Agenda item

CYNLLUN ADFER ADDYSG "CAMU YMLAEN"

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor yn rhoi trosolwg o ymateb covid yr Adran Addysg a sut y mae canfyddiadau'n llunio cynlluniau strategol ar gyfer symud ymlaen gan sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddiwallu anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg mai nod yr adroddiad yw cadarnhau bod ysgolion ynbodloni'r cymorth ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed a'r pwysigrwydd bod yr adran yn cydnabod y bylchau a'r angen i addasu i newid gyda diogelu addysg ac iechyd yn ffactorau pwysig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gyda'r Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Bwrdd Gweithredol i fyfyrio ar ein sefyllfa bresennol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Pan ofynnwyd sut yr ydym yn monitro llesiant a safonau addysg plant sy'n cael eu haddysgu gartref a'r rhai sy'n symud o gwmpas yn rheolaidd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod y tîm wedi ehangu a bellach mae ganddynt fwy o swyddogion cymwysedig yn ymweld â theuluoedd ac yn ymgysylltu â nhw – gall rhieni ddilyn unrhyw gwricwlwm a llwybr dysgu y maent yn dymuno – rhoddir cyngor ac arweiniad a chyda'r cyllid gan Lywodraeth Cymru gellir eu cefnogi gan roi mynediad iddynt at arholiadau.

·         Gofynnwyd a oes cyfarfod gadael helaeth yn cael ei gynnal gyda Phenaethiaid i weld pam eu bod yn ymddeol o ystyried bod pwysau ar arweinyddiaeth mewn ysgolion gyda phob newid systematig yn digwydd?  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod cyfuniad o resymau; iechyd, teulu, llesiant.

·         Gofynnwyd am gwricwlwm newydd Cymru a fydd yn orfodol mewn ysgolion uwchradd flwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl heb unrhyw oedi i ysgolion cynradd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod y Gweinidog Addysg wedi dweud y gallai ysgolion uwchradd ei gyflwyno'n ddiweddarach oherwydd heriau Covid a bydd hyn yn cael ei drafod mewn cyfarfod Penaethiaid sydd wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 12 Gorffennaf 2021.  Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y cwricwlwm newydd yn cael ei dreialu ar hyn o bryd a'i fod yn rhagweld y bydd pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ei fabwysiadu.

·         Pryderon am lwyth gwaith Penaethiaid.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant eu bod wedi lleihau'r llwyth gwaith e.e. Mae arolygiadau Estyn wedi'u gohirio tan y gwanwyn 2022, gan brofi'r broses asesu cymorth ac adroddiadau i rieni.

·         Gofynnwyd am lefelau dilyniant dysgwyr sy'n agored i niwed.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant fod rhai ysgolion wedi gofyn am gymorth pellach ynghylch dysgwyr sy'n agored i niwed ac yn gweithio'n agos gyda Phenaethiaid i edrych ar y dulliau mwyaf effeithiol o ran llesiant, ac mae swyddogion ar draws yr adran yn casglu cyngor ac arweiniad i ysgolion.

·         Gofynnwyd am eglurder yngl?n â'r gostyngiad ym mhresenoldeb mewn ysgolion uwchradd.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant ei fod yn ysgrifennu at ysgolion bob dydd Gwener ac mae'r ohebiaeth yn eu hatgoffa o'r gofyniad cyfreithiol i gwblhau'r gofrestr mewn modd amserol; i nodi bod codio wedi bod yn broblem ar y gofrestr h.y. os ydynt yn hunanynysu neu'n rhan o swigod ond bydd codio newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi, 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

·         Mae'r adroddiad yn mynd i'r Bwrdd Gweithredol a'r Tîm Rheoli Plant

·         derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: