Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Cofnodion:

  • Aeth y Cadeirydd ati i longyfarch y Cynghorydd Dorian Phillips sydd wedi cael gwobr MBE gan y Frenhines i gydnabod ei wasanaethau i chwaraeon ac i'r gymuned yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

·         Hefyd cafodd y canlynol eu llongyfarch ar ennill anrhydeddau'r frenhines:

 

-       Rhoddwyd gwobr OBE i Mr Nigel Vernon Short o Hendy-gwyn ar Daf am ei wasanaethau i'r economi yng Nghymru.

 

-       Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Mr John Nicholas Anderson o Lanelli, sy'n Archwiliwr Gwirfoddol ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, am ei wasanaethau i drafnidiaeth yn ystod Covid-19.

 

  • Roedd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, gyda chaniatâd y Cadeirydd, yn dymuno rhoi gwybod am ddau beth sylweddol roedd y Cyngor wedi'u cyflawni:

 

-  Enillodd Wobr Aur Diogelwch Hamdden RoSPA am yr ail flwyddyn yn olynol am 'ragoriaeth ymhlith cwmnïau sy'n cynnig gwasanaethau'n uniongyrchol i westeion ac i ymwelwyr yn bennaf yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr, 2020 a 31 Rhagfyr, 2020’. Mae'r gwobrau byd-eang, sef un o'r cynlluniau mwyaf nodedig a chydnabyddedig yn y byd, yn cael bron i 2000 o geisiadau bob blwyddyn ac mae'n cyrraedd dros 7 miliwn o weithwyr.  Mae hyn ar ôl cyflwyno polisïau ac arferion gwaith cynhwysfawr. Canlyniad hynny fyddai peidio â chael gwobr neu gael gwobr ar sail teilyngdod, efydd, arian neu aur. Enillwyd yr anrhydedd mwyaf.

 

-  Enillodd y 'Wobr Arian inSport am gynhwysiant anabledd' ar ôl cyflwyniad cynhwysfawr i banel cenedlaethol y bore yma. Mae hwn yn gynllun gwobrau cenedlaethol blaengar sy'n cydnabod dull cynhwysol y Cyngor o ran y modd y mae'r gwasanaeth yn cael ei lunio a'i ddarparu, a hynny yn y gymuned ac yn ei gyfleusterau, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth yn y Cyngor a thu hwnt.

 

Wrth roi gwybod ynghylch yr uchod, roedd y Cynghorydd Hughes-Griffiths am ddiolch yn ddiffuant i staff Chwaraeon a Hamdden Actif am eu gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn cyrraedd y man hwn.  Ni ellir cyflawni'r naill ddyfarniad na'r llall heb gael sylfeini cadarn sy'n arwain at arferion diogel a llwyddiannus.

 

 

·         Roedd y Cynghorydd Hazel Evans, gyda chaniatâd y Cadeirydd, am longyfarch y canlynol:

 

-       Mr Gareth Davies o Gastellnewydd Emlyn ar gael ei ddewis i fynd i Dde Affrica gyda sgwad y Llewod ac wedyn sgorio cais a;

 

-       Gareth Thomas sy'n chwarae i'r Gweilch ar hyn o bryd am gael ei ail gap, a Josh Turnbull am gael 11 cap dros Gymru.  Dechreuodd y ddau unigolyn eu gyrfaoedd chwaraeon yng Nghlwb Castellnewydd Emlyn.

 

  • Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu a'i chynnydd hyd yn hyn ynghyd â chyfeirio at weithlu addysg y Cyngor, sef yr athrawon, y cynorthwywyr dosbarth, staff y gegin, y gyrwyr bysiau, y Penaethiaid, y Llywodraethwyr, y Penaethiaid Gwasanaeth a'r Cyfarwyddwr Addysg a phawb a fu'n rhan o'r gwaith o sicrhau diogelwch, gofal ac addysg plant Sir Gaerfyrddin dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

·         Llongyfarchodd y Cadeirydd Siop Gymunedol a Swyddfa Bost Dryslwyn ar ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.  Y wobr hon, a ddisgrifir fel MBE y Gwasanaeth Gwirfoddol, yw'r wobr uchaf y gall gr?p gwirfoddol ei hennill. Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn cydnabod gwaith rhagorol gan grwpiau gwirfoddol er budd eu cymunedau lleol. Eleni roedd yn braf gweld bod un fenter yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn yr anrhydedd. Bydd tystysgrif a gwobr gan Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach yr haf hwn.

 

  • Cyfeiriodd y Cadeirydd at y newyddion trist am farwolaeth mam y Cynghorydd Alun Lenny, ac ar ran y Cyngor, cydymdeimlodd â'r Cynghorydd Lenny a'i deulu yn eu profedigaeth.