Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2020/21.  Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol.  Roedd yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y bydd yn mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y bydd y gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd.  Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r heriau yn sgil COVID-19 ac yn tynnu sylw at y meysydd i'w datblygu yn y flwyddyn gyfredol.

 

Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2020/21, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2021/22.  Roedd yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad.  Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig.  Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu.  Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad wedi bod yn heriol i'w ysgrifennu a thynnodd sylw'r pwyllgor at yr hysbysiad statudol dyddiedig 1 Mehefin 2020 a oedd yn nodi nad oedd wedi gallu rhoi sicrwydd i'r Cyngor y gellid darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n iawn. Roedd y diffyg cyfarpar diogelu personol, ynghyd ag effaith y feirws ar breswylwyr mewn cartrefi gofal, staff gofal a theuluoedd, yn bryderon mawr ac nid oedd diffyg canllawiau amserol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi helpu o ran hyn.  Nodwyd bod y system cartrefi gofal wedi bod oriau i ffwrdd o chwalu, gyda phedwar cartref gofal preifat yn methu â gweithredu heb ymyrraeth gan yr awdurdod.

 

Rhoddwyd clod i weithlu'r sector gofal am gynnal ymweliadau statudol a chyflawni'n gyson yn ystod cyfnod heriol. Crynhowyd ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd ond y cafwyd ymateb eithriadol a chanlyniadau da o ystyried y sefyllfa.

 

Mynegwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol iddynt.  Dyma'r prif faterion:-

 

·         Gofynnwyd beth oedd y sefyllfa bresennol o ran cartrefi gofal.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nad oedd unrhyw broblemau o ran cyflenwi cyfarpar diogelu personol a bod mwy na 90% o breswylwyr cartrefi gofal wedi'u brechu ddwywaith a bod tystiolaeth yn dangos bod y gweithlu a'r preswylwyr yn cael eu diogelu gan y brechiad.  Nodwyd bod y gyfradd defnydd yn llawer is na'r disgwyl a bod y cymorth ariannol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru wedi llenwi'r bylchau, fodd bynnag, byddai'r cyllid yn debygol o ddod i ben yn raddol ym mis Medi.  Roedd recriwtio yn her gyson, ond nid oedd Sir Gaerfyrddin wedi cael problemau i'r un graddau ag awdurdodau cyfagos.  Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn gobeithio (er canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru) y byddai ymweliadau â chartrefi gofal yn dychwelyd i'r arfer cyn bo hir. Fodd bynnag, nodwyd bod angen bod yn ofalus o hyd a'i fod yn fater o gydbwysedd rhwng yr hawl i weld teulu/cyswllt cymdeithasol a diogelu'r cartref gofal ehangach.

·         Gofynnwyd sut yr oedd diffyg cyfarpar diogelu personol ar ddechrau'r pandemig wedi amharu ar waith y staff yn gyffredinol.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y bu problem o ran y gadwyn gyflenwi fyd-eang.  Bu cyfnod lle'r oedd masgiau'n costio £7/8 yn lle ceiniogau.  Dywedwyd bod materion polisi ac oedi o ran canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi golygu na ellid darparu cyfarpar ar adegau.  Rhoddwyd sicrwydd bod y gwaith o gynllunio ar gyfer amrywiolion yn y dyfodol wedi datblygu'n dda.

·         Dywedwyd y dylid cael mwy o ganolfannau brechu lleol oherwydd bod trigolion mewn rhannau o'r sir yn gorfod teithio cryn bellter i faes y sioe. 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gan y Bwrdd Iechyd uned frechu deithiol sy'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd i dargedu ardaloedd lle mae'r nifer sy'n derbyn y brechiad yn isel.  Nodwyd, gan fod y cyfleuster eisoes ar gael, y gallai fod cyfle i gyflwyno'r defnydd o'r uned hon mewn rhannau mwy anghysbell o'r sir.

·         Gofynnwyd pa wersi a ddysgwyd o'r 18 mis diwethaf ac a oedd adolygiad yn cael ei gynnal yn genedlaethol neu gan Lywodraeth Cymru ynghylch effaith y pandemig ar gartrefi gofal.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nad oedd yn sicr pa adolygiadau oedd yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru ond y byddai adolygiad cenedlaethol yn cael ei groesawu. Rhoddwyd sicrwydd bod yr awdurdod wedi cynnal ei astudiaeth fanwl ei hun. 

·         Mynegwyd pryder ynghylch yr hyn a oedd yn ymddangos yn ddull gweithredu cyffredinol o ran peidio â dadebru (DNR) ar gyfer preswylwyr mewn cartrefi gofal ar ddechrau'r pandemig.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nad oedd y broses DNR bob amser yn cael ei dilyn, yn ei farn ef, ac y dylid bod wedi ymgysylltu mwy â chleifion a theuluoedd i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y mater ei ddatrys drwy gydweithio â'r Bwrdd Iechyd a'r uwch-dîm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

·         dderbyn Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2020/21,

·         bod yr awdurdod yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o'r problemau a gafwyd mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig.

Dogfennau ategol: