Agenda item

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2020-21

Cofnodion:

Cyn cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol llongyfarchodd yr Arweinydd y Cynghorydd Gareth John ar ei benodiad yn aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyfeiriodd at y ffaith, er bod cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal yn rhithwir flwyddyn ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf, mai'r gobaith oedd dechrau cyfarfodydd hybrid yn fuan lle gallai aelodau a swyddogion fynychu cyfarfod yn bersonol neu ar-lein. Ar nodyn cadarnhaol croesawodd y ffaith bod 2 filiwn o bobl yng Nghymru bellach wedi cael brechiad i'w hamddiffyn rhag Covid. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda roedd 60% o'r boblogaeth wedi cael eu brechiad cyntaf ac roedd 27% wedi cael eu hail frechiad. Fodd bynnag, o ystyried newyddion am amrywiolyn Covid o India, pwysleisiodd yr angen am wyliadwriaeth barhaus gan ychwanegu y byddai ymateb yr Awdurdod yn cael ei fesur a'i gymesur a'i arwain gan resymeg wyddonol. Ychwanegodd, er bod cyfyngiadau wedi cael eu llacio'n ddiweddar, y byddai'r Awdurdod yn symud ymlaen yn ofalus gan ganolbwyntio ar ddychwelyd i'r arfer o ran ailagor busnesau a gwasanaethau lleol.

 

Ar hynny cyflwynodd yr Arweinydd ei chweched Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2020/21 a gyflwynwyd eleni ar ffurf fideo o'r enw 'Myfyrio, Ailosod, Symud Ymlaen’. Dywedodd fod y fideo, a fyddai hefyd ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor, yn rhoi crynodeb o'r heriau a wynebir gan y Cyngor a'r meysydd blaenoriaeth a fyddai'n cael sylw o hyn ymlaen. Roedd y fideo yn cynnwys cyfeiriadau at y canlynol:

 

·       Ailosod - Ffyrdd newydd o weithio, ffyrdd newydd o wasanaethu ein preswylwyr, polisïau newydd a ffyrdd newydd o weithredu, mae'r pandemig wedi gwneud i bethau ddigwydd yn gyflymach - ac yn y rhan fwyaf o achosion roedd hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn;

 

·       Symud Ymlaen - Cael economi Sir Gaerfyrddin i symud eto. Byddwn yn cefnogi busnesau i ailsefydlu a ffynnu eto. Byddwn yn creu swyddi newydd i gael pobl yn ôl i waith, a byddwn yn parhau i wireddu ein huchelgeisiau;

 

·       Adferiad Canol Trefi Canol ein trefi yw lle mae pobl yn dod at ei gilydd, lle gall busnesau ffynnu a lle gall ffrindiau a theulu fwynhau eu hamser hamdden gyda'i gilydd. Yng nghanol ein holl drefi, byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau presennol a darpar fusnesau ac yn darparu'r cyfleoedd ar gyfer twf a gwneud pethau'n wahanol;

 

·       Deg Tref Ymhellach allan o'r canolfannau trefol, rydym hefyd yn canolbwyntio ar ein trefi marchnad gwledig - elfen bwysig a chyffrous o'n strategaeth adfywio gwledig, Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen;

 

·       Gwledig (cyffredinol) a Mart Caerfyrddin - Creu cyfleoedd newydd i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin fel bod teuluoedd sy'n cael eu geni a'u magu yn ein cymunedau yn cael eu hannog i aros, cyfrannu a ffynnu;

 

·       Arfordir - Datblygiadau arfordirol allweddol gan gynnwys y prif gynllun adfywio gwerth £7 miliwn sydd i'w gwblhau'n fuan ym Mhentywyn gydag amgueddfa ac eco-westy newydd o'r radd flaenaf ochr yn ochr â'r promenâd newydd, a dechrau datblygiad Pentre Awel gwerth £200 miliwn yn Llanelli a fydd yn cynnwys darpariaeth ymchwil feddygol o'r radd flaenaf a gofal iechyd gan gefnogi ac yn annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach a chreu bron i 2,000 o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant/prentisiaeth;

 

·       Seilwaith ffyrdd – Dechrau sawl cynllun seilwaith dros y 12 mis nesaf, gan fuddsoddi miliynau o bunnoedd i wella ffyrdd, llwybrau beicio a llwybrau gan gynnwys gwella cyffordd 48 yn yr Hendy a oedd eisoes ar y gweill i leddfu tagfeydd oriau brig ar gyfer traffig sy'n ymuno â'r M4 neu'n gadael yr M4;

 

·       Newid yn yr hinsawdd/ailgylchu - Fel un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019 a chyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd yn manylu ar sut yr ydym yn bwriadu dod yn garbon sero-net erbyn 2030, roedd ein ffocws cychwynnol ar ein hôl troed carbon mesuradwy. Roedd allyriadau carbon o'n hadeiladau a'n fflyd wedi gostwng yn sylweddol eisoes ac rydym yn buddsoddi mewn pwyntiau gwefru ceir trydan i gefnogi teithio cynaliadwy ac mewn cyfleusterau beicio i annog teithio llesol; rydym yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy, gwella ein bioamrywiaeth ac edrych ar atebion sy'n seiliedig ar natur. Byddwn yn diogelu ac yn gwella Sir Gaerfyrddin fel ei bod yn parhau i dyfu a ffynnu er budd ein cymunedau - heddiw, ac yn ein dyfodol;

 

·       Tlodi/tai - Roedd y pandemig wedi dod i'r amlwg y trafferthion gwirioneddol y mae rhai pobl yn ein cymunedau yn eu hwynebu. Byddwn yn eu helpu, yn y tymor byr a'r tymor hir. Dros y 12 mis nesaf byddwn yn datblygu gwasanaeth rydym wedi'i lansio'n ddiweddar i helpu, cefnogi a chynghori pobl mewn angen - nid dim ond cyfeirio at ffynonellau cymorth uniongyrchol, ond hefyd eu harwain tuag at ddyfodol gwell drwy gefnogi eu llesiant ariannol, emosiynol a chorfforol. Rydym yn addo adeiladu 400 o gartrefi newydd ychwanegol dros y tair blynedd nesaf fel rhan o raglen fuddsoddi gwerth £260 miliwn a fydd hefyd yn creu swyddi lleol, gwella a chynnal y stoc dai bresennol, datblygu safonau newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni a symud tuag at gartrefi carbon niwtral. Yn ogystal ag adeiladu cartrefi newydd, rydym yn gwella cymunedau - gan ganolbwyntio'n benodol ar feysydd allweddol, fel Tyisha yn Llanelli sydd wedi dioddef dirywiad dros nifer o flynyddoedd;

 

·       Rhaglen Moderneiddio Addysg - Dros y flwyddyn nesaf bydd mwy o ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu gan gynnwys Ysgol Pen-bre ac Ysgol Heol Goffa, a'r dathliadau agoriadol swyddogol mewn sawl un arall sydd newydd eu cwblhau, gan gynnwys Ysgol Pum Heol ym Mhump-hewl, Ysgol Rhys Prichard yn Llanymddyfri, ac Ysgol Llangadog. Rydym yn parhau i fuddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd drwy ein Rhaglen Moderneiddio Addysg;

 

·       Gofal cymdeithasol - Byddwn yn parhau i gefnogi iechyd a llesiant pobl gyda'n nod cyffredinol o helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain, ond bod yno i gynnig cymorth os oes angen help llaw arnynt;

 

·       Hamdden - Bydd mwy o gyfleoedd yn cael eu darparu i bobl fwynhau byw bywydau egnïol ac iach gan gynnwys canolfannau hamdden newydd yn Llanelli a Llanymddyfri. Byddai Sir Gaerfyrddin yn cael ei hyrwyddo fel canolbwynt beicio Cymru gan ddod â mwy o feicwyr, a digwyddiadau gobeithio, i'r sir i adeiladu ar ein llwyddiannau blaenorol. Edrychwn ymlaen at ddatblygu parc sglefrio newydd i bobl ifanc yn y Gwendraeth;

·       Caffael - Roedd cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'u hymrwymo o'n Rhaglen Gyfalaf i ddatblygu'r datblygiadau hyn, ac mae ein timau'n parhau i weithio'n ddiwyd i sicrhau cyllid grant o bob ffynhonnell - gan ddefnyddio pob punt posibl fel y gall Sir Gaerfyrddin elwa. Dros y 12 mis nesaf, a thu hwnt, byddwn yn sicrhau bod yr economi leol wrth wraidd caffael - gan sicrhau bod pobl leol, busnesau a chadwyni cyflenwi yn gallu cymryd rhan ac elwa o'n buddsoddiadau a'n datblygiadau. Rydym am gaffael o leiaf 70% yn lleol - a fydd yn cryfhau'r economi leol, cadw pobl mewn swyddi a chreu swyddi newydd, darparu prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi, a sicrhau bod pob ceiniog yn cyfrif;

 

·       Twristiaeth/ffilmio - Roedd pobl yn dod i Sir Gaerfyrddin ar wyliau, ar gyfer ymweliadau dydd, ar gyfer teithiau busnes. Roedd y cwmnïau teledu, ffilm a drama yn paratoi i greu eu ffilmiau diweddaraf yn y lle rydym yn ei alw'n gartref - oherwydd mae gennym gymaint i'w gynnig. Gobeithio y gallaf eich annog i weld Sir Gaerfyrddin drwy eu llygaid, ac i ni drysori'r hyn sydd gennym. Gadewch i ni symud Sir Gaerfyrddin ymlaen a ffynnu.’

 

Cafodd Arweinwyr y Gr?p Llafur, y Gr?p Annibynnol Newydd a'r Gr?p Annibynnol gyfle i roi sylwadau ar adroddiad yr Arweinydd. Mynegodd pob un ohonynt eu diolchiadau a'u gwerthfawrogiad i bawb a oedd wedi darparu cymorth yn ystod pandemig Covid.

I gloi, diolchodd yr Arweinydd i bawb am eu cefnogaeth  a thalodd deyrnged i holl staff a phreswylwyr Sir Gaerfyrddin, a phob gweithiwr 'rheng flaen' am eu hymroddiad, eu cymorth a'u cryfder dros y flwyddyn ddiwethaf.

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad/Fideo Blynyddol yr Arweinydd ar gyfer 2020/21.