Agenda item

CYNLLUN ADFER A CHYFLAWNI ECONOMAIDD SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad diweddaru am Gynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin a oedd yn nodi rhyw 30 o gamau gweithredu i gefnogi adferiad economi Sir Gaerfyrddin yn sgil effeithiau cymdeithasol ac economaidd pandemig COVID-19 a Brexit.  Nodai'r adroddiad flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer cefnogi Busnes, Pobl a Lleoedd. Barnwyd y byddai'r cymorth hwn yn galluogi economi Sir Gaerfyrddin i adfer cyn gynted â phosibl i ddod yn un oedd yn fwy cynhyrchiol nag yr oedd o'r blaen, yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd, yn iachach, a chyda chymunedau mwy cynaliadwy. Diben y Cynllun oedd nodi'r blaenoriaethau tymor byr a'r camau cyntaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, a oedd yn diogelu swyddi a busnesau yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Pwysleisiwyd mai cynllun adfer Sirol oedd hwn yn hytrach na chynllun twf, gyda 3 chynllun adfer canol tref ar gyfer y prif drefi ar waith. Roedd y cynlluniau twf '10 tref' hefyd yn cael eu cwblhau;

·       Ystyriwyd bod 'lleoliaeth' yn biler hollbwysig a fyddai'n sail i unrhyw adferiad;

·       Er bod gan y Cyngor rywfaint o rym i ddylanwadu ar lefel yr ardrethi busnes, dan fenter gan Lywodraeth Cymru sydd ar waith ar hyn o bryd tan fis Mawrth 2022, roedd yn rhaid i landlordiaid dalu'r ardreth fusnes ar unrhyw eiddo adwerthu gwag, a fyddai, gobeithio, yn gymhelliad i landlordiaid gael tenantiaid ar gyfer eiddo o'r fath;

·       Byddid yn cyflwyno'r adroddiad monitro i'r Bwrdd Gweithredol bob chwarter;

·       Mewn ymateb i bryder yngl?n â'r angen i gyflymu'r prosesau cynllunio o ran ceisiadau cynllunio a allai ddod â chyfleoedd gwaith, dywedodd yr Arweinydd fod adolygiad wedi'i gynnal a bod cynigion yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau uchelgeisiau'r Awdurdod o ran adfywio;

·       Roeddid yn disgwyl ymateb gan San Steffan ynghylch cynigion Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â'r gronfa Codi'r Gwastad;

·       Cyfeiriwyd at gynllun '100% Sir Gâr – Lleol Amdani' a oedd wedi rhoi llwyfan digidol i fanwerthwyr llai a hefyd ailfrandio twristiaeth Sir Gaerfyrddin, lle roedd tîm o swyddogion twristiaeth ac adfywio yn gweithio gyda chymunedau yn y mannau twristiaeth prysuraf;

·       Er nodi bod materion trafnidiaeth rhanbarthol a lleol wedi'u mandadu i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, roedd ystyried barn a gofynion lleol yn hanfodol;

·       Cadarnhaodd yr Arweinydd fod Rheilffordd Aman wedi'i chynnwys mewn trafodaethau ar y metro rhanbarthol;

·       Yn deillio o sylwadau ar hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan i dwristiaid, dywedodd yr Arweinydd fod cais wedi cael ei wneud am gael cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru i drafod tai haf, a oedd yn destun pryder;

·       Nodwyd bod Gr?p Ynni Gorllewin Cymru yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â chysylltedd grid gan fod cysylltiad gwael yn rhwystr o ran creu ynni adnewyddadwy a'r uchelgais i fod yn garbon sero-net;

·       O ran pryder bod rhai o fannau prydferth Sir Gaerfyrddin yn cael eu difetha gan yr holl sbwriel oedd o amgylch banciau poteli, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cynlluniau ar y gweill i gasglu gwydr i'w ailgylchu o drothwy'r drws.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau