Cofnodion:
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad a ategwyd gan ddiweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Arweiniol ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer darparu rhaglenni Llywodraeth Cymru a gwasanaethau Consortia o 1 Medi 2021.
Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb byr o drefn ERW a bod Gweithred Amrywio yn cael ei dosbarthu ar hyn o bryd ymhlith y 4 Awdurdod partner presennol i ganiatáu i'r holl awdurdodau sy'n weddill dynnu'n ôl o ERW ar yr un pryd a chyda Chonsortiwm presennol ERW yn dod i ben. Byddai'n ofynnol i'r partneriaid sy'n weddill wneud trefniadau amgen ar gyfer cyflawni gwelliannau mewn addysgu a dysgu er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i bob dysgwr.
Dywedwyd bod trafodaethau'n cael eu cynnal rhwng gweddill yr awdurdodau lleol o ran cyflawni'r swyddogaethau y cytunwyd arnynt yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe wedi cytuno i ffurfio partneriaeth newydd a fyddai'n weithredol o 1 Medi 2021 ac roedd Powys yn gwneud eu trefniadau lleol eu hunain a oedd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Cheredigion ar rai agweddau ar wella ysgolion.
Tynnodd y Cadeirydd a'r Cyfarwyddwr Arweiniol sylw at y ffaith bod strwythur staffio presennol ERW wedi'i greu i wasanaethu ysgolion mewn 6 Awdurdod Lleol ac er bod rhai swyddi'n wag, roedd eraill yn cael eu llenwi gan secondiadau. Roedd rhai aelodau o staff wedi llwyddo i sicrhau swyddi newydd ac roedd yn debygol y byddai symud i drefniadau newydd yn arwain at rai diswyddiadau, ond byddai hyn yn cael ei gyfyngu cyn lleied â phosibl.
Codwyd yr ymholiadau canlynol:-
· Dywedwyd bod Powys wedi rhoi trefniadau ar waith ar ôl mis Awst 2021, ond nid oedd yn glir y byddai costau ychwanegol ynghlwm wrth fynediad at wasanaethau/rhaglenni o fis Medi ymlaen. Er y byddai'r gronfa grant yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru, nid oedd y pwysau o'r costau ychwanegol o 1 Medi 2021 wedi'u rhagweld. Byddai'n fuddiol pe bai costau ychwanegol yn cael eu gwneud yn glir a sut y byddai'r cyfraniadau'n cael eu gwneud. At hynny, byddai'n fuddiol cael gwybod faint o aelodau staff fyddai ar ôl ar gyfer y trefniadau newydd ym mis Medi 2021.
Yn ogystal, y gobaith oedd y byddai ymrwymiad yn y cytundeb y byddai Ceredigion a Chastell-nedd Port Talbot hefyd yn cyfrannu at unrhyw gost ychwanegol wrth ddod â'r trefniant i ben. Dylid rhannu'r costau hyn gan ddefnyddio'r fformiwla gyfrifedig.
Esboniodd y Cadeirydd y byddai'r costau terfynol yn berthnasol i bob partner ac y byddai'r costau'n seiliedig ar y fformiwla flaenorol o gyfraniadau.
Dywedwyd bod gan bob parti, gan gynnwys Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion, rwymedigaeth ddigwyddiadol hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022 lle byddai costau'n cael eu hadennill.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Arweiniol, o ran y costau ychwanegol, ei fod yn gweithio'n agos gyda Swyddog Adran 151 i fodelu beth fyddai'r costau ar ddiwedd y broses ac mai'r bwriad oedd ysgrifennu at bob partner cyn diwedd mis Awst i rannu'r wybodaeth.
PENDERFYNWYD:-
7.1 Derbyn y diweddariad ar lafar yngl?n â darparu Gwasanaethau Consortia cyfredol ar ôl Awst 2021;
7.2 nodi'r dulliau arfaethedig ar ôl Awst 2021.
Dogfennau ategol: