Agenda item

DRAFFT YMGYNGHORI'R CYNLLUN CYFLAWNI ANSAWDD AER

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd ar Ymgynghoriad y Cynllun Cyflawni Ansawdd Aer a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed mewn perthynas ag Ansawdd Aer yn Sir Gaerfyrddin, ac i ymgynghori ar y cynllun Cyflawni Ansawdd Aer drafft.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ar 'Cyflwyno Stryd Ysgol' fel y nodir ym mesur G10 o'r Cynllun, eglurodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant fod y mesur hwn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan yr adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth.  Byddai'n cwmpasu cyflwyno cyfres o fesurau i wella ansawdd aer o amgylch ardal yr ysgol megis cyflwyno cyfyngiadau traffig ffyrdd i ardal benodol, gan gynnwys man codi a gollwng heb segura.  Yn ogystal, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y byddai'r Cynllun Teithio Llesol hefyd yn cefnogi'r amgylchedd glanach drwy annog mwy o gerdded a beicio i ysgolion.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch pryd y byddai Llwybr Dyffryn Tywi yn cael ei agor i'r cyhoedd, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod Jonathan Edwards AS wedi gwneud cais am gyllid gan Gronfa Codi'r Gwastrad ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin tuag at Lwybr Dyffryn Tywi a bod gwaith datblygu'n parhau.

  • Gan fod mwy o bobl yn cerdded yng nghefn gwlad, mynegwyd pryder bod llwybrau troed a rennir yn cael eu cloi ac a oedd yn achosi problemau cyfreithiol.  Gofynnwyd a oedd amserlen i ddatrys y problemau?  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y mater hwn yn cael ei reoli gan yr adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd, yn y lle cyntaf, yn gweithio i ddatrys materion gyda'r tirfeddianwyr priodol cyn cyflwyno hysbysiadau gorfodi.  Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd fod prosesau cyfreithiol yn aml yn hir.

 

  • Codwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys llawer o syniadau o newid ymddygiad i brosiectau cyfalaf mawr a oedd yn cyflwyno heriau.  

 

  • Gan gyfeirio at fesur G20 - Ystyried astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer Parthau Allyriadau Isel, gofynnwyd sut olwg fyddai ar hyn a sut y byddai'n gweithio?  Dywedodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant fod hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o Fil Aer Glân (Cymru), bod yr ymgynghoriad ar y Bil bellach wedi cau ac y byddai'r crynodeb o'r ddogfen ymateb ar gael ym mis Medi 2021.  Felly, byddai mwy o fanylion mewn perthynas â pharthau allyriadau isel ar gael pan gyhoeddir y ddogfen, ond roedd yn bwysig neilltuo mesur i hyn er mwyn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei archwilio.

 

  • Cyfeiriwyd at fesur C11 –  'Gosod arwyddion Ardal Rheoli Ansawdd Aer' a gofynnwyd am eglurhad pellach ar ystyr hyn ac a fyddai'n opsiwn i roi gwybodaeth i'r cyhoedd am ansawdd aer mewn amser real.  Dywedodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant, mewn perthynas ag arwyddion, ei bod yn bwysig bod yn ofalus o ran y negeseuon i'r cyhoedd er mwyn osgoi achosi braw diangen.  Cydnabuwyd y gallai unigolion â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes sy'n byw ac yn ymweld â'r 3 ardal gydnabyddedig elwa o dderbyn gwybodaeth o'r fath, ond roedd yr anawsterau'n gysylltiedig â diogelu data a chyfrinachedd. Er mwyn goresgyn rhai o'r rhwystrau hyn a dod o hyd i ateb i gyflwyno gwybodaeth am ansawdd aer i unigolion, nodwyd y byddai angen dechrau deialog gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff eraill. 

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â chau lonydd ar ffyrdd deuol a defnyddio'r dull cyfuno er mwyn lleihau amser segur a byrhau ciwiau, dywedodd Pennaeth y Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y system Rheoli Traffig a ddefnyddir ar y ffyrdd cyflym wedi'i chynllunio i amddiffyn gweithwyr a'r cyhoedd o ran diogelwch.  Defnyddiwyd arwyddion i annog gyrwyr i ddefnyddio'r ddwy lôn, ond cydnabuwyd bod ciwiau'n dal i ffurfio.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'n cysylltu â'r tîm Cefnffyrdd yn Llywodraeth Cymru i archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio dull cyfuno gyda'r nod o wella ansawdd aer.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

8.1      nodi'r gwaith a gyflawnwyd mewn perthynas ag Ansawdd Aer yn Sir Gaerfyrddin;

 

8.2      bod sylwadau'r Pwyllgor yn cael eu cynnwys yn ymgynghoriad y Cynllun Cyflawni Ansawdd Aer drafft.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau