“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael trafferth i gymryd camau gorfodi ynghylch troseddau parcio ar linellau melyn igam-ogam y tu allan i'n hysgolion yn Sir Gaerfyrddin gan roi plant mewn perygl o farwolaeth neu anaf difrifol.
A allaf ofyn i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol "Beth all Cyngor Sir Caerfyrddin ei wneud i orfodi cyfyngiadau parcio y tu allan i ysgolion a sicrhau bod disgyblion ym mhob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ddiogel wrth gyrraedd ar ddiwrnod ysgol ac wrth adael ar ddiwedd y dydd?”
Cofnodion:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei chael hi'n anodd gorfodi cyfyngiadau parcio ar linellau melyn igam-ogam y tu allan i'n hysgolion yn Sir Gaerfyrddin gan roi bywydau plant mewn perygl o farwolaeth neu anaf difrifol.
“Beth all Cyngor Sir Caerfyrddin ei wneud i orfodi cyfyngiadau parcio y tu allan i ysgolion a sicrhau bod disgyblion ym mhob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ddiogel wrth gyrraedd yr ysgol ac wrth adael”
Ymateb gan y Cynghorydd Phillip Hughes - yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd:-
Diolch i'r Cynghorydd Evans am dy gwestiwn.
Gan weithio gyda'n partneriaid yn yr asiantaethau statudol, mae gan y Cyngor Sir gyfres o fesurau ac ymyriadau i sicrhau bod holl ddefnyddwyr ffyrdd yn ddiogel, yn enwedig pobl ifanc. Mae cyfres eang o fentrau peirianneg, gorfodi ac addysg ar waith i helpu i leihau'r risg i'r hen a'r ifanc.
Er enghraifft, o safbwynt peirianneg, dros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi buddsoddi dros ddwy filiwn a hanner o bunnoedd mewn Llwybrau Diogel i Ysgolion trwy weithio gyda chymunedau i gynnig a chael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi mewn cysylltiadau teithio llesol i annog pobl i gerdded a beicio mwy, gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy’n teithio mewn car.
O safbwynt addysg, mae ein rhaglen addysg diogelwch ffyrdd yn cynnwys hyfforddiant penodol i bobl ifanc, megis hyfforddiant diogelwch ffyrdd mewn ysgolion, sy'n cynnwys, cerdded a beicio’n ddiogel. Yn ogystal, mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu i fodurwyr ynghyd ag ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd a datganiadau i'r cyfryngau trwy'r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at beryglon wrth barcio yn ymyl ysgolion.
Mae ein Rhaglen Cerdded i'r Ysgol, er enghraifft, yn annog rhieni i gerdded, beicio neu fynd ar gefn sgwter i'r ysgol ac yn ôl adref gyda’u plant. Mae cerdded i'r ysgol o fantais i ddisgyblion, rhieni, yr ysgol a'r gymuned leol;
· Mae'n datblygu sgiliau cerdded yn ddiogel a sgiliau diogelwch ffordd;
· Lleihau tagfeydd traffig o gwmpas gatiau’r ysgol;
· Mae disgyblion yn cyrraedd yr ysgol yn fwy effro ac ar amser;
· Llai o allyriadau'n helpu i wella ansawdd aer;
· Mae hefyd yn hybu ymarfer corff cymedrol
O ran gorfodi, bu'r Cyngor Sir yn gweithio gyda Go Safe a'r Heddlu i ymgymryd â mentrau gostwng cyflymder. Er enghraifft, mae Dyfais Dangos Cyflymder yn cael ei defnyddio, a phan fydd modurwyr yn goryrru, bydd swyddogion Plismona Ffyrdd yn stopio'r modurwyr sy'n mynd yn gyflymach na'r terfyn cyflymder. Bydd y modurwyr yn cael dewis, sef naill ai derbyn dirwy â phwyntiau cosb neu siarad â'r plant a Swyddog Diogelwch Ffyrdd y Cyngor Sir.
O safbwynt parcio, mae'r Cyngor Sir, unwaith yn rhagor, yn gweithio gydag ysgolion a'r heddlu drwy gynnal ymweliadau ar y cyd ag ysgolion a defnyddio'r car camera. Pan gyflwynwyd y car, bu'r Cyngor yn gweithio gyda phlant ysgol i hyrwyddo'r fenter a threfnwyd cystadleuaeth i'r plant ysgol enwi'r car ac annog ymddygiad cyfrifol wrth barcio. Enillodd disgybl blwyddyn dau o Ysgol Brynsierfel y gystadleuaeth ac enwyd y car yn ‘Iolo Patrolo’.
Mae'r car camera wedi bod ar waith mewn ystod o leoliadau ledled y sir i fynd i'r afael â phryderon diogelwch ffyrdd ers iddo gael ei brynu yn 2019/20. Mae 2020/21 wedi bod yn flwyddyn eithriadol oherwydd y pandemig, mae ymddygiadau wedi newid ac mae llai o bobl yn teithio oherwydd y cyfyngiadau angenrheidiol. Bydd ein hystod o ymyriadau yn parhau yn y dyfodol i gefnogi diogelwch ffyrdd gan gynnwys defnyddio'r cerbyd gorfodi.
Mae'n rhaid imi bwysleisio, os ydym am wella diogelwch ffyrdd, bydd angen sicrhau cydbwysedd bob amser a gweithio gyda chymunedau i gyflawni hyn gan ddefnyddio ystod eang o fentrau addysg, peirianneg a gorfodi.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Evans
A all Cyngor Sir Caerfyrddin brynu car camera arall i orfodi troseddau parcio ar linellau igam-ogam melyn y tu allan i ysgolion gan mai dim ond un sydd gennym, ac mae'n dueddol o dorri, a bydd hefyd yn berthnasol i ymgyrch Cyngor Sir Caerfyrddin i gyfleu'r neges i berchnogion ceir bod parcio ar linellau igam-ogam melyn yn drosedd a gall achosi anaf difrifol neu farwolaeth i ddisgyblion. Dyma fy nadl Philip—bydd ceir camera patrôl yn patrolio'r ardaloedd hyn yn rheolaidd. Ni fydd un yn ddigonol, mae angen i ni gael un arall ac o bosib dau.
Ymateb gan y Cynghorydd Philip Hughes - Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd:
Mae'n gwestiwn o daro'r cydbwysedd fel y nodir yn fy ateb. Rhieni a gofalwyr disgyblion sydd fel arfer yn parcio o amgylch ysgolion a dyna pam ei bod hi'n bwysig gweithio gydag ysgolion a chymunedau ar yr ystod o fesurau i ddylanwadu ar ymddygiadau. Yn ffodus, mae nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt a digwyddiadau a fu bron â digwydd y tu allan i giât yr ysgol yn ystod oriau ysgol dros y tair blynedd diwethaf yn fach iawn. Ond, mae'n rhaid ychwanegu, ni fyddwn yn hunanfodlon a byddwn yn parhau i addysgu, llunio a gorfodi lle bo angen. Gall pob un ohonom apelio at ein cymunedau, rhieni a gofalwyr i feddwl sut yr ydym yn teithio i'r ysgol ac i ymddwyn yn gyfrifol er mwyn sicrhau diogelwch ein pobl ifanc.
O ran ail gar, dyma fater y byddaf yn ei drafod a byddaf yn cysylltu â ti Rob i roi'r wybodaeth ddiweddaraf, os caf.