Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd A Davies (Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig) ar Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod effaith Covid-19 ar wasanaethau'r cyngor wedi golygu na fu'n bosibl eleni i'r adroddiad weithredu naill ai fel adroddiad cynnydd ar berfformiad neu fel cymharydd ag awdurdodau lleol eraill. Roedd felly yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd gan y Cyngor i gefnogi ei drigolion, ei gymunedau a'i fusnesau drwy gydol y pandemig.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio yn ei dro at bob un o 15 Amcan Llesiant y Cyngor ac yn asesu'r cynnydd a'r addasiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn. Canolbwyntiodd yr aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen sy'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor:

 

·       Trosolwg o flwyddyn Covid-19 gan gynnwys ymatebion ac effeithiau allweddol

·       AMCAN LLESIANT 2. Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw

·       AMCAN LLESIANT 6. Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir

·       AMCAN LLESIANT 7. Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael

·       AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)

·       AMCAN LLESIANT 14. Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a Diwylliant

·       Atodiadau

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd a gofnodwyd mewn gordewdra yn ystod plentyndod o 26.8% yn 2017/18 i 30.4% yn 2018/19 a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y rhesymau dros y cynnydd siomedig.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, er bod y cynnydd yn siomedig, y dylid cydnabod ei fod yn gysylltiedig â chyfnod adrodd 2018/19, a bod pandemig Covid wedi cael effaith ar y broses o lunio ystadegau mwy diweddar ac felly roedd y sefyllfa bresennol yn aneglur. Er nad oedd esboniad clir a diffiniadwy ynghylch y cynnydd, roedd o ganlyniad i gyfuniad ehangach o ffactorau na dim ond hamdden ac roedd yr awdurdod, ar y cyd â'i bartneriaid, yn gweithio i leihau'r cyfraddau hynny.

·       Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth o ystafelloedd dosbarth/ardaloedd dysgu awyr agored mewn ysgolion newydd a adeiladwyd gan yr awdurdod ac a oedd y Cyngor yn darparu cymorth ariannol tuag at eu darparu mewn ysgolion gwledig bach presennol.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod unrhyw gyllid uniongyrchol ar gyfer gwelliannau i ysgolion yn cael ei ddarparu o dan Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor. Roedd honno'n rhaglen dreigl gyda gwelliannau'n cael eu gwneud wrth i gyllid ddod i law. Fodd bynnag, roedd ysgolion yn arloesol yn eu hymagwedd at ddysgu yn yr awyr agored a oedd yn cynnwys, er enghraifft, ymweliadau â pharciau a ffermydd ac ati.

 

Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaethau Hamdden i ddarparu gweithgareddau hamdden awyr agored drwy fynd â chyfleusterau fel y wal ddringo i ysgolion unigol/ardaloedd i ategu'r cyfleusterau a ddarperir yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Ochr yn ochr â'r ddarpariaeth honno, roedd cynllun peilot yn cael ei gynnal gyda thua dwsin o ysgolion ar gyfer gwasanaeth dwyieithog ar-lein i hwyluso gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored (yn amodol ar asesiad risg priodol).

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn gweithgareddau cerdded a beicio yn ystod y pandemig ac at y diffyg palmentydd ar briffyrdd cyhoeddus mewn llawer o ardaloedd gwledig i hwyluso llwybrau cerdded diogel, gyda dros 300 o geisiadau am balmentydd heb eu datrys ar hyn o bryd. Mynegwyd barn y dylai'r Awdurdod archwilio'r sefyllfa hon, o bosibl drwy Gr?p Gorchwyl a Gorffen, gan roi sylw penodol i ddiogelwch cerddwyr ar briffyrdd heb balmentydd. Atgoffwyd y Pwyllgor, gan fod darparu palmentydd o fewn maes gorchwyl Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, y byddai angen cyfeirio'r mater at y Pwyllgor hwnnw i'w ystyried

·       Cyfeiriwyd at y £46m o gymorth ariannol a roddwyd i dros 4,000 o fusnesau ledled y Sir drwy daliadau grant ardrethi busnes Llywodraeth Cymru mewn ymateb i bandemig Covid. Er bod y ddarpariaeth honno'n cael ei chroesawu, tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd rhai busnesau wedi gallu cael mynediad at y grant.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi hysbysebu'r taliadau grant yn eang a'r bwriad oedd bod pob busnes cymwys oedd â hawl i gael y grant wedi cael y cymorth hwnnw ac y byddent yn parhau i gael hwnnw. Fodd bynnag, gan fod yr Awdurdod yn gweithredu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru, byddai'n rhaid i unrhyw grant a ddyfarnwyd gydymffurfio â meini prawf y Llywodraeth. Cydnabuwyd na fyddai rhai busnesau wedi bodloni'r meini prawf hynny ac roedd y cyngor wedi ceisio ategu'r grant gyda'i gynlluniau ei hun a thrwy ryddhad rhent ar gyfer ei denantiaid busnes. Nodwyd hefyd bod y £46m o gymorth ariannol y cyfeiriwyd ato'n flaenorol bellach wedi cynyddu i dros £80m o gymorth gan Lywodraeth Cymru yr oedd yr awdurdod wedi'i weinyddu yn ystod y pandemig hyd yma

·       Mewn perthynas â darpariaeth y Cyngor o dros 1,000 o dai fforddiadwy ers 2016, gofynnwyd am eglurhad ar lefel y ddarpariaeth cyn y dyddiad hwnnw. Cadarnhawyd, ac eithrio darparu oddeutu 14 o fyngalos newydd mewn dau leoliad yn y sir, nad oedd y cyngor wedi adeiladu unrhyw eiddo newydd ers dechrau'r 1990au, yn unol â deddfwriaeth y llywodraeth yn gwahardd awdurdodau lleol rhag ymgymryd ag unrhyw adeiladau newydd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar gostau adnewyddu tai cyngor h?n, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cyflwr rhai o'r rheini wedi codi amheuon ynghylch fyddai'n hyfyw yn economaidd i wneud gwaith adnewyddu i'r tai hyn er mwyn eu dychwelyd i'r stoc dai. Mewn achosion o'r fath, cyflawnwyd arfarniad opsiynau i asesu hyfywedd a'r opsiynau oedd naill ai bwrw ymlaen â gwaith adnewyddu, gwaredu neu ddymchwel.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Cymraeg mewn Busnes ac Eisteddfod yr Urdd 2022 yn Llanymddyfri, cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r Awdurdod yn edrych yn fanwl ar sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i fusnesau yn lleol a ledled y Sir o ganlyniad i'r Urdd

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch busnesau preifat yn darparu arwyddion dwyieithog, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, lle'r oedd busnesau'n meddiannu eiddo sydd ym mherchnogaeth y cyngor, fod y cytundeb prydles yn gofyn am arwyddion dwyieithog a bod modd gorfodi eu darpariaeth. Er nad oedd gan y Cyngor grant penodol ar gyfer arwyddion, byddai'n lansio Cronfa Cymorth Busnes newydd cyn bo hir a allai, o bosibl, helpu gyda'r gost, ar yr amod bod prif feini prawf y grant wedi'u bodloni. Fel rhan o'r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg, roedd y cyngor hefyd yn bwriadu hyrwyddo egwyddor 'dangos a dweud' gan ddangos i fusnesau newydd a phresennol enghreifftiau clir o lle roedd yr iaith wedi bod o fudd i fusnesau yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

5.1

Bod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2020/21 yn cael ei dderbyn.

5.2

Gofyn i'r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ystyried darparu palmentydd mewn ardaloedd gwledig drwy Gr?p Gorchwyl a Gorffen o bosibl.

 

Dogfennau ategol: