Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN 2020/21

Cofnodion:

Bu'r pwyllgor yn ystyried adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y sir yn nodi'r heriau yn ystod blwyddyn ddyrys oherwydd COVID-19 ac mae'n ymwneud â pherfformiad ar gyfer y flwyddyn 2020-21.  Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Addysg fod yr adran o dan lawer o bwysau oherwydd cynnydd yn y galw am gymorth lle mae'r Gwasanaethau i Blant wedi bod yn effeithiol iawn ac wedi blaenoriaethu drwy drefniant y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Mae'r timau Gwaith Cymdeithasol a staff y gwasanaethau dydd wedi cadw mewn cysylltiad â gofalwyr ac wedi darparu cymorth pan fo angen; mae llawer o'r staff naill ai wedi cyflawni neu'n ymgymryd â'r Wobr Buddsoddwyr mewn Gofalwyr sy'n cydnabod y cymorth a ddarperir i ofalwyr ac mae pob tîm Gwaith Cymdeithasol wedi'u penodi'n Hyrwyddwyr Gofalwyr.

 

Mae'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ac is-grwpiau cysylltiedig wedi parhau i gyfarfod yn rhithwir; gan fod yn rhan o gr?p ymateb Aml-asiantaeth Rhanbarthol ar gyfer Covid a gyfarfu'n wythnosol â sicrwydd ynghylch ymatebion diogelu yn ystod y pandemig ac sydd wedi parhau i weithio o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion Cymru Gyfan newydd ac mae Sir Gaerfyrddin wedi arwain ar sawl datblygiad ar draws y rhanbarth gan gynnwys datblygu dogfen Trothwy Covid a hyfforddiant ac mae wedi paratoi'n dda ar gyfer gweithredu'r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd yn 2022.

 

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad.  Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig.  Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr, a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu.  Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Cwestiynau a sylwadau a godwyd:-

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch darparu gwasanaeth anabledd ar y cyd i blant, pobl ifanc 0-25 oed a'u teuluoedd yn seiliedig ar angen ac nid ar oedran lle mae'n ymddangos bod darpariaeth yn ystod gwyliau'r Haf yn ardal Heol Goffa, Llanelli yn bennaf ac nad yw'n cael ei rhannu ar draws gogledd a dwyrain y sir. Mae eglurhad cynhwysfawr wedi'i roi ers hynny ynghylch y mater hwn sy'n ymwneud â chostau gan fod gan blant ag anghenion cymhleth bwysau ychwanegol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod gweithgareddau eraill ar y gweill, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol o £270k a'u bod yn gweithio gyda llawer o bartneriaid ar hyn o bryd i ddarparu gweithgareddau ar draws Sir Gaerfyrddin ac mae'r rhaglen yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd.

·         Gofynnwyd pwy sy'n bresennol yn y Cyfarfodydd Pod?  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei fod yn elfen bwysig o sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu a dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod pob pod yn cael cynnwys 3 Gweithiwr Cymdeithasol, seicolegwyr ac yn cael ei arwain gan Reolwr Tîm gydag Ymarferydd Plant a Theuluoedd gan edrych ar sut i reoli ymddygiadau gyda Chydgysylltydd Uned yn cofnodi cofnodion a phob achos yn cael ei drafod bob 6 wythnos.

·         Pan ofynnwyd am Addysg yn y Cartref a sut nad yw'r plant yn cael eu haddysgu gartref yn Sir Gaerfyrddin.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi honni ei bod yn mynd i ddeddfu dros hyn a chael y plant i gael eu cofrestru ond nad oes unrhyw rwymedigaeth statudol i wneud hyn.

·         Gofynnwyd cwestiwn am y ffigurau ar yr adroddiad am bobl ifanc NEET a gofynnwyd am ragor o wybodaeth.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol fod tystiolaeth i gefnogi hyn.

 

PENDERFYNWYD:

  • Mae Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn trefnu bod Pobl Ifanc sy'n Gadael Gofal ar gael i'r aelodau.
  • Mae'r Awdurdod yn ysgrifennu at y Gweinidog newydd yn Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Addysg yn y Cartref.
  • Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau