Agenda item

ADOLYGU'R POLISIAU SY'N YMWNEUD A CHERBYDAU HACNAI, CERBYDAU PREIFAT, GYRWYR A GWEITHREDWYR.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â dwy ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n effeithio ar drwyddedu Cerbydau Hacnai a Hurio Preifat. 

 

Mae polisïau ac amodau Sir Gaerfyrddin sy'n ymwneud â Cherbydau Hacnai a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd. Gan fod safonau statudol newydd wedi'u cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth ynghyd ag argymhellion newydd gan Lywodraeth Cymru, cynigiwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn adolygu ei bolisïau a'i amodau i ymgorffori'r safonau a'r argymhellion newydd hyn.

 

 

Ym mis Gorffennaf 2020 cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth Safonau Cerbydau Tacsis a Hurio Preifat Statudol gan ganolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed.

 Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth, yn dilyn ymgynghoriad manwl, ei bod yn amlwg bod consensws bod angen safonau gofynnol craidd cyffredin i reoleiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat yn well.

 

Mae safonau'r Adran Drafnidiaeth yn cael effaith yng Nghymru er bod y cyfrifoldeb am bolisi tacsis a cherbydau hurio preifat wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio'r materion hyn, ni fyddai safonau'r Adran Drafnidiaeth yn berthnasol mwyach.

 

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllaw i Gysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru. Mae'r ddogfen hon yn dilyn papur gwyn Llywodraeth Cymru 'Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus' a gyhoeddwyd yn 2018. Nod yr argymhellion yn y ddogfen oedd darparu 'atebion cyflym' i wella cysondeb safonau trwyddedu a gwella diogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Roedd yr argymhellion yn sail i Lywodraeth Cymru eu datblygu ymhellach i greu safonau cenedlaethol.

 

Amlinellwyd pum rheswm gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r argymhellion, diogelwch y cyhoedd yw'r cyntaf. Dylai'r cyhoedd allu disgwyl i yrrwr trwyddedig fod yn gymwys, yn onest, yn ddiogel ac yn ddibynadwy. Cafwyd nifer o adroddiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn rhannau eraill o'r wlad sy'n ymwneud â chamfanteisio ar blant sydd wedi'i gwneud yn glir bod trefniadau gwan ac aneffeithiol ar gyfer trwyddedu tacsis yng Nghymru a Lloegr wedi rhoi'r cyhoedd mewn perygl.

  Roedd yr argymhellion newydd hyn yn gobeithio unioni hyn drwy wella diogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Roedd hyn hefyd yn cynnwys diogelwch cerbydau, ynghyd â gwella'r safonau ar gyfer gweithredwyr cerbydau hurio preifat. Roedd rhesymau eraill dros fabwysiadu'r argymhellion yn cynnwys gwell cysondeb o ran safonau ledled Cymru, gorfodi wedi'i gysoni, mwy o hygyrchedd ar gyfer cerbydau yng Nghymru a safonau gwell o ran gwasanaeth cwsmeriaid.

 

Cynigiwyd felly y dylid cynnwys y polisïau tacsis mewn un ddogfen fawr sy'n cwmpasu'r holl bolisïau ac amodau atodol eraill a oedd yn ymwneud â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Y gobaith yw y byddai hyn yn symleiddio materion i ymgeiswyr a deiliaid trwydded gan y byddai'r holl ddogfennau angenrheidiol ar gael mewn un lle.

 

 

Bydd safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth ac argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn arwain at lawer o newidiadau i Bolisïau cyfredol yr Awdurdod.

 

I grynhoi, roedd y prif newidiadau fel a ganlyn:-

 

Gyrwyr

 

·         Gofyniad i yrwyr ymuno â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chael gwiriad DBS bob 6 mis;

·         Mabwysiadu Côd Ymddygiad Gyrwyr Llywodraeth Cymru;

·         Diweddaru'r Amodau Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat yn unol ag argymhellion Llywodraeth Cymru;

·         Gr?p 2 Safon Feddygol;

·         Mabwysiadu'r Polisi Collfarnau IOL.

 

Cerbydau

 

·         Gofyniad i berchenogion cerbydau gael gwiriad DBS blynyddol.

·         Gwiriad o gofnodion troseddol tramor;

·         Mabwysiadu polisi Llywodraeth Cymru ar deledu cylch cyfyng a Systemau Fideo Pwynt Gwrthdaro (VIPS) / Camerâu Cerbyd mewn tacsis a cherbydau hurio preifat;

·         Gweithredu argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer amodau hygyrchedd ar berchenogion cerbydau tacsis a cherbydau hurio preifat.

 

Cyffredinol

 

·         Ymrwymo i adolygu Datganiad Polisi Tacsi bob 5 mlynedd yn unol â Safonau Statudol yr Adran Drafnidiaeth;

·         Ffurflenni cais safonedig ledled Cymru.

 

Nodwyd y byddai adroddiad pellach gyda Pholisi Tacsi wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law, cyn ymgynghori â phartïon â diddordeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad diweddaru.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau