Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd J. Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddodd drosolwg o ymateb y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn ystod pandemig COVID-19, ynghyd â gwybodaeth gefndir berthnasol. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a Chyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli gan ganiatáu i ddull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid gael ei ddatblygu ledled Sir Gaerfyrddin.
Canmolodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant y gwasanaeth ar ennill y wobr Arian wrth gefnogi'r gwaith o gyflwyno Gwobr Dug Caeredin a bod yn gyfrifol am yr holl ddarpariaethau mynediad agored sydd ar gael ym mhedwar tîm y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.
Dywedodd Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid fod y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wedi dangos hyblygrwydd yn ystod y cyfyngiadau symud a'i fod wedi ymateb yn dda i’r heriau a wynebwyd drwy gefnogi’r gwaith o staffio’r hybiau ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud, cynnig cymorth i deuluoedd pan oedd hynny’n briodol, cyflawni dyletswyddau dosbarthu bwyd ledled y sir, cynnal ymweliadau wrth y drws/yn yr ardd i'r rhai y barnwyd eu bod yn agored i niwed ac maent wedi addasu'n gyflym i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc mewn modd diogel ochr yn ochr â gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol, y Bwrdd Iechyd a'r Adran Addysg gyfan.
Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd diogelu yn parhau i fod o'r pwys mwyaf i'r gwasanaeth; mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn sefydliad dysgu sydd wedi'i ailstrwythuro i ddiwallu'r anghenion ar draws Sir Gaerfyrddin. Cafodd y gwasanaeth ei integreiddio ym mis Ionawr, 2016 er mwyn gweithio yn y modd gorau posibl gyda'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a chwblhaodd y Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid hunanasesiad yn erbyn Safonau Cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer Plant yn y System Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Mawrth, 2020.
Cyn y cyfyngiadau symud roedd staff yn gweithio gyda'i gilydd i nodi proffil anghenion a risgiau llwyth achosion y tîm i helpu i flaenoriaethu a nodi’r math o gyswllt/cymorth sydd ei angen ar bob plentyn lle cwblhaodd rheolwyr a staff statws Coch / Ambr / Gwyrdd ar gyfer pob achos Llys a phob achos y Tu Allan i'r Llys gan ddefnyddio templed a oedd yn nodi perygl o niwed difrifol, pryderon diogelwch a llesiant neu unrhyw ymateb gofynnol neu angen arall.
Mae Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wrthi'n llunio Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a fydd yn cynnwys ffocws ar y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer 2021/22 yn ogystal â throsolwg o'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chynllunio yn y dyfodol.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: