Agenda item

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2021/22

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2021-22 a amlinellai y blaenoriaethau ar gyfer yr adran ac a nodai sut yr oeddent yn cefnogi’r 5 Ffordd o Weithio a 7 Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Yn sgil pandemig Coronafeirws COVID-19, roedd hwn yn gynllun cryno; byddai fel arfer yn cynnwys adran adolygu ond roedd hwn eisoes wedi'i gynnwys yn yr Asesiadau o Effaith COVID-19 ar Wasanaethau a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

TGCh a Pholisi Corfforaethol

·       Dywedwyd y byddai profiadau ac adborth staff ac Aelodau dros y flwyddyn ddiwethaf o ran gweithio gartref ac ati yn cyfrannu at ddatblygiad rhaglen waith y dyfodol a ‘ffyrdd newydd o weithio’;

·       Eglurwyd mai’r sgôr risg uchaf bosibl o dan ‘Risgiau Adrannol Allweddol’ fyddai 25 ac y byddai matrics yn cael ei ddefnyddio;

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch adrodd am ‘Fesurau Llwyddiant Allweddol’ fel canrannau yn hytrach na thargedau, eglurwyd bod hyn wedi’i osod ar lefel Cymru gyfan a’i fonitro gan Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd roedd cynlluniau busnes is-adrannol gweithredol yn sail i'r Cynllun Adrannol ‘lefel uchel’ a oedd yn cynnwys llawer mwy o fanylion a mesurau perfformiad gweithredol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y rhain yn chwarterol. Awgrymwyd y dylid trefnu sesiwn gloywi ar gyfer y Pwyllgor ynghylch y System Monitro Perfformiad a Gwella(PIMS);

Y Gyfraith a Gweinyddiaeth

·       O ran ‘cyllidebau cyfun’ gydag awdurdodau eraill, dywedwyd bod pob awdurdod ar hyn o bryd yn cadw rheolaeth ar ei gyfran ei hun o’r gyllideb ond bod trafodaethau ar wariant yn cael eu cynnal ar sail partneriaeth;

·       Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Gweinyddiaeth, mewn ymateb i gwestiwn, nad oedd gan Adran y Gyfraith ddigon o adnoddau ar hyn o bryd a bod yn rhaid i rywfaint o waith cyfreithiol sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol ac addysg yn benodol gael ei gontractio'n allanol a'r gwasanaethau perthnasol fyddai'n talu amdanynt. Roedd trafodaethau ar y gweill gydag adrannau cleientiaid gyda'r bwriad o nodi cyllid a fyddai'n caniatáu i dîm mewnol y gyfraith gadw mwy o waith yn fewnol;  

Rheoli Pobl

·       Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol i ail-edrych ar hepgor perfformiad y tîm TIC o'r 'Mesurau Llwyddiant Allweddol' yn enwedig o ystyried yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd hyd yma a'r posibiliadau ar gyfer gwella ar y llwyddiant hwnnw mewn meysydd nad oeddent wedi cael sylw hyd yn hyn megis masnachadwyedd;

·       Cyfeiriwyd at yr anawsterau presennol y mae gweithwyr newydd yn eu profi oherwydd diffyg ymgysylltiad wyneb yn wyneb â'u cydweithwyr a'r angen i greu ethos tîm. Dywedwyd y gallai Penaethiaid Gwasanaeth ganiatáu i staff ddychwelyd i'r swyddfa am resymau sy'n gysylltiedig â materion llesiant, diffyg lle neu fand eang gartref, hyfforddiant/sefydlu a chymorth ar gyfer prentisiaethau a staff newydd, neu ofynion gwaith e.e. gweithio ar bapur neu'r angen i gwrdd â'r cyhoedd wyneb yn wyneb;

Adfywio - Eiddo

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd unrhyw beth y gallai'r awdurdod ei wneud i sicrhau bod unrhyw eiddo a werthai yn cael ei ddefnyddio at y diben a gynigiwyd yn wreiddiol gan y prynwr. Nododd y Pennaeth Adfywio, er bod hyn yn anodd, mewn rhai amgylchiadau, roedd yna ffyrdd lle y gellid dylanwadu ar ddefnydd yn y dyfodol megis cadw tir rhydd-ddaliad nes bod y datblygiad wedi'i gwblhau'n foddhaol;

·       O ran meintioli buddion adfywio i dwristiaeth, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynllun adfer economaidd ledled y Sir yn seiliedig ar 11 thema allweddol a oedd yn cynnwys twristiaeth/digwyddiadau ac ati.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau