL EU CYMERADWYO:

 

7.1 cyfeiriad a bennwyd ar gyfer y gwasanaeth, sef ateb dros dro ac yna newid mwy hirdymor i'r gwasanaeth.  Gan gynnwys y cynigion interim canlynol:

 

a.    symud i gasgliadau ailgylchu wythnosol.

b.    newid i gasgliadau gwastraff gweddilliol bob tair wythnos.

c.    casglu gwydr ar wahân wrth ymyl y ffordd (bob 3 wythnos am y tro).

 

7.2    dechrau prynu'r cerbydau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer yr ateb dros dro;

 

7.3    datblygu'r rhaglen o newid mwy hirdymor i'r gwasanaeth er mwyn symud yn 2024:

 

a.    i gasgliadau ailgylchu sy'n cydymffurfio â "Glasbrint" Llywodraeth Cymru

b.    ailgylchu gwydr wythnosol fel rhan o ddull casglu didoli wrth ymyl y ffordd.

c.     casglu deunydd ychwanegol – tecstilau, Offer Domestig Bach a batris.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau