Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - ANGHARAD HOUSE, 86 & 88A QUEEN VICTORIA ROAD, LLANELLI, SIR GAR, SA15 2TH

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais gan STAYBC Ltd am drwydded safle ar gyfer Angharad House, 86 ac 88a Heol y Frenhines Victoria, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2TH fel a ganlyn:-

 

Cais i Ganiatáu:

·       Cyflenwi Alcohol, dydd Llun i ddydd Sul 00:00-23:59 i Breswylwyr. Dydd Llun i ddydd Sul 09:00-23:00 ar gyfer pobl nad ydynt yn breswylwyr.

 

·       Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 00:00 a 23:59. Preswylwyr yn unig ar ôl 23:00.

 

·       Oriau Agor dydd Llun i ddydd Sul 00:00-23:59.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol

Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

AtodiadC - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd nad oedd unrhyw g?ynion wedi dod i law mewn perthynas â safle'r cais.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd pe bai'r Is-bwyllgor yn bwriadu caniatáu'r cais, ei bod yn briodol i'r amodau hynny gael eu hatodi i'r drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cafwyd sylwadau gan y Cynghorydd Sir ward leol A. McPherson a Mrs. C. Waldron, preswylydd lleol. Ailadroddodd y Cynghorydd McPherson y pwyntiau a godwyd yn ei sylwadau, fel y nodir yn Atodiad E i'r adroddiad, a gofynnodd Mrs. Waldron a fyddai'r ymgeisydd yn ystyried peidio â chaniatáu yfed alcohol y tu allan i'r safle, dim ond caniatáu cyflenwi alcohol i bobl nad ydynt yn breswylwyr rhwng 11am ac 11pm o ddydd Llun i ddydd Sul a sicrhau bod cwsmeriaid yn defnyddio'r maes parcio cefn wrth gyrraedd neu adael y safle

 

Rhoddwyd cyfle i bob parti holi'r Cynghorydd McPherson a Mrs. Waldron am eu sylwadau.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd nad oedd ganddo wrthwynebiad i'r sylwadau lleol a wnaed.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron yr Is-bwyllgor, roi'r cais am drwydded safle ar gyfer Angharad House, yn amodol ar amodau'r drwydded y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol a'r newidiadau dilynol canlynol y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod gan yr ymgeisydd:

  1. Amod 8 yr Heddlu – i'w ddiwygio i ddarllen 'Ni chaniateir yfed alcohol ar ôl mewn unrhyw fannau allanol sydd y tu mewn i ffiniau'r safle.’;
  2. Dim ond rhwng 11am ac 11pm o ddydd Llun i ddydd Sul y caniateir cyflenwi alcohol i bobl nad ydynt yn breswylwyr;
  3. Rhaid i ddeiliad trwydded y Safle, drwy ddefnyddio arwyddion priodol a darparu gwybodaeth, ofyn i bob cwsmer ddefnyddio'r maes parcio cefn wrth gyrraedd neu adael y safle.

 

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Yn flaenorol, roedd gan Angharad House Drwyddedau Safle a roddwyd yn 2005 (trwydded cyfiawnder wedi'i haddasu) a 2010. Cafodd y ddwy drwydded eu hildio yn 2017.
  2. Nid oedd unrhyw hanes o erlyniadau na gweithgarwch gorfodi gan yr awdurdod trwyddedu yn y safle
  3. Nid oedd cofnod o unrhyw g?ynion blaenorol i'r awdurdod trwyddedu am y safle
  4. Nid oedd yr awdurdod Trwyddedu wedi derbyn unrhyw atgyfeiriadau am y safle gan awdurdodau cyfrifol eraill
  5. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o unrhyw drosedd nac anhrefn yn y safle neu'n gysylltiedig â'r safle
  6. Nid oedd yr Heddlu'n gwrthwynebu'r cais ond yn gofyn am amodau trwydded ychwanegol – roedd yr ymgeiswyr wedi derbyn yr amodau hynny.
  7. Nid oedd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd unrhyw gofnod o unrhyw bryderon na chwynion am niwsans cyhoeddus na diogelwch y cyhoedd yn y safle
  8. Nid oedd gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus yn gwrthwynebu'r cais ond yn hytrach yn gofyn am amodau trwydded ychwanegol – roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar yr amodau hyn.
  9. Roedd yr ymgeisydd, yn ystod y gwrandawiad, wedi cytuno ar y 3 amod trwydded ychwanegol y cyfeirir atynt uchod er mwyn mynd i'r afael â phryderon preswylwyr lleol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol ac yn benodol nododd nad oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu'r cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Roedd y sylwadau gan y Cynghorydd McPherson yn seiliedig i raddau helaeth ar statws cynllunio Angharad House.

 

Roedd paragraff 14.62 o'r canllawiau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trwyddedu sicrhau bod cyfundrefnau cynllunio a thrwyddedu wedi'u 'gwahanu'n briodol' ac yn cadarnhau nad oedd pwyllgorau Trwyddedu wedi'u rhwymo gan benderfyniadau cynllunio.

 

Roedd paragraff 13.5 o ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor yn dilyn y canllawiau hyn ac yn nodi nad oedd yn ofynnol i safle fod â chaniatâd cynllunio angenrheidiol er mwyn rhoi trwydded safle.

 

Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd unrhyw dystiolaeth wirioneddol wedi'i rhoi gerbron yr Is-bwyllgor i ddangos y byddai caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol yn tanseilio unrhyw un o'r amcanion trwyddedu. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth bod gweithrediad blaenorol y safle, pan oedd wedi'i drwyddedu cyn 2017, yn tanseilio unrhyw un o'r amcanion Trwyddedu ychwaith.

 

Roedd yr Is-bwyllgor felly'n fodlon ei bod yn briodol rhoi'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded ychwanegol y cytunwyd arnynt a bod yr amodau hynny'n gymesur â hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Fodd bynnag, atgoffwyd yr ymgeisydd bod materion yn ymwneud â chyfraith gynllunio yn faterion ar wahân ac nad oedd rhoi'r drwydded safle yn dileu'r angen i sicrhau bod caniatâd cynllunio priodol ar waith ac y cydymffurfiwyd ag ef. Mae'r Is-bwyllgor yn gofyn i swyddogion Trwyddedu hysbysu'r adran Gynllunio o'i benderfyniad i roi'r drwydded Safle, fel y gallai swyddogion Cynllunio fodloni eu hunain bod gweithrediad y safle yn bodloni gofynion cynllunio ac, os na wnaeth hynny, cymryd camau gorfodi priodol.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau