Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - KUBUS, 29 HEOL YR ORSAF, LLANELLI SA15 1AW

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr Aram Mahmood am drwydded safle ar gyfer Kubus, 29 Heol yr Orsaf, Llanelli i ganiatáu'r canlynol:

 

Cyflenwi Alcohol, oddi ar y safle - Dydd Llun i ddydd Sul 09:00-21:00;

Oriau Agor - Dydd Llun i ddydd Sul 09:00-21:00.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·       Atodiad A – Copi o'r cais;

·       Atodiad B - Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

·       Atodiad C – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

·       Atodiad D - Sylwadau gan bobl eraill.

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud sylwadau mewn perthynas â'r cais. Cyfeiriwyd at y dogfennau ychwanegol a ddosbarthwyd ar ran cynrychiolydd yr ymgeisydd a’r heddlu ac nid oedd unrhyw wrthwynebiadau iddynt. Ar hynny, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan y rhai oedd a wnelont â'r mater.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B. Tynnwyd sylw, yn benodol, at y Polisi Effaith Gronnol yn ymwneud â rhan o Heol yr Orsaf, Llanelli, a fabwysiadwyd gyntaf gan yr Awdurdod ym mis Mawrth 2012 a'r ffaith bod y safle hefyd mewn ardal sy'n destun Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. 

 

Cyfeiriodd cynrychiolwyr Heddlu Dyfed-Powys at eu sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad, a oedd yn cynnwys amodau posibl, a'r dogfennau ychwanegol a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolwyr Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Yna rhoddwyd cyfle i gynrychiolydd yr Ymgeisydd gyflwyno sylwadau ar ran yr ymgeisydd, a oedd yn bresennol, ac, yn benodol, cyfeiriodd at ail-greu trefn weithredu'r siop i leihau’r risgiau o ran troseddau a niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant.  Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid gwrthod y cais.

Y RHESYMAU:

Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  1. Mae 29 Heol yr Orsaf, Llanelli mewn ardal oedd wedi ei chlustnodi yn Natganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor yn fan problemus o ran troseddau ac anhrefn ac mae'n destun Asesiad Effaith Gronnol (a adnewyddwyd yn 2021).
  2. Mae 21 o safleoedd trwyddedig yn yr un stryd sy'n ffurfio ardal yr asesiad effaith gronnol (sydd wedi gostwng o 24 yn 2012).
  3. Mae'r eiddo hefyd mewn ardal sy'n cael ei chynnwys mewn Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy'n ymwneud ag yfed ar y stryd. (Adnewyddwyd yn 2020)
  4. Mae lefelau troseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol yn parhau i fod yn uchel yn Heol yr Orsaf er bod ychydig llai o safleoedd trwyddedig.
  5. Mae problem benodol yn ymwneud â grwpiau mawr o bobl feddw sy’n ymgynnull ar y stryd, yn gweiddi, ac yn rhegi ac yn dychryn trigolion lleol.
  6. Mae tystiolaeth bod y troseddau a'r anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol sydd dan sylw yn gysylltiedig â chrynodiad safleoedd trwyddedig yn y stryd honno.
  7. Nid oes trwydded safle mewn grym ar y safle ar hyn o bryd. Gwrthodwyd ceisiadau blaenorol yn 2013 a 2019 (cadarnhawyd y penderfyniad diwethaf yn dilyn apêl)

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol y byddai caniatáu'r cais yn tanseilio'r amcan trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod datganiad polisi trwyddedu y Cyngor yn creu rhagdybiaeth amodol na ddylid caniatáu'r cais hwn ac yn nodi mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid diystyru'r polisi. Nododd yr Is-bwyllgor ymhellach fod y polisi hefyd yn nodi bod honiadau y byddai safle trwyddedig yn cael ei reoli'n dda yn annhebygol o gyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi.

 

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd felly oedd dangos pam na fyddai caniatáu trwydded ar gyfer y safle hwn yn tanseilio'r amcan trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn.

 

Y cwestiwn allweddol oedd a fyddai ychwanegu safle trwyddedig arall at y crynodiad presennol yn Heol yr Orsaf yn tanseilio'r amcan trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn. Y rhagdybiaeth yn y polisi trwyddedu oedd y byddai'n tanseilio'r amcan hwnnw. Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd ger ei fron, roedd yr ymgeisydd wedi methu â dangos mewn modd a oedd yn bodloni'r Is-bwyllgor fod amgylchiadau eithriadol i'w cael i ddiystyru'r rhagdybiaeth honno a gwyro oddi wrth y polisi.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried a fyddai'r amodau trwyddedu ychwanegol a gynigiwyd gan yr ymgeisydd yn hyrwyddo'n ddigonol yr amcan trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn. O ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd am droseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol yn Heol yr Orsaf a'r strydoedd cyfagos, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai amodau o'r fath yn ddigonol i hyrwyddo'r amcan trwyddedu hwnnw, pe bai trwydded yn cael ei rhoi.

 

Yn unol â hynny, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai caniatáu'r cais yn debygol o danseilio'r amcan trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn ac felly gwrthododd y cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod gwrthod y cais yn ymateb priodol a chymesur i broblemau troseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol yn Heol yr Orsaf a'r strydoedd cyfagos.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau