Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020/21

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig ar Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21, a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Nodwyd bod effaith Covid-19 ar wasanaethau'r cyngor wedi golygu na fu'n bosibl eleni i'r adroddiad weithredu naill ai fel adroddiad cynnydd ar berfformiad neu fel cymharydd ag awdurdodau lleol eraill. Roedd felly yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd gan y Cyngor i gefnogi ei drigolion, ei gymunedau a'i fusnesau drwy gydol y pandemig.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio yn ei dro at bob un o 15 Amcan Llesiant y Cyngor ac yn asesu'r cynnydd a'r addasiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn. Canolbwyntiodd yr Aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor:

 

  • AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)
  • AMCAN LLESIANT 9. Cefnogi cysylltiadau da â ffrindiau, y teulu a chymunedau mwy diogel
  • AMCAN LLESIANT 12. Gofalu am amodau diwylliannol a naturiol yr amgylchedd heddiw ac yn y dyfodol
  • AMCAN LLESIANT 13. Gwella seilwaith a chysylltedd y priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Atodiadau

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y graff Teithio Llesol ar dudalen 62 yr adroddiad.  Yng ngoleuni'r cynnydd sylweddol mewn beicio a cherddwyr drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud, tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o Gynghorwyr wedi gwneud ceisiadau am Lwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned, ond roedd y cynnydd yn ymddangos yn araf iawn.  Gofynnwyd a oedd unrhyw ffordd o gyflymu'r broses o weithredu Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned.

 

Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, o ran y Llwybrau Mwy Diogel yn y gymuned, fod nifer y ceisiadau y gellid eu cyflwyno bob blwyddyn yn gyfyngedig.  Gofynnwyd am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer ceisiadau gan y Cyngor Cymuned bob blwyddyn.  Yn ogystal, adroddwyd bod buddsoddiad sylweddol wedi'i roi i Deithio Llesol mewn ystyr ehangach ar hyn o bryd a bod cynlluniau i gefnogi Teithio Llesol wedi'u datblygu ar gyfer trefi.  Tynnwyd sylw at y ffaith bod Llwybrau Diogel i Ysgolion yn gyllid ar wahân a oedd hefyd yn gyfyngedig yn debyg i Lwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned.

 

Cynigiwyd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eu cefnogaeth i gyllid Llwybrau Diogel yn y Gymuned a cheisio cefnogaeth y Dirprwy Weinidog i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu i ddatblygu llwybrau mwy diogel i ysgolion yn y dyfodol ar draws pob rhan o'r Sir.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

·       Wrth gyfeirio at wasanaeth Bwcabus, mynegwyd diolchgarwch i swyddogion am sicrhau cyllid pellach gan fod y gwasanaeth yn amhrisiadwy i'r gymuned.

·       Cyfeiriwyd at dudalen 56 yr adroddiad lle gwelwyd nad oedd y ffigurau mewn perthynas â mesurau llwyddiant y defnydd o ynni ar gael.  Gofynnwyd, a oedd diweddariad ar y ffigurau hyn ar gael cyn derbyn yr adroddiad?

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, er iddi geisio cael y ffigurau'n barod ar gyfer y cyfarfod hwn, yn anffodus roedd y ffigurau'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd ac felly nid oeddent yn barod i'w cofnodi hyd yma.

 

Yn dilyn yr ymateb, gofynnwyd i ystyried ymhellach y targedau arfaethedig o ran y defnydd o ynni a sut olwg fyddai ar lwyddiant.

 

·       Gan gyfeirio at adran Carbon Sero-net yr adroddiad (tudalen 57), tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyngor wedi cytuno ar ei gynllun Carbon Sero-net a'i fod ar hyn o bryd yn ystyried Cwmpas 1, a oedd yn cynnwys 'Allyriadau Uniongyrchol' o weithgareddau fel y nodir yn yr adroddiad.  Gan fod y data yn yr adroddiad yn awgrymu bod y defnydd o ynni yn lleihau, gofynnwyd a oedd yr ynni a ddefnyddir gan aelodau staff sy'n gweithio gartref yn cael ei fesur? At hynny, gan fod y Cyngor wedi dewis peidio â mesur Cwmpas 2 a oedd yn cwmpasu'r 'Allyriadau Anuniongyrchol' a achoswyd gan weithgareddau o fewn y Cyngor, gofynnwyd a fyddai'r mesur hwn yn cael ei roi o fewn Cwmpas 2, gan y bydd gweithio gartref yn debygol o barhau?  I grynhoi, gofynnwyd a oedd y defnydd o ynni gan Swyddogion a Chynghorwyr sy'n gweithio gartref yn cael ei fesur fel rhan o Gwmpas 1 – Allyriadau Uniongyrchol?

 

Mewn ymateb i'r ymholiadau a godwyd, eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy y 3 chwmpas yn y cynllun Carbon Sero-net i'r pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Cwmpas

Math yr Allyriad

Ôl Troed CSC

1

Uniongyrchol

Milltiredd Fflyd

2

Anuniongyrchol

Adeiladau annomestig

Goleuadau Stryd

3

Anuniongyrchol

Milltiroedd Busnes – staff yn defnyddio eu cerbydau eu hunain

 

Dywedwyd y byddai gweithio gartref yn dod o dan Cwmpas 3 ac mai dyma'r anoddaf i'w fesur.  Datblygwyd y Cynllun Carbon Sero-net gan ddefnyddio dull pragmatig drwy nodi'r meysydd a fesurwyd yn draddodiadol.  Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r canllawiau adrodd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar 24 Mai 2021 a oedd yn cynnwys y fethodoleg yr oedd angen ei defnyddio.  Roedd adroddiad goblygiadau'n cael ei ddatblygu gyda chyngor Llywodraeth Cymru.  Eglurwyd, wrth gydymffurfio â methodoleg Llywodraeth Cymru, y rhagwelwyd y byddai cynnydd mewn ôl troed o dros 30%, oherwydd y gwahaniaeth yn y Cwmpas a'r fethodoleg a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy nad oedd pob Awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i fod yn sero-net erbyn 2030, gan nad oedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn orfodol.

 

Cyfeiriwyd at y cyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol a goblygiadau'r defnydd llai.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod y lleihad mewn defnydd oherwydd y nifer lai o bobl ar y bysiau er mwyn cadw pellter cymdeithasol.  Mae hyn wedi achosi problem ledled y Sir lle mae uchafswm nifer y bobl ar y bysiau cyn iddynt gyrraedd diwedd y llwybr.  Ychwanegodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y byddai hyn yn fater parhaus nes i reoliadau Covid gael eu llacio.  Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector trafnidiaeth gyhoeddus gyda chyllid sylweddol i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau yn ystod y pandemig.  Fodd bynnag, ers dechrau'r adferiad roedd cyllid pellach wedi gweld gwasanaethau pellach yn cael eu hailddechrau.  Yn ogystal, dywedwyd bod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn cynnwys uchelgeisiau sylweddol mewn perthynas â mwy o newid modelau a rhannu modelau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a Theithio Llesol.  Fel rhan o'r trefniadau, roedd un o flaenoriaethau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn cynnwys gweithio gyda darparwyr bysiau a fyddai'n helpu i gyflawni blaenoriaethau a denu buddsoddiad cwmnïau grwpiau bysiau yng ngwasanaethau Cymru, gyda gorwelion ariannu tymor hwy.

I grynhoi, adroddwyd bod cyllid ar gael ar hyn o bryd i gefnogi adferiad a oedd yn cynnwys ardaloedd gwledig ac y byddai unrhyw heriau yn y dyfodol yn cael eu rheoli drwy'r cynllun argyfwng bysiau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

7.1      fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2020/21 yn cael ei dderbyn;

 

7.2      bod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi ei gefnogaeth i gyllid Llwybrau Diogelu yn y Gymuned a cheisio cefnogaeth y Dirprwy Weinidog i helpu i ddatblygu llwybrau mwy diogel i ysgolion ar draws yr holl ardaloedd yn y Sir.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau