Agenda item

CYNLLUN GWEITHREDU TRAWSNEWID ADY

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar gynnydd Cynllun Gweithredu Trawsnewid ADY Sir Gaerfyrddin a'r adolygiad o Ariannu Fformiwla ADY sy'n amlinellu sut mae'r awdurdod lleol yn helpu ysgolion o ran eu gwaith cynllunio wrth roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) ar waith.

 

Y system ADY yw'r system cymorth statudol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yng Nghymru sydd ag ADY, sydd i ddod i rym ym mis Medi 2021.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant y bydd y system statudol newydd yn cael ei chyflwyno ym mis Medi, 2021 gan nodi ei phwysigrwydd i bawb sy'n ymwneud â thrawsnewid ADY bod pob ysgol yn sicrhau bod yr hyn sydd ar waith yn briodol iddi, ac yn bwysicach, i'r dysgwyr yn yr ysgol.  Bydd y Cod ADY Newydd yn cael ei gyflwyno i ddechrau i leoliadau meithrin, Blynyddoedd 1, 3, 5, 7 a 10.  Mae'r newid yn gosod mwy o gyfrifoldeb ar ysgolion a llai ar yr Awdurdod. 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod y model Cydlynydd ADY wedi'i gyhoeddi ym mis Mawrth, 2021.  Nododd nad yw'r trawsnewidiad yn newydd i'r awdurdod a'i fod wedi bod yn gweithio arno ers 2018; mae'r gwasanaeth wedi ehangu o ran ADY ac yn yr Adran Gynhwysiant. Mae'r Rheolwyr ADY wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag ERW gyda'r 6 Awdurdod Lleol rhanbarthol yn dogfennu'r Egwyddorion a chynllunio wedi'i bersonoli i ddiwallu eu hanghenion o ran Cynlluniau Datblygu Unigol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi trosolwg ar gyfer canllawiau gweithredu technegol manwl gyda 4 gorchymyn cychwyn allweddol a bydd hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr ADY yn cael ei deilwra i'r unigolyn.

 

Cyflwynodd y Rheolwyr ADY adroddiad ar ddatblygu rhaglen mapio darpariaeth ADY, model  gwneud penderfyniadau, darpariaeth gyffredinol a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol o ran datblygu offeryn mapio electronig ar gyfer ysgolion. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod y Ganolfan Athrawon wedi'i chomisiynu i gefnogi Cynlluniau Datblygu Unigol ar draws ysgolion, teuluoedd, plant a phobl ifanc.  Dywedodd y Rheolwyr ADY y bydd llawlyfr cyfeirio ar gyfer ysgolion yn cael ei lunio yn y dyfodol a bod rhaglen amlasiantaeth yn cael ei datblygu i'w rhannu â chydweithwyr Iechyd yn Hywel Dda a darparu hyfforddiant ar draws Gofal Cymdeithasol a'r sector Addysg.

 

Dywedodd y Rheolwyr ADY y bydd angen i bob plentyn gael adolygiad a bod y meini prawf yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datblygu Unigol a nodwyd na fydd cofrestr ADY mwyach / dim Plant â Datganiad gan y bydd hyn yn dod i ben.

 

Mae cyllid ychwanegol yn cael ei roi i ysgolion i ryddhau'r Cydlynydd ADY i ystyried y gwaith o roi'r system newydd ar waith.  Bydd ysgolion yn derbyn y taliadau atodol canlynol ar sail cymorth prydau ysgol am ddim, y gofrestr AAA i fonitro a herio lle mae datganiadau yn gofyn am fwy nag 1 cynorthwyydd addysgu fesul disgybl, bydd yr Awdurdod Lleol yn ariannu'r gofyniad ychwanegol yn llawn a'r bwriad yw y bydd cyllid yn cael ei drosglwyddo i'r tâl atodol ADY wrth i Ddatganiadau leihau:-

 

Tâl atodol ADY

£1000 fesul plentyn sy'n derbyn gofal / 25% prydau ysgol am ddim / 25% Gweithredu gan yr Ysgol / 50% Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

 

Tâl atodol AAA

100% tâl atodol ar gyfer y rhai y cytunwyd arnynt hyd at fis Hydref, 2019 / o fis Hydref, 2019 – Cynradd: 50% ar gyfer Datganiadau newydd; Uwchradd 40% neu 45% fesul datganiad

 

Mae'r elfennau sydd angen cyllid yn cael eu cadw gan yr ysgol ac yn ganolog.  Disgwylir i ysgolion wneud penderfyniadau rhwng 7 a 12 wythnos (amserlenni statudol).

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

  • A yw Sir Gaerfyrddin wedi gwneud defnydd llawn o'r cyllid ac a oes digon i’r dyfodol? Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant eu bod, fel gwasanaeth, wedi bod yn ffodus o ran twf y tîm a nifer fawr o unigolion o ysgolion a bod y gyllideb o ran dysgu proffesiynol wedi derbyn grantiau ADY ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Dywedodd y Rheolwr ADY fod Athro/Athrawes Plant Byddar ychwanegol wedi ymuno â'r tîm a bod 2 Arbenigwr Awdurdod Lleol ym Mharcyrhun, Rhydaman a Chanolfan Elfed yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth a bod hyd at 20 o blant byddar sydd am gael mynediad i addysg plant byddar.
  • Cyfeiriwyd at y modd y caiff lefelau galluoedd eu monitro mewn ysgolion prif ffrwd mewn perthynas ag unedau arbenigol ag anghenion mwy cymhleth.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod gwerthusiad cynhwysfawr ym mhob ysgol sy'n galluogi cynhwysiant cadarnhaol a bod hyn yn cael ei rannu drwy gynnig cynhwysiant mewnol mewn lleoliadau arbenigol.
  • Gofynnwyd a oedd yn rhan o faes gorchwyl yr ysgol i addysgu rhieni neu a fyddai'n Sir yn gwneud hynny.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant, gan eu bod yn dal i aros am wybodaeth dechnegol gan Lywodraeth Cymru, fod yn rhaid inni aros cyn rhannu unrhyw gyhoeddiad terfynol.
  • Gofynnwyd a oes ôl-groniad o ran tribiwnlysoedd oherwydd Covid-19 a beth yw'r amserlen ar gyfer tribiwnlysoedd.  Dywedodd y Rheolwr ADY fod y gwasanaeth tribiwnlysoedd wedi parhau drwy gynnal apeliadau tribiwnlysoedd rhithwir ac nad yw wedi dod i ben yn ystod Covid-19.
  • Cyfeiriwyd at y 5% cyllid disgyblion o ran eu cyllideb ADY; dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant fod ystyriaeth allweddol yn ymwneud ag addysgu da i bob disgybl a gwybod bod pob athro/athrawes yn gwybod lefel eu plant.
  • Gofynnwyd a fydd y broses drawsnewid yn ddi-dor i'r platfform digidol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol gan nad yw hynny wedi digwydd o'r blaen.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant fod y platfform a ddewiswyd h.y. y Ganolfan Athrawon, yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol ar hyn o bryd a'i bod yn ychwanegu at y cymhwysiad presennol.  Yn y dyfodol bydd y Swyddog Blynyddoedd Cynnar / Dechrau'n Deg yn edrych ar hyn yn fanwl cyn iddynt gael eu cofnodi ar y system i ddechrau.
  • Cyfeiriwyd at ysgolion â llai na 100 o ddisgyblion sydd o dan y golofn cyllid canolog a gofynnwyd ai'r nod yma yw rhannu adnoddau dynol. Mae'r Rheolwr ADY wedi cysylltu ag awdurdodau eraill a’r nod yw dirprwyo cymaint o arian ag sy'n bosibl i ysgolion ond nid oes dim awdurdod wedi penderfynu beth sy'n cael ei wneud.  Arfer gorau yw rhoi mwy o arian i ysgolion ar gyfer ymyrraeth gynnar sy'n ei gwneud yn haws gwneud y penderfyniadau cywir a chynllunio yn y tymor hir.
  • Mae 22 fformiwla wahanol yn ceisio cyflawni'r un canlyniad.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant, gan na fydd Datganiadau yn bodoli, y byddwn yn ceisio rhoi'r adnoddau ar sail hyblyg i ysgolion er mwyn i'r ysgolion benderfynu ar y ffordd ymlaen.  Bydd ysgolion yn gofyn am arian i ddiwallu anghenion y plentyn hwnnw h.y. ymyrraeth gynnar. Os credir na all yr ysgolion ddiwallu anghenion y disgybl hwnnw gall y Sir benderfynu ac mae Cynllun Datblygu Unigol yn dod o dan yr awdurdod. Yn Lloegr maent wedi penderfynu ar fodel cenedlaethol mewn perthynas â chyllid fel rhan o'r sefydliad newydd. Nid oes trafodaethau i'r perwyl hwn yn digwydd yng Nghymru.
  • Gofynnwyd a yw cynghorau yng Nghymru wedi cyflwyno cais ffurfiol am fformiwla ariannu i Lywodraeth Cymru.   Nid oedd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant a'r Rheolwyr ADY yn ymwybodol a chredir yn gryf ar draws y pwyllgor fod angen ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder cyn rhoi'r system newydd ar waith ym mis Medi, 2021 ac o bosibl dilyn patrwm Lloegr.  Bydd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant yn drafftio llythyr ar ran y Cadeirydd i ofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio dull tebyg i Loegr o ran cyllid ADY.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: