Agenda item

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2019/21 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Blynyddol 2019/21 ar Gynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Arweinydd, gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2005. Roedd Deddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar ei CDLl ar ôl ei fabwysiadu a chadw golwg ar yr holl faterion y disgwylid iddynt effeithio ar ddatblygiad ei ardal ac ymgorffori gwybodaeth am y materion hynny i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r cynllun. Roedd yr adroddiad presennol yn cwmpasu cyfnod estynedig o ddwy flynedd gan adlewyrchu effaith Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig a oedd wedi effeithio ar gofnodi data, argaeledd data ac adrodd ar ddata.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'r Adroddiad yn cael ei ddatblygu wrth i ragor o dystiolaeth a data ddod ar gael, cyn ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at yr effaith yr oedd rheoliadau cyfredol CNC ar effaith ffosffadau ar ansawdd d?r ynghyd â Pharthau Perygl Nitradau (NVZ) yn ei chael ar ddatblygu/adfywio, nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ledled Cymru. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau, os o gwbl, a oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'u heffaith niweidiol ar y diwydiant adeiladu o ganlyniad.

 

Sicrhawyd y Pwyllgor bod trafodaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru ar y materion hyn rhwng awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, D?r Cymru a phartïon eraill â diddordeb i geisio dod o hyd i ateb i'r anawsterau. Mae trefniadau amodol wedi'u gwneud i gynnal cyfarfod rhanddeiliaid i drafod y mater ffosffadau ar 21 Hydref 2021, a byddai'r Cyngor yn cael gwybod maes o law am unrhyw ganlyniad a allai gael ei gyflawni. Roedd y Cyngor hefyd yn cymryd rôl weithredol wrth nodi ffyrdd o symud ymlaen a chael atebion i'r mater ffosffadau, a oedd yn cynnwys datblygu cyfrifiannell ffosffadau a chanllawiau ar liniaru. Ystyriwyd bod datrysiad cynnar i'r ddau fater yn fater brys oherwydd eu heffaith ar y CDLl, penderfynu ar geisiadau cynllunio ac adfywio o fewn y Sir.

·       Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth yn y CDLl ar gyfer safleoedd swyddogol ychwanegol i sipsiwn a theithwyr yn y Sir ac at ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer safleoedd teithwyr ar raddfa fach yng nghefn gwlad. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol o ran darparu safle swyddogol arall i deithwyr yn y Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod dau safle wedi'u nodi yn ardal Llanelli yn y CDLl Diwygiedig cyfunol fel ymateb i'r angen a amlygwyd yn yr Asesiad Sipsiwn a Theithwyr a gynhaliwyd gan Is-adran Dai'r Cyngor. Roedd hynny'n adlewyrchu'r ardal lle'r oedd angen darpariaeth ychwanegol a nifer y lleiniau y gallai fod eu hangen, ac adlewyrchwyd hynny yn y CDLl. Roedd yr asesiad hwnnw wedi'i ddiwygio ac ar y pryd roedd gyda Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo/asesu.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel at y ddarpariaeth ar raddfa fach o leiniau teithwyr a dywedodd, pe bai eu niferoedd yn cynyddu, y byddai hyn yn effeithio ar yr asesiad presennol o lefel yr angen yn y dyfodol. Cadarnhaodd ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor ddarparu safleoedd sipsiwn a theithwyr ac roedd yn asesu gofynion y safle yn y dyfodol. Fodd bynnag, gan fod yr angen a nodwyd am ddarparu lleiniau ychwanegol wedi'i leoli yn ardal Llanelli, roedd y Cyngor wedi'i rwymo'n gyfreithiol i nodi safleoedd yn yr ardal honno.

·       Cyfeiriwyd at yr effaith yr oedd Brexit a Covid yn ei chael ar gost gynyddol deunyddiau adeiladu ar gyfer y diwydiant adeiladu ac at ba ystyriaeth, os o gwbl, a roddwyd i'r effaith bosibl y gallai'r codiadau hynny ei chael ar lefel y ddarpariaeth tai fforddiadwy.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, er bod costau deunyddiau yn ffactor pwysig, fod yr adran fel rhan o'r broses gynllunio yn asesu hyfywedd ceisiadau cynllunio a bod gwybodaeth am gostau datblygu yn cael ei hystyried o ran lefel y tai fforddiadwy y gellid eu darparu o unrhyw ddatblygiad. Wrth i'r costau hynny gynyddu, byddai'r adran yn craffu ar unrhyw gais a gafwyd gan ddatblygwyr am ostyngiad yn lefel y ddarpariaeth a byddai angen tystiolaeth i gefnogi unrhyw ostyngiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2021

Dogfennau ategol: