Mae'r Cyngor yn nodi bod amrywiolyn Delta o SARS-CoV-2 yn heintio plant a phobl ifanc ar gyfradd ddigynsail, ac eto mae ysgolion yng Nghymru wedi ailagor heb roi unrhyw ddulliau adferol ar waith i amddiffyn disgyblion a staff.
Gan ei fod yn feirws sy'n cael ei drosglwyddo yn yr aer, mae awyru ac aer glân yn allweddol yn y frwydr yn erbyn SARS-CoV-2, fel y cydnabyddir yn y Joint Union Guide to Improving Ventilation in Schools and Colleges (Medi 2021) a strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu offer monitro CO2. Fodd bynnag, nid yw offer monitro yn ateb y broblem o ran awyru gwael: yn syml maent yn nodi bod problem ac y dylid cymryd camau adferol.
Mae'r cyngor hwn yn nodi bod y dechnoleg osôn a gynigir gan Lywodraeth Cymru, y dyrannwyd £3.3m o gyllid ar ei gyfer, wedi cael ei gohirio yn dilyn pryderon am ddiogelwch gan arbenigwyr meddygol. Nodwn hefyd gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mai'r offer mwyaf addas i'w ddefnyddio mewn ystafelloedd ag awyru gwael yw:
· Hidlyddion Aer Gronynnol Effeithlon Iawn (HEPA) sy'n 99.97% effeithlon o ran dal gronynnau feirysol a gynhyrchir gan bobl sy'n gysylltiedig â SARS-CoV-2 (Centres for Disease Control and Prevention; Ventilation in Buildings; diweddarwyd 2 Mehefin 2021.) a:
· Dyfeisiau uwchfioled
Felly, mae'r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar frys gymeradwyo, tendro ac ariannu unedau UV-C a/neu unedau HEPA, fel yr argymhellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a sydd wedi'u dilysu fel rhai priodol a diogel i'w defnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd, y Lancet ac awdurdodau meddygol a chyhoeddiadau blaenllaw eraill.
Cofnodion:
Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Glynog Davies:-
‘’Mae'r Cyngor yn nodi bod amrywiolyn Delta o SARS-CoV-2 yn heintio plant a phobl ifanc ar gyfradd ddigynsail, ac eto mae ysgolion yng Nghymru wedi ailagor heb roi unrhyw ddulliau adferol ar waith i amddiffyn disgyblion a staff.
Gan ei fod yn feirws sy'n cael ei drosglwyddo yn yr aer, mae awyru ac aer glân yn allweddol yn y frwydr yn erbyn SARS-CoV-2, fel y cydnabyddir yn y Joint Union Guide to Improving Ventilation in Schools and Colleges (Medi 2021) a strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu offer monitro CO2. Fodd bynnag, nid yw offer monitro yn ateb y broblem o ran awyru gwael: yn syml maent yn nodi bod problem ac y dylid cymryd camau adferol.
Mae'r cyngor hwn yn nodi bod y dechnoleg osôn a gynigir gan Lywodraeth Cymru, y dyrannwyd £3.3m o gyllid ar ei gyfer, wedi cael ei gohirio yn dilyn pryderon am ddiogelwch gan arbenigwyr meddygol. Nodwn hefyd gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mai'r offer mwyaf addas i'w ddefnyddio mewn ystafelloedd ag awyru gwael yw:
· Hidlenni Aer Gronynnol Effeithlon Iawn (HEPA) sy'n 99.97% effeithlon o ran dal gronynnau feirysol a gynhyrchir gan bobl sy'n gysylltiedig â SARS-CoV-2 (Centresfor Disease Control and Prevention; Ventilation in Buildings; diweddarwyd 2 Mehefin 2021.) a:
· Dyfeisiau uwchfioled
Felly, mae'r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar frys gymeradwyo, tendro ac ariannu unedau UV-C a/neu unedau HEPA, fel yr argymhellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a sydd wedi'u dilysu fel rhai priodol a diogel i'w defnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd, y Lancet ac awdurdodau meddygol a chyhoeddiadau blaenllaw eraill’’
Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd R. James a chafodd ei eilio:
Mae'r Cyngor yn nodi bod amrywiolyn Delta o SARS-CoV-2 yn heintio plant a phobl ifanc ar gyfradd ddigynsail.
Gan ei fod yn feirws sy'n cael ei drosglwyddo yn yr aer, mae awyru ac aer glân yn allweddol yn y frwydr yn erbyn SARS-CoV-2, fel y cydnabyddir yn y Joint Union Guide to Improving Ventilation in Schools and Colleges (Medi 2021) a strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu offer monitro CO2. Fodd bynnag, nid yw offer monitro yn ateb y broblem o ran awyru gwael: yn syml maent yn nodi bod problem ac y dylid cymryd camau adferol.
Mae'r Cyngor hwn yn nodi y bydd Gr?p Ymgynghorol Technegol Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried canlyniadau treialon cynnar y peiriannau hyn ac yn rhoi cyngor pellach ar eu defnydd mewn lleoliadau addysg cyn i unrhyw broses gaffael ddechrau. Nodwn hefyd gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mai'r offer mwyaf addas i'w ddefnyddio mewn ystafelloedd ag awyru gwael yw:
· Hidlenni Aer Gronynnol Effeithlon Iawn (HEPA) sy'n 99.97% effeithlon o ran dal gronynnau feirysol a gynhyrchir gan bobl sy'n gysylltiedig â SARS-CoV-2 (Centresfor Disease Control and Prevention; Ventilation in Buildings; diweddarwyd 2 Mehefin 2021.) a:
· Dyfeisiau uwchfioled.
Felly, mae'r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar frys asesu'r posibilrwydd o ddefnyddio unedau UV-C a/neu unedau HEPA, fel yr argymhellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a sydd wedi'u dilysu fel rhai priodol a diogel i'w defnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd, y Lancet ac awdurdodau meddygol a chyhoeddiadau blaenllaw eraill, gan nodi bod angen gwneud gwaith i ddiogelu ein stoc helaeth o ysgolion a diogelu ysgolion sydd eisoes dan bwysau rhag pwysau ariannol nad oedd modd ei ragweld. ”
Rhoddwyd cyfle i Gynigydd ac Eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.
Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r Cynnig a'r Gwelliant.
Yn dilyn pleidlais
PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i’r Cynnig.
Fe aeth Y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig gwreiddiol a fe
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Rhybudd o Gynnig a'i gyfeirio i'r Cabinet.
Dogfennau ategol: